Cartref teuluol hardd ym Mharc Muriau, gyda chegin fawr a golygfeydd cefn gwlad. / Beautiful family home in Muriau Park with a spacious kitchen and countryside views.
English below
“Be dani’n ei garu fwyaf am fyw yma ydi faint mae’r tŷ’n gweithio ar gyfer bywyd teuluol. Y ‘kitchen-diner’ yw lle mae popeth yn digwydd — gallwn fod yn coginio tra bod y plant yn eistedd wrth y bwrdd gyda’u gwaith cartref, neu mae ffrindiau a theulu’n galw heibio am baned ac yn aros am oriau.”
Mae Parc Muriau – neu ‘Muriau Park’ fel mae pawb lleol yn ei alw – ymhlith un o’r cul-de-sacs mwyaf poblogaidd yng Nghaernarfon. Wedi’i leoli ar ymyl y dref, mae’n cynnig y gorau o’r ddau fyd: golygfeydd tawel o’r cefn gwlad a chymuned da, gyda holl gyfleusterau Caernarfon o fewn pellter cerdded. Mae’n stryd lle mae plant yn chwarae, cymdogion yn sgwrsio, a theuluoedd a phensiynwyr yn byw ochr yn ochr – lle mae croeso cynnes yr eiliad dachi’n cyraedd adra.
Mae’r ty tri llofft hwn wedi cael ei garu a’i ofalu amdano gan yr un teulu ers 14 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mae wedi’i drawsnewid yn llwyr: to newydd, waliau wedi’u hailblastro, ffenestri a drysau ffres, carped newydd a hyd yn oed addasiad i’r llofft. Ychwanegiad diweddaraf y ty yw estyniad cegin-fwyty sy’n wirioneddol sbeshial – a dyma galon y cartref.
“Ar ddydd Sul, byddwn weithiau’n beicio lawr Y Foryd neu’n cerdded i Gaernarfon, ac wedyn yn dod adref i goginio cinio Sul mawr. Mae teulu’n dod draw a phawb yn ymgynnull o amgylch y bwrdd, yn sgwrsio ac yn chwerthin.”
Mae’r gegin-fwyty yn leoliad perffaith ar gyfer bywyd teuluol: llawn golau, agored a chroesawgar. Dychmygwch nosweithiau o amgylch y bwrdd, prosiectau celf a chrefft ar hyd y cownteri neu ddyddiau haf gyda’r drysau ‘bi-fold’ ar agor i’r ardd. Mae’r llif naturiol rhwng y tu mewn a’r tu allan yn gwneud bywyd teuluol yn hawdd a braf. Pan ddaw’r gaeaf, mae’r ystafell fyw gyda’i ffenest fawr a’i tan coed yn cynnig lloches glyd ar ôl swper.
Ar y llawr cyntaf ceir tair llofft o faint da, gyda’r brif ystafell yn cynnig golygfeydd bendigedig dros y caeau y tu ol. Mae’r ystafell ymolchi wedi cael diweddariad diweddar, gyda bath mawr a chawod ar wahan, tra bod yr atig wedi’i drawsnewid i mewn i ystafell ecstra llawn golau gyda dau ffenestr Velux – yn lle perffaith ar gyfer swyddfa gartref, ystafell wely neu ‘stafell chwarae i’r plant.
Mae swyn y cartref yn parhau i’r ardd, gyda lle i bawb ei fwynhau. Wedi’i rhannu’n ddwy lefel, mae’n cyfuno ardal i oedolion a lle i blant fwynhau. Mae’r teras isaf yn ddelfrydol ar gyfer bwyta yn yr awyr agored a nosweithiau o dan olau’festoon’, tra bo’r lefel uchaf yn cynnig digon o le i blant chwarae’n rhydd. Wedi’i hwynebu i’r de, mae’r ardd yn derbyn haul o fore tan nos, gyda’r synau naturiol o wartheg cyfagos yn ychwanegu at yr awyrgylch heddychlon.
Nid ty yn unig ydi hwn – ond cartref, yn barod i groesawu’i bennod nesaf. Wedi’i ddiweddaru’n feddylgar ac i safon uchel, ac wedi’i leoli mewn ardal sy’n cyfuno heddwch cefn gwlad â chyfleusterau trefol, dyma’r math o le lle crëir atgofion parhaol.
EPC - C
Band Treth Cyngor - D
Gwres Canolog Nwy
Ffenestri haen dwbl drwy’r ty
“What we love most about living here is how well the house works for family life. The kitchen diner is where everything happens — we can be cooking while the kids sit at the table with their homework, or friends and family pop in for a cuppa and end up staying for hours.”
Parc Muriau - although everyone locally calls it Muriau Park — is one of Caernarfon’s most sought-after cul-de-sacs. Tucked on the town’s edge, it offers the best of both worlds: peaceful countryside views and a strong sense of community, with the bustle of Caernarfon only a short walk away. It’s a street where children play, neighbours chat, and families and retirees live side by side — a place that feels instantly welcoming.
This three-bedroom semi-detached home has been lovingly cared for by its current owners for 14 years. In that time, it’s been thoughtfully transformed: from a new roof and replastered walls to fresh windows, doors, and carpets. The loft has been converted, and most recently a stunning kitchen-diner extension was added — and it’s a space that really stands out.
“On a Sunday, we’ll sometimes cycle down Y Foryd or walk into Caernarfon, before coming home to cook a big Sunday lunch. Family comes over and everyone gathers around the table, chatting and laughing.”
The kitchen diner is the heart of the home: bright, open, and perfect for family life. Picture evenings around the table, school projects spread across the worktops, or summer days with the bi-fold doors wide open to the garden. The flow between inside and out makes entertaining effortless. When the nights draw in, the family living room takes centre stage — a cosy retreat with a bay window and log burner, perfect for curling up after dinner.
Upstairs are three well-proportioned bedrooms, the main with sweeping views over the fields behind. The bathroom has been recently renewed with a large bathtub and separate shower, while the loft, with its two Velux windows, is now a light-filled office and playroom rolled into one.
The garden is just as special. Split across two levels, it balances grown-up elegance with family fun. The lower terrace is ideal for outdoor dining and evenings under festoon lights, while the upper level gives children their own space to play freely. Facing south, the garden catches the sun from dawn until dusk, with only the gentle sound of cows in the fields to remind you how close you are to nature.
This is more than a house — it’s a home ready to welcome its next chapter. Stylishly updated yet full of warmth, in a location that blends countryside calm with town convenience, it’s the kind of place where memories are made.
EPC - C
Council Tax Band - D
Gas Central Heating
Double Glazing throughout
Ystafell Fyw / Lounge 11' 8" x 12' 9" (3.56m x 3.89m)
Ystafell fyw gartrefol a chlyd, berffaith i ymlacio o flaen y llosgwr coed neu fwynhau ffilm gyda’r teulu. Mae’r ffenest bae fawr yn edrych allan dros y stryd braf, gan greu lle heddychlon i ffwrdd o brysurdeb y gegin.
A homely, cosy lounge, perfect for relaxing by the log burner or enjoying a family film. The large bay window overlooks the pretty street, creating a peaceful retreat away from the bustle of the kitchen.
Cegin a 'Stafell Fwyta / Open Plan Kitchen Diner 20' 8" x 16' 3" (6.30m x 4.95m)
Estyniad diweddar yw’r gegin-fwyty ddisglair hon, gyda digon o le i ynys ganolog, bwrdd teuluol a soffa. Mae ffenestr Velux yn llenwi’r gofod a golau naturiol, a drysau plygu’n agor i’r ardd a’r caeau yn y pellter.
A bright new extension, this kitchen diner offers space for a centre island, family dining table and sofa. A Velux window floods the room with light, while bi-fold doors open to the garden and fields beyond.
Ystafell Molchi / Bathroom 5' 6" x 8' 1" (1.68m x 2.46m)
Drws llithro’n arwain i ystafell ymolchi sydd wedi ei ddylunio feddylgar. Bath moethus mawr a chawod ar-wahan, yn gwneud hwn yn ystafell berffaith i’r teulu.
A sliding door leads into a cleverly designed bathroom. With a large, luxurious tub and a stand-in shower, it’s an ideal family space.
Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 11' 9" x 9' 11" (3.58m x 3.02m)
Prif ystafell wely llawn golau, gyda golygfeydd hyfryd dros y caeau. Er gwaethaf gwely 'king size' a chypyrddau mawr, mae’r lle yn teimlo’n eang ac yn dawel, gan greu gofod hamddenol i unrhyw riant.
A light-filled primary bedroom with beautiful views across the fields. Even with a king bed and large wardrobes, it feels spacious and calm — the perfect retreat at the end of the day.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 10' 6" x 10' 10" (3.20m x 3.30m)
Ystafell wely eang sy’n ffitio gwely dwbl yn gyfforddus, gyda ffenestr fawr yn edrych dros y stryd.
A generously sized room that fits a double bed comfortably, with a large window overlooking the street.
Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 8' 2" x 7' 2" (2.49m x 2.18m)
Ystafell L-siâp yng nghanol blaen y tŷ, yn ffitio gwely sengl yn gyfforddus.
At the front of the house, this L-shaped bedroom fits a single bed comfortably.
'Stafell Attig / Attic Room 17' 0" x 11' 10" (5.18m x 3.61m)
Bonws ychwanegol yw’r llofft, gyda mynediad trwy ysgol lofft a 'bannister' diogel i blant. Mae dau ffenestr Velux yn llenwi’r gofod a golau, gan greu lle hyblyg gyda digon o botensial ar gyfer defnydd pellach.
The attic is a real bonus, accessed by loft ladder with child-safe bannister. Two Velux windows flood the space with light, making it versatile with plenty of potential for future use.
Lleoliad
Dim ond 1.8 km (tua milltir) yw Parc Muriau o ganol tref Caernarfon. Mae’n leoliad delfrydol gyda mynediad hawdd i’r ffordd osgoi sy’n mynd â chi i Fangor a’r A55, neu i lawr i Ben Llyn a’r A470 os ydych am fynd i’r cyfeiriad hwnnw. Mae bywyd cymunedol yma’n llawn bywiogrwydd. Mae’r clwb rygbi lleol gerllaw, ynghyd a gwarchodfa natur gyda pharc chwarae i blant. Mae’r llwybr beicio yn mynd a chi’n syth i mewn i’r dref, lle ceir cigyddion, caffis, bwytai, tafarndai a’r llyfrgell. Mae Caernarfon yn frith o gyfleoedd i ymuno — o grwpiau babanod a phlant bach i glybiau rhedeg, rasys lleol, corau a digwyddiadau cymunedol. Mae rhywbeth i bawb yma, a chroeso cynnes bob tro. / Muriau Park is just 1.8 km (about a mile) from Caernarfon town centre. It’s in the ideal location for quick access to the bypass, taking you straight to Bangor and the A55, or down towards Pen Llyn and the A470 if you’re heading that way.nCommunity life here is vibrant. The local rugby club is nearby, as well as a nature reserve with a children’s play park. The cycle track leads you right into town, where you’ll find butchers, cafés, restaurants, pubs, and the library. Caernarfon is bursting with opportunities to get involved — from baby and toddler groups to running clubs, local races, choirs and community events. There’s always something happening, and always a warm welcome.
Datganiad Ymwadiad Eiddo
Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.
Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.