Ty trefol Fictoraidd gyda 6 llofft, wedi’i adnewyddu’n llawn, lloriau pren a nodweddion gwreiddiol. / Late Victorian 6-bed townhouse, fully renovated with wooden floors, period charm and modern style.

English below

“Wedi’i achub yn ofalus gan adnewyddwr lleol, mae Bryn Gwyn yn barod ar gyfer ei benod nesaf. Gyda nenfydau uchel, goleuni naturiol yn llifo trwyddo a nodweddion gwreiddiol hardd, mae’r cartref Fictoraidd hwn yn cynnig gardd hyfryd, golygfeydd pell o’r mynyddoedd a lleoliad perffaith yn Llangefni. Nawr mae’n aros am y person cywir i barhau a’i stori.”

Mae’r ty trefol hyfryd yma yn ymfalchïo mewn chwe llofft, wedi’i ymestyn dros bedwar llawr – yn gyfuniad perffaith o gyfnod Fictoraidd hwyr gyda’i nenfydau uchel, ffenestri steil ‘sash’ (double glazed), a nodweddion gwreiddiol, ochr yn ochr â gorffeniad modern trawiadol. O’r eiliad y byddwch yn camu i mewn, mae’r grisiau wedi’u paentio a llaw yn esgyn trwy’r ty yn gosod y naws – steilus, unigryw ac yn groesawgar.

Ar y llawr gwaelod mae’r ystafelloedd byw yn wirioneddol drawiadol, gyda nenfydau uchel, ffenestri llydan, lloriau pren naturiol a than goed yn dod â chymeriad a chynhesrwydd. Mae’r gegin fawr yn cyfuno gofod modern gyda swyn hanesyddol, gan gadw’r popty gwreiddiol fel nodwedd weledol unigryw.

Ar y llawr cyntaf mae’r brif ystafell wely yn odidog, gyda thair ffenestr yn fframio golygfeydd pell o fynyddoedd Eryri. Mae dwy ystafell wely arall hael ac ystafell molchi newydd sbon hefyd ar y llawr hwn. Ar dop y ty mae tair ystafell wely ychwanegol, pob un gyda’i chymeriad ei hun, ynghyd ag ail ystafell ymolchi deuluol gyfleus. Dyma dy sy’n datgelu mwy a mwy wrth ichi fynd drwyddo

Yn waelod y ty mae dwy ystafell fawr ychwanegol sy’n cynnig hyblygrwydd llwyr – perffaith fel gofod storio, gweithdy creadigol neu lle i’r plant i ymlacio gyda ffrindia wrth iddyn nhw dyfu.

Mae’r cartref cyfan wedi ei ail wneud yn ddiweddar iawn yn ogystal a carpedau newydd, lloriau wedi’u hadnewyddu, a’i addurno’n drawiadol gyda phaent du ar y grisiau, y sgyrtings a’r fframiau drysau, fel celf.

Dyma gartref gyda urddas a digon o le i anadlu – barod i deulu sy’n chwilio am ofod hael, cymeriad a rhywbeth arbennig yn Langefni.

EPC - E

Band Treth Cyngor - E

Gwres Canolog Nwy - Gwasanaeth Boeler yn Ebrill 2025

Ffenestri Haen Dwbwl

Fibre Broadband ar gael

“Lovingly rescued by a local renovator, Bryn Gwyn is ready for its next chapter. With soaring ceilings, floods of natural light and beautiful original features, this Victorian home has a lovely garden, distant mountain views and the perfect Llangefni setting. Now it awaits the right person to continue writing its story.”

This unique townhouse boasts six bedrooms spread over four floors – a perfect combination of the late Victorian period with its high ceilings, double-glazed sash-style windows and original features, alongside striking modern finishes. From the moment you step inside, the hand-painted staircase rising through the house sets the tone – stylish, unique and welcoming.

On the ground floor, the living spaces are truly impressive, with lofty ceilings, wide windows, natural wooden floors and a log burner bringing both character and warmth. The large kitchen blends modern space with historic charm, retaining the original oven as a distinctive visual feature.

On the first floor, the principal bedroom is superb, with three windows framing distant views of the Eryri mountains. Two further generous bedrooms and a brand-new bathroom are also on this level. At the top of the house are three additional bedrooms, each with its own personality, along with a convenient second family bathroom. This is a house that reveals more and more as you move through it.

At the lower level are two further large rooms offering complete flexibility – perfect for storage, a creative studio or a place for the children to relax with friends as they grow.

The whole home has been recently renovated and updated with new carpets, restored floors and striking black detailing on the staircase, skirtings and doorframes, giving the finish an artistic edge.

This is a home with dignity and room to breathe – ready for a family in search of generous space, character and something special in Llangefni.

EPC - E

Council Tax Band - E

Gas Central Heating - Boiler last serviced in April 2025

Double Glazing Throughout

Fibre Broadband

Cyntedd a Grisiau / Entrance and Stairwell
Mae’r cyntedd a'r grisiau yma’n wirioneddol grand, gyda llawr teils du a gwyn trawiadol a nenfydau uchel. Mae’r grisiau wedi’u paentio’n ddu’n sy'n gwneud datganiad cryf am y cartref hon, ac wedi’u carpedu’n newydd. Daw goleuni naturiol i mewn o’r ystafelloedd byw, gan osod naws cartrefol a llonydd i’r ty cyfan.

The hallway and staircase here are truly grand, with a striking black-and-white tiled floor and lofty ceilings. The staircase has been painted black, making a bold statement for this home, and newly carpeted. Natural light flows in from the living rooms, creating a calm and homely atmosphere.

Cegin / Kitchen
Mae’r gegin siap sgwar yma’n cynnig digon o le yn y canol i greu ynys os dymunwch. Prif atyniad yr ystafell yw’r popty gwreiddiol, wedi’i beintio i gyd-fynd a’r gegin sydd wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar. Mae llawr teils dan draed a ffenestr fawr dros yr iard gefn.

This square-shaped kitchen offers plenty of central space should you wish to add an island. Its standout feature is the original oven, painted to complement the refreshed kitchen. A tiled floor lies underfoot and a large window looks over the rear courtyard.

Ystafell Fwyta / Dining Room
Ystafell fwyta llawn golau gyda ffenestr fawr sy’n fframio’r gofod. Llawr pren naturiol a wal nodwedd lle’r oedd lle tan unwaith - lle perffaith i gael darn o gelf. Ystafell berffaith ar gyfer cinio hefo'r teulu neu le tawel i ymlacio a dianc iddo.

A light-filled dining room with a large window framing the space. Wooden floors and a feature wall where a fireplace once stood. Perfect as a hub for family gatherings, or simply as a calm retreat to escape and unwind.

Ystafell Fyw / Living Room
Dyma’r ystafell fyw sy’n rhoi’r ‘wow factor’ i’r cartref. Ystafell fawr iawn gyda nenfwd uchel, golau naturiol yn llifo i mewn trwy ffenestr bae mawr. Llawr pren a thân goed yn y canol. Yn berffaith ar gyfer dodrefn hardd a nosweithiau cynnes teuluol.

The living room delivers the home’s wow factor. A very large space with high ceilings, filled with natural light from sash-style double-glazed bay windows. Wooden floors and a central log burner set the scene for stylish furniture and cosy family nights in.

Ystafell Molchi 1 / Bathroom 1
Ystafell ymolchi newydd sbon ar y llawr cyntaf, gyda thema du a gwyn steilus. Mae cawod fawr wedi’i gosod, gwresogydd ar y wal, a ffenestr hyfryd yn llenwi’r gofod â golau, gan greu naws ffresh a braf.

A brand-new first-floor bathroom with a stylish black-and-white theme. Featuring a large fitted shower and a lovely window that fills the room with light, this space feels fresh, bright and inviting.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Yr unig ystafell yn y tŷ sydd wedi’i haddurno’n llawn i ddangos gwir botensial y cartref. Yn fodern a llawn naws dawel, gyda digon o le ar gyfer gwely mawr a dodrefn ychwanegol – gofod cyfforddus a chynnes i ymlacio.

The only room in the house fully decorated to showcase the home’s true potential. A soft and calming space with ample room for a large bed and furniture – creating a comfortable, stylish retreat for rest and relaxation.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Prif ystafell wely’r cartref – ystafell fawr gyda nenfydau uchel sy’n teimlo’n wirioneddol grand. Mae dwy ffenestr yn gadael digon o olau naturiol i lifo i mewn, gan greu gofod trawiadol ac ystafell sy’n cynnig digonedd o le a naws urddasol.

The home’s primary bedroom – a large room with lofty ceilings that feels truly grand. Two windows allow natural light to flood in, creating a bright and impressive space with a sense of elegance and plenty of room to enjoy.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
Trydedd ystafell wely’r llawr cyntaf – ystafell fawr arall gyda ffenestr fawr sy’n gadael i’r golau lifo i mewn. Wedi’i charpedu’n newydd ac yn barod i dderbyn stamp personol y perchennog nesaf.

The third bedroom on the first floor is another generous room, with a large window allowing light to pour in. Newly carpeted and ready for the next owner to add their own personal touch.

Ystafell Ymolchi 2 / Bathroom 2
Yr ail ystafell ymolchi ar yr ail lawr, gyda bath a chawod (o fewn y bath). Ystafell o faint da sy’n addas fel ystafell ymolchi deuluol, gan gynnig cyfleustra a gofod i bawb.

The second bathroom sits on the top floor, featuring both a bath and stand-in shower. A well-sized space, ideal as a practical and comfortable family bathroom.

Ystafell Wely 4 / Bedroom 4
Yn yr ail lawr mae’r cymeriad unigryw yn dechrau ymddangos, gan gynnwys yr ystafell wely hon. Gofod hyfryd gyda ffenestr Velux yn edrych dros y coed tu ôl i’r tŷ, a trawst pren hardd yn ganolbwynt i'r ystafell.

On the second floor the home’s lovely quirks begin to show, starting with this bedroom. A charming space with a Velux window overlooking the trees at the rear, and a beautiful wooden beam forming a striking central feature.

Ystafell Wely 5 / Bedroom 5
Unwaith eto mae ffenestr Velux yn ystafell wely 5, ynghyd â lle tân gwreiddiol hardd. Er nad yw’n weithredol, mae’n nodwedd drawiadol. Mae’r nenfwd yn llethu gyda thrawstiau prydferth, gan greu ystafell gysurus a chynnes.

Bedroom 5 features another Velux window alongside a beautiful original fireplace. Though no longer in use, it remains a standout feature. With its sloping ceiling and exposed beams, this is the perfect cosy and characterful bedroom.

Ystafell Wely 6 / Bedroom 6
Dyma’r chweched ystafell wely – ystafell fawr yn yr atig gyda ffenestr hardd yn edrych tuag at fynyddoedd Eryri. Ystafell siâp hyfryd sy’n derbyn digon o olau naturiol, gan greu gofod deniadol.

The sixth bedroom is a spacious attic room with a beautiful picture window looking out toward the Eryri mountains. A wonderfully shaped room filled with natural light, offering both charm and practicality.

Ystafelloedd Seler / Basement Rooms
Ar ôl dod i lawr set o risiau bach cudd o'r cyntedd, mae’r ystafelloedd selar yn ofodau mawr sy’n fonws mawr i’r tŷ. Wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar, mae’n sych ac yn barod i’w ddefnyddio. Mae'r ystafelloedd yn fawr a hefo ffenest ym mhob un, sy'n gwneud y gofodau yn olau a thawel.

After coming down a small hidden staircase from the hall, the cellar rooms open up as generous bonus spaces for the home. Recently renovated, they are dry and ready to use. Each room is spacious with its own window, making the spaces light and calm.

Location

Mae Llangefni yn dref fywiog ar Ynys Mon ac yn gymuned Gymreig lewyrchus. Mae’r ty hwn ar gyrion y dref, yn eistedd yn urddasol ar fryn. Ceir mynediad hawdd i’r A55, ac o fewn taith gerdded fer mae caffis, archfarchnadoedd a ysgolion wrth law. Mae clwb pel-droed lleol ffyniannus a digwyddiadau cymunedol rheolaidd ar gyfer pob oed, gan wneud Llangefni yn lle arbennig i fyw a magu teulu.nnnLlangefni is a thriving town on Ynys Môn and a strong Welsh-speaking community. This home lies on the very edge of town, sitting gracefully on the hill. Access to the A55 could not be easier, while a short walk brings you to cafés, supermarkets and schools. The town also boasts a vibrant football club and regular community events for all ages, making Llangefni a welcoming and lively place to live and raise a family.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

Sold STC

Bank Quay
Caernarfon

£165,000
6    2

For Sale

Bro Waun
Waunfawr

£149,000
6    2

For Sale

Cymerau Pentraeth Road
Menai Bridge

£440,000
6    2