Map   

Cysur a thawelwch - dim ond camau o sŵn y dre

English below

“Coffi yn yr ardd gefn i gychwyn y dydd.... paratoi cinio dydd Sul yn y gegin a chael pawb draw am fwyd. Wedyn am dro rownd y Foryd ac Eglwys Baglan hefo'r cwn, cyn neud cylchdro a drinc ar wal yr Anglesey ar y ffor adra...Blydi lyfli!”

Golwg Cyflym

  • Pedair ystafell wely ar draws pedwar llawr

  • Gardd sy’n gwynebu’r De

  • Lleoliad gwych ar stryd unffordd dawel, ond ychydig funudau o ganol Caernarfon

  • Garej yng nghefn yr eiddo gyda mynediad o’r cefn

  • Perchnogaeth lwyr (freehold)

  • Band Treth Cyngor C

  • Gradd EPC: D gyda’r potensial i fod yn B

  • Gwres canolog

  • Ffenestri ‘Double Glazing’ drwyddi draw

  • 1x Stafell molchi teuluol a 2x toiled ar wahân

Wedi’i leoli ar un o strydoedd tawelach Caernarfon, mae’r tŷ Fictoraidd hwn yn llawn cymeriad, cynhesrwydd a manylion wedi’u hystyried yn ofalus. I’r perchnogion presennol, mae o wedi bod yn hafan deuluol go iawn - lle mae eu plant wedi tyfu, lle rhennir prydau yn yr ardd, a lle crëwyd atgofion ym mhob cornel. Mae’n fath o gartref sy’n eich lapio mewn croeso cynnes o’r eiliad y caiff y drws ei gau.

Gyda’i nodweddion gwreiddiol wedi’u hadfer, gardd sy’n gwynebu’r De, a golygfeydd eang dros Ben Llŷn a’r Castell, mae gan y cartref hwn enaid. Byddai’n berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am encil heddychlon yng nghanol cymuned fywiog - boed yn deulu’n tyfu, person creadigol yn chwilio am ysbrydoliaeth, neu rywun sy’n chwilio am gartref parhaol sy’n llawn swyn.

Mae’r cartref yma yn cael ‘Diwrnod Agored’ ar Gorffenaf 19, os hoffwch chi weld yr eiddo yna mae cyfle bwcio mewn ar dop y tudalen.

English

"Coffee in the back garden to start the day... prepping Sunday lunch in the kitchen and having everyone round to eat. Then a walk around the Foryd and St Baglan’s Church with the dogs, before looping back for a drink on the Anglesey wall on the way home... Bloody lovely!"

At a Glance

  • Four bedrooms spread across four floors

  • South-facing garden

  • Great location on a quiet one-way street, just minutes from Caernarfon town centre.

  • Rear garage with access from the back

  • Freehold

  • Council Tax Band C

  • EPC Rating: D

  • Gas central heating

  • UPVC double-glazed windows throughout

  • 1x Family Bathroom and 2x seperate WC

Tucked away on one of Caernarfon’s quieter streets, this charming Victorian townhouse is full of character, warmth and thoughtful detail. For the current owners, it’s been a true family haven—where their children have grown up, dinners have been shared in the garden, and memories have been made in every nook. It’s the kind of house that instantly wraps its arms around you the moment the front door closes behind you.

With its lovingly restored original features, south-facing garden, and elevated views stretching towards Pen Llŷn and the Castle, this home has soul. It would suit anyone longing for a peaceful retreat in the heart of a vibrant community - whether you're a growing family looking for space and comfort, a creative soul seeking inspiration, or simply someone in search of a forever home with charm in every corner.

This property is having and ‘Open Day’ on July 19th, to book a slot please scroll to the top of the page.

Stafell Fyw / Living Room 24' 10" x 11' 5" (7.56m x 3.48m)
Stafell fyw cynnes a chroesawgar llawn personoliaeth. Ar hyn o bryd mae’n cynnig ardal eistedd ymlaciol ac ardal gweithio creadigol sy’n uno’n naturiol. Mae’r ffenestr bae yn fan darllen perffaith, a’r ffenestr gefn yn edrych dros yr ardd. Mae’r tanc pysgod adeiledig yn ychwanegu elfen 'cwyrci' - ac yndi, maeo’n aros! Ystafell llawn calon sy’n gosod naws y cartref.

A warm, welcoming lounge full of personality. Currently divided into a cosy seating area and a creative workspace, with both blending beautifully. A bay window at the front makes the perfect reading nook, while the rear window offers views over the garden. A built-in fishtank adds a quirky twist—and yes, it’s staying! This is a room with real heart, setting the tone for the rest of the home.

Ystafell Molchi / Bathroom
Ystafell ymolchi deuluol dawel a chyfleus gyda phopeth sydd ei angen - bath, cawod fawr ar wahan, a digon o olau naturiol. Syml, chwaethus ac ymarferol.

A calm and practical family bathroom with everything you need - featuring a full-size bath, a spacious standalone shower, and plenty of natural light. Simple, stylish and easy to live with.

Cegin / Kitchen 15' 11" x 11' 5" (4.85m x 3.48m)
Cegin gartrefol sydd hefo popeth sydd ei angen ar gyfer bywyd teuluol. Yn llawn swyn a chynhesrwydd, gyda ffenestr yn edrych dros yr ardd - lle perffaith i fwynhau coffi’r bore neu i gamu allan i fwyta yn yr hwyr. Nid yw’n syndod mai dyma hoff 'stafell y perchnogion.

A lived-in, much-loved kitchen at the heart of the home. It’s full of charm and warmth, with all the practicalities you need for family life. A window overlooks the garden, making morning coffees and evening meals even more inviting - especially when you step straight outside to eat. It’s no surprise this is the owners’ favourite room.

Utility & WC 9' 0" x 7' 4" (2.74m x 2.23m)
Ystafell 'utility' hynod o ddefnyddiol rhwng y gegin a’r drws cefn - perffaith ar gosod dillad ar y lein yn syth o'r peiriant neu tynnu esgidiau mwdlyd ar ôl mynd am dro. Mae’r ystafell hefyd yn cynnwys toiled bach gyda hen doiled gwreiddiol - yn ychwanegu elfen bersonol at ran ymarferol o’r cartref, ac yn bwnc sgwrs gwych pan fyddwch yn croesawu gwesteion draw!

A super-handy utility space between the kitchen and back door - ideal for sorting laundry before heading to the garden or kicking off muddy boots after a walk. It also houses a small WC with an original high-level toilet, adding a lovely touch of character to this practical part of the home and a great talking point when having guests over to dine!

Ystafell Fwyta / Dining Room 16' 1" x 12' 4" (4.90m x 3.76m)
Mae’r ail ystafell 'reception' hon yn llawn apêl a hyblygrwydd. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei defnyddio fel ystafell fwyta deuluol ac ardal waith. Gan ei bod yn agos at y gegin, mae’n fan ymarferol a chroesawgar ar gyfer prydau bwyd, gwaith cartref neu gweithio o adra - ac mae bob amser yn braf cael yr hyblygrwydd i benderfynu sut i’w defnyddio orau.

This second reception room is full of charm and flexibility. Currently used as both a family dining area and a workspace, it’s a room that adapts to your lifestyle. With the kitchen just next door, it makes a practical and inviting dining space—and it’s always nice to have the flexibility to decide how best to use it.

Cyntedd a'r Grisiau / Hallway and Landing
Mae’r cyntedd yn gosod y naws gyda lloriau pren cynnes a grisiau wedi’u hadfer yn ofalus—gwaith cariad go iawn gan y perchnogion. Unwaith y caiff y drws ei gau, daw’r tawelwch. Ar y dop y grisiau mae golau’n llifo i mewn, gyda golygfeydd tuag at Yr Eifl a’r mynyddoedd, ac mae’n arwain i’r atig. Cynllun syml, llawn cymeriad, sy’n llifo’n hyfryd drwy’r cartref.

The hallway sets the tone with warm wood flooring and a lovingly restored staircase—a true labour of love by the current owners. Once the door is closed, calm sets in. Upstairs, the landing is filled with light, offering views towards Yr Eifl and the mountains, and leads up again to the attic. A simple, characterful layout that flows beautifully through the home.

Stafell Wely 1 / Bedroom 1 11' 0" x 10' 9" (3.35m x 3.27m)
Ystafell wely llawn golau ac o faint da ar ben y grisiau, gyda golygfeydd bendigedig dros Y Llŷn. Yn berffaith fel ystafell i blentyn, ac yn agos iawn at y prif ystafell wely. Mae’r perchnogion yn dweud ei bod hi wastad yn gynnes a chlyd—man llawn goleuni gyda golygfa sy’n anodd curo.

A bright and spacious bedroom at the top of the stairs with stunning views over Penllyn. Ideal as a child’s room, it sits right next to the primary bedroom. The current owners say it’s always lovely and warm—a cosy, light-filled space with a view you’ll never tire of.

Prif 'stafell Wely / Main Bedroom 17' 1" x 10' 4" (5.20m x 3.15m)
Mae'r prif ystafell wely yn llawn goleuni naturiol gyda dwy ffenestr. Mae’n dal gwely dwbl yn hawdd ac yn cynnwys ystafell ymolchi 'ensuite' bach gyda thoiled a chawod. Man preifat a chyfforddus - encil perffaith i rieni.

The main bedroom is a bright and inviting space with two windows letting in plenty of natural light. It currently comfortably fits a double bed and includes a handy ensuite with a toilet and shower. A real retreat for parents, offering both privacy and comfort.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 15' 9" x 9' 5" (4.80m x 2.87m)
Wedi’i guddio ar dop y tŷ, mae’r ystafell dwbwl hon yn encil perffaith. Yn gartrefol ac yn llawn personoliaeth, gyda ffenestr Velux sy’n cynnig golygfeydd eang drost Caernarfon i gyfeiriad y castell. Yn lle delfrydol i berson ifanc neu i greu gweithle heddychlon sy’n ysbrydoli.

Tucked at the top of the house, this double bedroom is a real haven. Cosy and full of personality, it features a Velux window with far-reaching views over Caernarfon rooftops, all the way to the castle. A perfect hideaway for a teenager or a peaceful workspace with a view to inspire.

Ystafell Wely 4 / Bedroom 4 16' 0" x 10' 5" (4.87m x 3.17m)
Yn debyg iawn i’r ystafell atig gyfagos, mae’r ystafell hon yn gartrefol ac yn dawel. Ar hyn o bryd fe’i defnyddir fel lolfa fach gan ferch y perchnogion, ond byddai’n addas fel ystafell wely, man darllen neu 'snug'. Mae’r ffenestr fechan yn edrych allan dros y stryd—lle perffaith ar gyfer eiliadau tawel.

Similar in style to the adjacent attic room, this peaceful space is currently used as a cosy lounge for the owners’ daughter. It would work just as well as a bedroom, snug, or reading nook. A small window looks out over the street below—ideal for quiet moments at the top of the house.

Location

Mae Caernarfon yn fwy na thref hanesyddol—mae’n gymuned fywiog a chlos, llawn calon a Chymreictod. Wedi’i leoli ychydig funudau o ganol y dref, mae’r cartref hwn mewn lleoliad perffaith i fwynhau’r cyfan sydd gan y tref i’w gynnig. O siopau cigydd lleol, caffis a thafarndai annibynnol i’r sinema, y llyfrgell a’r farchnad wythnosol, mae Caernarfon yn dathlu ei hunaniaeth leol a’i ysbryd annibynnol. Mae llwybrau cerdded hyfryd ar garreg y drws, sawl parc i blant ac ysgolion cynradd ac uwchradd poblogaidd yn agos iawn - yn ei wneud yn lle delfrydol i deuluoedd. Mae’r dref hefyd yn cynnal digwyddiadau blynyddol poblogaidd fel yr Wyl Fwyd a’r ŵyl lenyddol ‘Gŵyl Arall’. Er ei bod mor agos at ganol y dref, mae’r tŷ hwn wedi’i leoli ar stryd unffordd dawel lle mae’r perchnogion presennol yn adnabod ac yn gwerthfawrogi eu cymdogion. Gyda archfarchnad o fewn pellter cerdded ac ardal sy’n llawn cynhesrwydd Cofis, mae’r lleoliad hwn yn wirioneddol cynnig y gorau o’r ddau fyd. / Caernarfon is more than just a historic town—it’s a vibrant, close-knit community full of heart and Welsh identity. Just a few minutes from the town centre, this home is perfectly located to enjoy everything the town has to offer. From local butchers, independent cafés and pubs, to the cinema, library and weekly market, Caernarfon proudly celebrates its local character and independent spirit. Beautiful walking routes are right on your doorstep, with several parks for children and popular primary and secondary schools nearby—making it an ideal place for families. The town also hosts much-loved annual events like the Food Festival and the literary and arts festival ‘Gŵyl Arall’. Despite being so close to the centre, the house is tucked away on a quiet one-way street where the current owners know and value their neighbours. With a supermarket within walking distance and the warmth of the Cofis all around, this location truly offers the best of both worlds.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

Sold STC

Clwyd Campbell Road
Caernarfon

£340,000
4    2

For Sale

Tanycastell
Dolwyddelan

£355,000
4    2

For Sale

Y Wern
Y Felinheli

£265,000
4    2