Cartref modern a thawel ym Methel - byngalo gyda gofod byw agored a gardd hyfryd. / A calm and beautifully renovated bungalow with open-plan living, a lovely garden and a peaceful village setting.

English Below

“Mae tawelwch yn treiddio drwy 6 Bro Eglwys.”

O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd, mae'r cartref hwn yn teimlo'n olau, yn daclus ac yn hamddenol - cartref sydd wedi'i greu i'w fwynhau, nid i'w gynnal.

Wedi'i leoli ar stad dawel a chymunedol ym mhentref poblogaidd Bethel, mae'r byngalo dwy ystafell wely hwn wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar i safon uchel, gan greu cartref modern, croesawgar sy'n cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer byw'n syml ac yn gyfforddus.

O'r tu allan, mae'r eiddo'n denu'r llygad gyda'i waliau gwyn ffresh a'i ffenestri gwyrdd, gan roi edrychiad lân a chwaethus sy'n sefyll allan.

Wrth gamu i mewn, y peth cyntaf sy'n taro yw'r ymdeimlad o ofod. Mae'r cynllun wedi'i ail-ddylunio'n ofalus i greu un gofod byw agored sy'n cysylltu'r lolfa, yr ardal fwyta a'r gegin yn naturiol â'i gilydd. Mae'r lle tân clyd yn dod â chynhesrwydd i'r lolfa, tra bod y gegin fodern gyda'i hoffer ‘integredig’ a'r ynys ganolog yn dod yn fan naturiol i bawb ymgynnull - boed hynny dros baned o goffi, pryd o fwyd gyda'r teulu neu sgwrs ar ddiwedd y dydd.

Mae dwy ystafell wely yn cynnig mannau tawel i ymlacio, ynghyd ag ystafell ymolchi fodern sydd wedi'i orffen i safon uchel. Ceir hefyd swyddfa gartref ddefnyddiol sydd, pe bai angen, yn cynnig y potensial i'w defnyddio fel ystafell wely ychwanegol.

Y tu ôl i'r tŷ mae ystafell haul sy'n edrych dros yr ardd – man braf i eistedd gyda llyfr neu fwynhau'r olygfa o'r tu allan drwy'r tymhorau. Mae'r ardd ei hun yn daclus ac yn hawdd ei chynnal, gyda choed afalau, sied ardd a digon o le i ymlacio neu dreulio amser gyda'r teulu.

Yn ychwanegol, mae'r garej yn cynnig lle storio gwerthfawr ynghyd ag ardal ‘utility’ ymarferol, gan helpu i gadw gweddill y cartref yn dwt ac yn drefnus.

Mae 6 Bro Eglwys yn gartref sy'n cynnig ffordd syml a hamddenol o fyw, mewn cymuned gyfeillgar ac mewn eiddo sydd wedi'i adnewyddu'n ofalus. Cartref y gallwch symud eich dodrefn i mewn iddo a dechrau mwynhau o'r diwrnod cyntaf.

EPC - D

Band Treth Cyngor - D

Ffenestri Haen Dwbwl Drwy’r Ty

Gwres Canolog Nwy

Gwefrydd cerbyd trydan

2x le parcio yn y dreif

Mi fydd LTT yn daladwy ar yr eiddo hon

“A sense of calm flows through 6 Bro Eglwys.”

From the moment you arrive, this home feels light, fresh and relaxing – a home designed to be enjoyed, not maintained.

Situated on a peaceful, family-friendly estate in the popular village of Bethel, this beautifully renovated two-bedroom detached bungalow has been thoughtfully modernised to a high standard, creating a welcoming home that offers everything needed for simple, comfortable living.

From the outside, the property immediately catches the eye with its crisp white walls and fresh green windows, giving it a clean, stylish appearance that stands out along the street.

Step inside and the first thing you'll notice is the wonderful sense of space. The layout has been carefully reconfigured to create one open-plan living area, seamlessly connecting the lounge, dining area and kitchen. A cosy fireplace brings warmth to the living room, while the modern kitchen, complete with integrated appliances and a central island, naturally becomes the heart of the home – the place where everyone gathers, whether over a morning coffee, a family meal or a relaxed conversation at the end of the day.

The bungalow offers two comfortable bedrooms, each providing a peaceful place to unwind, together with a beautifully finished modern bathroom. There is also a versatile home office which, if required, offers the potential to become an additional bedroom.

To the rear of the property is a delightful sun room overlooking the garden – the perfect spot to sit with a book or simply enjoy the changing seasons. The garden itself is neat and easy to maintain, with apple trees, a garden shed and plenty of space to relax or spend time with family.

The garage provides excellent additional storage together with a practical utility area, helping to keep the rest of the home organised and clutter-free.

6 Bro Eglwys offers a wonderfully simple and relaxed way of life within a friendly community, in a home that has been carefully renovated throughout. It's the kind of property where you can simply move your furniture in and start enjoying it from day one.

EPC Rating: D

Council Tax Band: D

Double glazing throughout

Gas central heating

Driveway parking for 2x vehicles

EV Charger

LTT would be payable on this property

Ystafell Fyw Agored / Open Plan Living 20' 10" x 17' 8" (6.35m x 5.39m)
Mae'r 'stafell fyw yn ofod tawel a chroesawgar, wedi'i chynllunio o amgylch y simdde sy'n dod yn ganolbwynt naturiol i'r ystafell. Mae'r tân trydan modern gyda'i fflamau'n dawnsio yn ychwanegu at cynhesrwydd ac awyrgylch drwy gydol y flwyddyn, tra bod cilfach y teledu wedi'i hymgorffori'n daclus yn y simdde i greu gorffeniad glân a chyfoes. Mae dwy ffenestr fawr yn llenwi'r gofod â golau naturiol ac yn rhoi teimlad o le ymlaciol.

The living room is a calm and welcoming space, centred around the chimney breast which creates a natural focal point. A contemporary electric fire with gently dancing flames brings warmth and atmosphere throughout the year, while the recessed television space has been seamlessly built into the chimney breast for a clean, modern finish. Two large windows fill the room with natural light, creating a wonderfully bright and relaxing place to unwind.

Cegin / Kitchen
Mae'r gegin fodern wedi'i lleoli'n glyfar rownd y gornel, gan gynnig ymdeimlad o wahanu heb golli'r cysylltiad â'r prif ofod byw. Gyda'i pheiriant golchi llestri, popty, oergell gwin, 'hob' a microdon integredig, ynghyd â digon o storfa a gorffeniad ffresh a chyfoes, mae'n gegin sydd wedi'i chynllunio ar gyfer bywyd bob dydd - yn ymarferol, yn olau ac yn bleser i'w defnyddio.

Thoughtfully tucked around the corner, the modern kitchen feels connected to the main living space while offering a practical separation. Complete with an integrated dishwasher, oven, wine chiller, hob and microwave, generous storage and a fresh contemporary finish, it's a kitchen designed for modern living - bright, functional and a pleasure to cook in.

Ystafell 'Molchi / Bathroom 8' 9" x 7' 3" (2.67m x 2.21m)
Wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar, mae'r ystafell ymolchi fodern hon wedi'i gorffen mewn palet lliwiau niwtral sy'n creu awyrgylch tawel a chyfoes. Mae llawr teils, cawod fawr, sinc gyda storfa, toiled a drych gwrth-niwl yn cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer bywyd bob dydd. Gofod ymarferol, ffres ac wedi'i gynllunio'n ofalus, dim ond angen dod a brwsh danedd hefo chi.

Recently refurbished, the bathroom has been finished in neutral tones to create a calm and contemporary feel. Complete with a tiled floor, a generous walk-in shower, vanity unit with storage, WC and an anti-steam mirror, it offers everything needed for modern everyday living. Fresh, practical and thoughtfully designed, it's a space that's ready to enjoy from day one, you only need to bring your toothbrush with you.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 8' 9" x 6' 7" (2.67m x 2.01m)
Ystafell wely sengl olau a chroesawgar sy'n cynnig digon o le ar gyfer gwely sengl a dipyn o ddodrefn ychwanegol. Wedi'i lleoli gyferbyn â'r ystafell ymolchi, mae'n ofod delfrydol ar gyfer ystafell westeion, ystafell plentyn neu hyd yn oed swyddfa gartref, gan gynnig hyblygrwydd i weddu i'ch anghenion.

A bright and welcoming single bedroom offering plenty of space for a single bed and additional furniture. Positioned opposite the bathroom, it makes an ideal guest bedroom, child's room or even a home office, giving you the flexibility to adapt the space to suit your lifestyle.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 11' 7" x 8' 10" (3.52m x 2.68m)
Mae'r brif ystafell wely yn cynnig golygfa hyfryd dros yr ardd drwy ei ffenestr fawr, gan greu ymdeimlad o breifatrwydd fel petai'r ystafell wedi'i hamgylchynu gan goed a blodau. Mae'n ofod tawel a llawn golau naturiol – y lle perffaith i ddeffro'n araf gyda coffi yn y gwely wrth wylio'r adar yn yr ardd.

The principal bedroom enjoys a beautiful outlook over the garden through its large window, creating a wonderful sense of privacy as if you're surrounded by trees and flowers. Filled with natural light, it's a peaceful place to begin and end the day - the perfect spot to enjoy a morning coffee in bed while watching the birds.

Swyddfa / Study 12' 1" x 9' 0" (3.69m x 2.75m)
Yn cysylltu'r prif ofod byw â'r ystafell haul, mae'r swyddfa yn ystafell hyblyg sy'n gallu addasu i'ch ffordd o fyw. Yn ddelfrydol fel swyddfa gartref, ystafell hobïau neu fan tawel i ddarllen, mae'n cynnig golau naturiol a golygfa braf tuag at yr ardd. I rai, gallai hefyd gynnig potensial fel ystafell wely ychwanegol, yn dibynnu ar eu hanghenion.

Connecting the main living space to the sun room, the study is a versatile room that can easily adapt to your lifestyle. Ideal as a home office, hobby room or peaceful reading space, it enjoys natural light and a pleasant outlook towards the garden. For some buyers, it may also offer the potential to be used as an additional bedroom, depending on individual requirements.

Ystafell Haul / Sunroom 8' 5" x 9' 5" (2.56m x 2.87m)
Yn edrych dros yr ardd, mae'r ystafell haul yn fan tawel i ymlacio drwy gydol y flwyddyn. Gyda drws sy'n agor yn syth allan i'r patio a'r ardal eistedd, mae'n cysylltu'r cartref â'r ardd yn naturiol. Ar hyn o bryd, mae'r perchennog yn defnyddio'r gofod fel ail lolfa gyda soffa gyfforddus – y lle perffaith i eistedd gyda llyfr, paned o goffi neu fwynhau golygfa'r ardd, beth bynnag fo'r tywydd.

Overlooking the garden, the sun room is a peaceful space to enjoy throughout the seasons. With a door opening directly onto the patio and seating area, it creates a natural connection between the home and the garden. The current owners use it as a second sitting room with a comfortable sofa - a perfect place to relax with a book, enjoy a morning coffee or simply take in the garden, whatever the weather.

Garej / Garage
Mae'r garej yn cynnig llawer o ymarferoldeb bywyd bob dydd. Gyda drws trydan o'r dreif a mynediad hefyd o'r ardd gefn, mae'n ofod hynod ymarferol. Mae trydan a phlymio eisoes wedi'u gosod, gan ei gwneud yn lle delfrydol fel utility, gweithdy neu storfa ychwanegol. Boed ar gyfer golchi dillad, prosiectau DIY, garddio neu hobïau, mae'n ofod hyblyg sy'n ychwanegu gwerth ac ymarferoldeb i'r cartref.

The garage is a practical and versatile space. Accessed via an electric garage door from the driveway and a separate door from the rear garden, it benefits from both electricity and plumbing. Ideal as a utility room, workshop or additional storage, it's perfect for DIY projects, gardening, hobbies or keeping laundry separate from the main house, adding real flexibility to everyday life.

Yr Ardd / The Garden
Mae'r ardd gefn yn ofod tawel, preifat a sefydledig sy'n teimlo fel estyniad naturiol o'r cartref. Mae patio ger yr ystafell haul yn cynnig lle delfrydol i eistedd gyda choffi neu fwynhau pryd yn yr awyr agored. Mae lawnt ganolog, coed afalau, coed Acer a blodau lliwgar yn ychwanegu cymeriad drwy'r tymhorau. Ceir sied ardd, cornel eistedd glyd a mynediad o ddwy ochr y tŷ – ystafell fyw yn yr awyr agored.

The rear garden is a peaceful, private and well-established space that feels like a natural extension of the home. A patio beside the sun room provides the perfect spot for morning coffee or outdoor dining, while the central lawn is ideal for relaxing or family life. Apple trees, Acer trees and colourful planting bring interest throughout the seasons, with a garden shed, cosy seating area and access from both sides completing this inviting outdoor living space.

Location

Mae Bethel yn bentref croesawgar sydd tua 4 milltir o Gaernarfon, gan gynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd pentref a mynediad hawdd at holl gyfleusterau bob dydd.nWrth galon y pentref mae cymuned glos a chyfeillgar, gyda gwir ymdeimlad o berthyn. Mae ysgol gynradd boblogaidd a chaffi cymunedol yn ganolbwynt i fywyd y pentref, tra bod digwyddiadau fel gemau pêl-droed elusennol, nosweithiau comedi, carnifal a gweithgareddau cymunedol yn dod â phobl ynghyd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r plant a'r bobl ifanc yn rhan bwysig o'r gymuned, ac mae hynny'n amlwg ym mhopeth sy'n digwydd. Mae cymysgedd gwych o deuluoedd, cyplau a phobl hŷn yn byw yma, gan greu awyrgylch cefnogol a chroesawgar sy'n gwneud Bethel yn lle arbennig i fyw. Ychydig funudau i ffwrdd mae Tyddyn Teg, fferm gymunedol annwyl lle gallwch brynu llysiau ffres, bara lleol a chynnyrch tymhorol, yn ogystal a chynnyrch lleol o'r siop yn y caffi cymunedol. Ac ar gyfer siopa, gwasanaethau a chyfleusterau ehangach, mae Caernarfon ond taith fer mewn car. I'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored, mae'r ardal o amgylch Bethel yn llawn lonydd cefn a llwybrau hyfryd sy'n arwain tuag at Y Felinheli, Llanrug a'r wlad o'u cwmpas -perffaith ar gyfer cerdded, rhedeg neu grwydro. Mae Bethel yn fwy na phentref; mae'n gymuned sy'n mynd o nerth i nerth, ac yn lle hyfryd i alw'n gartref. / Bethel is a welcoming village located just 4 miles from the historic town of Caernarfon, offering the perfect balance of village life with easy access to everyday amenities. At the heart of the village is a thriving community with a real sense of togetherness. Home to a well-regarded primary school and a popular community café, Bethel is a place where neighbours know one another and local events bring people together. Charity football matches, comedy nights, village carnivals and community events all play an important part in village life, with local children often at the heart of it all. The village is home to a wonderful mix of generations, creating a friendly and supportive atmosphere that makes Bethel such a lovely place to put down roots. Just a short drive away is Tyddyn Teg, a much-loved community farm where you can pick up fresh vegetables, locally baked bread and seasonal produce, the community cafe also sells local produce, while Caernarfon offers supermarkets, independent shops, cafés, restaurants and all the amenities needed for everyday life. For those who enjoy spending time outdoors, Bethel is perfectly placed to explore the surrounding countryside. Quiet lanes and footpaths lead towards Y Felinheli, Llanrug and beyond, making it easy to enjoy peaceful walks with beautiful views of the surrounding landscape. Bethel is more than just a village - it's a community that continues to grow, offering a wonderful place to call home for families, couples and anyone looking to enjoy a quieter pace of life while remaining well connected.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

For Sale

Bro Eglwys
Caernarfon

£280,000
2    1

Sold STC

Craig y Don, Lon Dinas
Criccieth

£189,000
2    1

For Sale

Tyddyn Hir
Bangor

£750,000
2    1