Ty 3 llofft cyfoes, golygfeydd Llanddwyn, ger afon – y gorau o’r ddau fyd – gwledig ac yn gyfleus. / 3-bed home with Llanddwyn views & riverside charm – rural living with all amenities close by.

English below

"Mae byw yma fel camu i mewn i rythm arafach o fywyd. Yn y bore rydym yn agor y ffenestri sash ac yn clywed yr afon wrth i’r haul godi dros y caeau. Mae’r plant yn rhedeg i lawr i’r ardd i fwydo’r hwyaid tra dani’n yfed coffi ar y patio. Yn y gaeaf, mae’r tan coed yn gwneud pob noson yn gartrefol, ac yn yr haf rydym yn cerdded neu’n beicio i draeth Dinas Dinlle. Dyma’r math o gartref sy’n newid gyda phob tymor – heddwch, cymuned, a gwir deimlad o le."

Ydych chi erioed wedi breuddwydio am gartref sy’n teimlo’n wirioneddol wledig ond sy’n dal mor agos i bopeth? Croeso i Coetmor – cartref tri llofft, ‘semi detached’ sydd wedi’i osod mewn lleoliad delfrydol rhwng Pen Llyn, Caernarfon a’r ffordd osgoi. Er eich bod chi’n ganolog i’r cyfan, mae’r lle yma’n teimlo fel pe byddech chi’n byw yng nghanol cefn gwlad pur.

O’r ffenestri mae golygfeydd o Ynys Llanddwyn a’r caeau agored, ac mae swn yr afon fach gyfagos yn atseinio drwy’r ardal. Dim ond tri set o gymdogion sydd yma, felly mae’r lle’n cynnig preifatrwydd prin.

Prynwyd y ty gan gwpl ifanc rhai blynyddoedd yn ol, ac ers hynny mae pob cornel wedi cael ei adnewyddu gyda chymaint o gariad a chymeriad nes eich bod yn teimlo’r croeso cyn i chi hyd yn oed gamu drwy’r drws ffrynt gwyrdd hyfryd.

Mae pob ffenestr sash yn fframio natur, ac yn y gaeaf mae dau lle tan coed i’ch cadw’n gynnes, gyda gwres ‘dan llawr yn y gegin a’r ystafell ymolchi yn rhoi ychydig o foethusrwydd sy’n teimlo’n arbennig yng nghefn gwlad.

O’r cyntedd, byddwch yn cyrraedd yr ystafell fyw – ystafell gynnes gyda than coed ac un o’r golygfeydd gorau dros y caeau tuag at Ynys Llanddwyn. Mae’r gegin, wedi’i hadnewyddu’n llawn, yn wirioneddol galon y cartref. Mae ganddi ynys hardd, sinc larder, lloriau calchfaen a ffenestr sash newydd yn edrych allan dros yr ardd. O’r fan yma mae ‘boot room’ – lle delfrydol i’r esgidiau a’r cotiau wedi cerdded y caeau cyfagos.

O’r gegin, ewch i lawr i’r seler – lle arall llawn cymeriad. Mae yma dan coed arall ac mae’r gofod yn hyblyg – weithiau’n swyddfa, weithiau’n ystafell fwyta neu’n le i fwynhau gemau ar nos Wener. Mae drws uniongyrchol i’r ardd o’r fan yma hefyd.

Ar y llawr cyntaf, mae’r ystafell ymolchi wedi’i hadfer yn berffaith – hoff ystafell ni yma’n Catra. Dychmygwch gawod neu drochiad hir mewn bath mawr, dau ffenestr sash newydd yn gadael i’r goleuni ddod i mewn, a’r adar yn canu y tu allan. Mae’r bath yn ddigon i ddau, ac mae cawod fawr fodern hefyd.

Mae dau o’r tair llofft yn cynnwys lle tân gwreiddiol (ddim yn llosgi ar hyn o bryd) – nodweddion prin sy’n adleisio’r awyrgylch cartrefol. O’r llofft flaen ceir golygfa perffaith dros y caeau, tra bod yr un gefn yn edrych dros yr ardd. Ar y landing, mae drws cudd sy’n arwain i lofft gyfrinachol – ar hyn o bryd yn storfa, ond gellid ei droi’n llofftydd chwarae neu sinema fach gyda caniatâ cynllunio.

Un o’r rhannau mwyaf cyffrous am y ty hwn yw’r ardd – mae’n wirioneddol le sy’n gwneud y cartref yn arbennig. Mae’r ardd gefn wedi’i gau yn llwyr, gan greu man diogel i blant chwarae a lle delfrydol ar gyfer cinio teuluol neu fwynhau gwydraid o win gyda ffrindiau ar noswaith haf. Nid hwn yw’r unig aradel i fwynhau yn yr ardd, yn ymyl drws y cegin mae patio ar gyfer coffi boreol, fan hyn mae’r haul yn ymddangos yn y bore, fel hafan ddistaw. Wrth i chi symud i lawr ochr y ty, mae’r tir yn ymestyn at ardal wastad hyfryd lle mae’r perchnogion yn cadw hwyaid ar hyn o bryd. Mae’r golygfeydd a’r machlud haul o’r fan hon yn anhygoel, gan wneud y gofod yn addas i greu patio neu ardal fwyta arall yn y dyfodol. Mae’r eiddo’n rhedeg hyd at ymyl yr afon, felly mae swn dwr yn gefndir cyson ac ymlaciol i fywyd. Yn gryno, mae’r ardd yn gyfuniad o ddiogelwch, harddwch naturiol a photensial gwych i’w haddasu ymhellach. O’r ty, mae’r olygfa’n ymestyn dros y caeau, gyda golwg o bell ar Ynys Mon.

Mae’n gyfuniad prin: bywyd gwledig gyda’r holl gyfleustraon gerllaw.

EPC - D

Band Treth Cyngor - C

Oil Central Heating

Wifi - Ffeibr i’r ty

“Living here feels like stepping into a slower rhythm of life. In the morning we open the sash windows and hear the river as the sun rises over the back of the house. The children run down to the garden to feed the ducks while we sip coffee on the patio. In winter, the log burners make every evening feel cosy, and in summer we walk or cycle to the beach at Dinas Dinlle. It’s the kind of home where every season brings something different – peace, community, and a real sense of space."

Ever dreamt of a home that feels truly rural but is still perfectly placed for everything you need? Welcome to Coetmor – a three-bedroom semi-detached home in the most ideal of spots, balanced between Pen Llŷn, Caernarfon and the bypass. Despite being central, life here feels like stepping into pure countryside.

Every window frames nature – fields, trees, the distant view of Ynys Llanddwyn – with the gentle sound of the river running by. With just three sets of neighbours, this house offers a rare sense of peace and privacy.

Bought a few years ago by a young couple, the home has been lovingly renovated from top to bottom. You feel the warmth the moment you arrive at the reclaimed green front door, and that character carries on throughout.

Sash windows look out over greenery, there are two log burners for cosy evenings, and underfloor heating in the kitchen and bathroom – little luxuries that make country living feel indulgent.

Step from the hallway into the lounge – a snug room with its own log burner and a picture window gazing across the fields to Llanddwyn. The kitchen, recently refurbished, feels like the heart of the home, complete with a central island, larder sink, limestone flooring and sash window looking onto the garden, and plenty of storage. A boot room just off it makes the perfect spot for muddy coats and boots after adventures in the fields.

From the kitchen, head downstairs into the basement – a charming, versatile space with a second log burner. The current owners use it as an office, a dining nook, and sometimes a games room for long Friday evenings. Another stunning reclaimed door leads you straight out into the garden.

Upstairs, you’ll find the beautifully restored bathroom – Catra’s favourite room. With two brand-new sash windows flanking a deep, oversized bath (big enough for two), it’s the ultimate spot to soak, surrounded by views of trees and birdsong. There’s also a large modern shower, blending luxury with homely comfort.

Two of the three bedrooms still hold their original fireplaces, adding to the home’s cosy character. The rear bedroom overlooks the garden, while the front enjoys a perfect field view. And hidden away on the landing is a secret loft space – currently storage, but with clear potential, with planning permission could be a children’s room or even a little cinema room.

One of the most exciting parts of this house is the garden – it’s truly a space that makes the home special and is a playground for all ages. The rear garden is fully enclosed, creating a safe place for children to play and an ideal spot for family dinners or enjoying a glass of wine with friends on a summer evening. This isn’t the only area to enjoy outdoors – right by the kitchen door there’s a tiled patio, perfect for that morning coffee - this is the first place the sun see’s as it creeps over Eryri , serving as a quiet little haven. Moving down the side of the house, the land opens onto a lovely flat section where the current owners keep ducks. The views and sunsets from here are incredible, making the space perfect for creating another patio or dining area in the future. The property extends right down to the river, so the sound of water is a constant, soothing backdrop to daily life. In short, the garden is a blend of safety, natural beauty and fantastic potential to adapt further. From the house, the outlook stretches across the fields, with distant views of Anglesey.

It’s a rare combination: country living with all amenities close by.

EPC - D

Council Tax Band - C

Oil Central Heating

Wifi - Fibre to the property

Ystafell Fyw / Lounge 14' 1" x 11' 7" (4.29m x 3.53m)
Ystafell fyw gartrefol sy’n eich gwahodd i ymlacio o’r eiliad y byddwch yn camu i mewn. Dychmygwch diod poeth wrth ymyl y tan coed yn y gaeaf, gyda’r haul yn machlud dros y caeau tu blaen drwy’r ffenestr fawr. Awyrgylch cynnes, a chartrefol.

A homely lounge that invites you to relax from the moment you step inside. Picture yourself with a hot drink by the log burner in winter, as the sun sets over the fields outside the picture window. A warm, atmospheric room full of charm.

Cegin / Kitchen 15' 3" x 10' 11" (4.66m x 3.34m)
Dyma galon y cartref – ystafell lle byddwch yn treulio oriau’n sgwrsio dros banad o de. Cegin moethus gyda ynys ganol, dwy ffenestr sash dros yr ardd, gwres odan y llawr, a digon o gypyrddau i storio. Cegin moethus a gofod i fwynhau.

The heart of the home – a space you’ll naturally gather in. This high-end kitchen boasts a centre island, two sash windows over the garden, underfloor heating and ample storage. A handy boot room offers coat space and access straight into the garden. This kitchen is luxurious and homely.

Basement 8' 5" x 13' 3" (2.57m x 4.05m)
Mae’r cwpl wedi adnewyddu’r llawr gwaelod yn llwyr, gan greu gofod hyfryd. Fe’i defnyddir fel swyddfa ac ystafell fwyta, gyda than coed newydd a ffenestri’n edrych allan i natur. Mae mynediad uniongyrchol i’r ardd hefyd o’r fan hon.

The couple have fully refurbished the basement, creating a versatile, welcoming space. Used as an office and dining area, it features a new log burner, windows framing nature, and direct access out into the garden for a true indoor-outdoor feel.

Ystafell Molchi / Bathroom 8' 11" x 7' 11" (2.72m x 2.41m)
Ystafell ymolchi bendigedig gyda dwy ffenestr sash newydd yn fframio’r bath – lle perffaith i ymlacio. Mae’r bath yn ddigon eang i ddau, ac mae yma gawod fawr fodern hefyd. Awyrgylch ffres a llonydd sy’n cynnig moethusrwydd go iawn.

A calming bathroom where two brand-new sash windows wrap around the bath – the perfect spot to unwind. The bath is large enough for two, complemented by a spacious modern shower. A fresh yet cosy atmosphere makes this room feel truly luxurious.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 9' 8" x 12' 3" (2.95m x 3.73m)
Ar hyn o bryd mae’r ystafell hon yn llofft plentyn llawn antur a chymeriad. Gyda lle tan gwreiddiol, ffenestr sash newydd yn edrych dros yr ardd, a wal serth sy’n ychwanegu at y siap unigryw – mae’n llofft berffaith i blentyn dychmygus.

Currently a child’s room, this space feels full of adventure and charm. With its original fireplace, new sash window overlooking the garden, and a quirky sloping wall, it’s the perfect bedroom for little ones to grow, play and dream in.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 12' 3" x 9' 3" (3.74m x 2.81m)
Dyma’r llofft flaen gyda golygfeydd sy’n syfrdanu. Bydd deffro yma yn brofiad. Mae lle tan gwreiddiol yn ganolbwynt hyfryd i’r ystafell, gan ychwanegu cymeriad a naws gartrefol i’r gofod - hafan i ddianc iddi.

The front bedroom offers breathtaking views – once you’ve woken up here, nowhere else will compare. The original fireplace forms a beautiful centrepiece, adding character and a homely feel to this haven.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 8' 8" x 5' 7" (2.64m x 1.71m)
Y llofft leiaf, ond llawn posibiliadau. Yn ddelfrydol ar gyfer gwely sengl gyda golygfeydd hyfryd dros y caeau. Ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell gerddoriaeth, ond hefyd wedi bod yn swyddfa.

The smallest of the three, yet full of potential. Fits a single bed and enjoys lovely views of the fields. Currently a music room, once used as an office – a flexible space that works perfectly as a little haven to escape to within the home.

Llofft / Attic 14' 4" x 9' 11" (4.37m x 3.03m)
Mae grisiau cudd y tu ol i ddrysau tlws ar y landing yn arwain at y llofft. Ar hyn o bryd yn storfa, ond byddai’n wych fel stafell chwarae i blant neu sinema deuluol. Ceir hen ffenestr yma, ond byddai ffenestr Velux yn trawsnewid y gofod.

Hidden stairs behind pretty doors on the landing lead up into the attic. Currently used for storage, but ideal as a children’s playroom or family cinema. There’s an old window, though a Velux would truly transform this charming, versatile space.

Location

Mae’r eiddo wedi’i leoli ychydig y tu hwnt i Bethesda Bach, pentref bach cyfeillgar rhwng Llandwrog a Llanwnda. O ran lleoliad, mae wir yn cynnig y gorau o bob byd – yn ganolog ond gyda’r teimlad o fod yng nghefn gwlad. Yn chwilfrydig am ddiwrnod ar y traeth? Mae Dinas Dinlle ar garreg eich drws, a Pen Llyn hefyd yn hawdd ei gyrraedd. Angen mynd i siopa yng Nghaernarfon, neu hyd yn oed i Fangor? Mae’r ffordd osgoi yn syth wrth law.nOs ydych chi’n chwilio am gymuned, mae Tafarn Ty’n Llan yn Llandwrog yn cynnig croeso cynnes a digwyddiadau lleol rheolaidd. Dim ond munudau i ffwrdd mae caffis poblogaidd fel BRAF yn Ninas Dinlle, a pharc hardd Glynllifon. I deuluoedd, mae ysgolion lleol megis Bontnewydd a Llandwrog yn agos iawn, ynghyd â meithrinfa “Pitian Patian”. Mae hyd yn oed canolfan ffisiotherapi gyda dosbarthiadau Pilates ar eich stepen drws. Yn gryno, dyma leoliad sy’n cyfuno hygyrchedd, cymuned a harddwch naturiol – popeth o fewn cyrraedd hawdd. / The property sits just beyond Bethesda Bach, a small, welcoming village nestled between Llandwrog and Llanwnda. Location really is everything here – you feel central, yet surrounded by countryside. Fancy a day at the beach? Dinas Dinlle is right on your doorstep, and Pen Llŷn is within easy reach too. Need to pop to Caernarfon, or even Bangor? The bypass is right there, making travel effortless. If community life appeals, Llandwrog’s Ty’n Llan offers a warm atmosphere and regular local events. Popular spots like BRAF café in Dinas Dinlle and the beautiful Glynllifon park are just minutes away. For families, Bontnewydd and Llandwrog schools are close by, along with the well-regarded “Pitian Patian” nursery. There’s even a local physiotherapy centre offering enjoyable Pilates classes. In short, it’s a location that blends accessibility, community and natural beauty – everything within easy reach.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

Sold STC

Bank Quay
Caernarfon

£165,000
3    1

For Sale

Tyddyn Hir
Bangor

£799,000
3    1

Sold STC

Morlais Penybryn Road
Y Felinheli

£450,000
3    1