Rydyn ni’n falch o ddarparu gwasanaeth cynnes, personol a phroffesiynol i’n cleientiaid. Fodd bynnag, os byddwch chi’n anfodlon ar unrhyw ran o’n gwasanaeth, rydym eisiau gwybod. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y mater yn gyflym ac yn deg.

Sut i wneud cwyn

Os hoffech chi wneud cwyn, gallwch gysylltu â ni yn ysgrifenedig neu drwy e-bost:

cysylltu@catra.cymru

Rhowch fanylion llawn am eich cwyn gan gynnwys:

  • Eich enw a manylion cyswllt
  • Disgrifiad clir o’r broblem
  • Unrhyw ddogfennau perthnasol

Beth syn digwydd nesaf?

  1. Cadarnhad: Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 3 diwrnod gwaith
  2. Ymchwiliad: Byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn ymateb yn llawn o fewn 15 diwrnod gwaith
  3. Datrysiad: Byddwn yn cynnig esboniad, ymddiheuriad neu gamau cywiro lle’n briodol

Os nad ydych yn fodlon

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gyfeirio’r mater at ein cynllun ombwdsmon annibynnol:

The Property Ombudsman
 https://www.tpos.co.uk/

Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 12 mis i’n hymateb terfynol.

Dewisiwch gwmni sy'n rhoi calon ac ystyr i bob gwerthiant


Proses hawdd, syml a di-straen, gyda phobl sy'n deall gwerth cartref a chymuned. Cysylltwch heddiw i drefnu prisiad personol, ystyrlon.