Pam Dewis Catra?

Pam Dewis Catra?

Mae gan bob cartref stori.

Mae gwerthu cartref yn llawer mwy na rhoi hysbyseb ar-lein. Mae’n golygu deall beth sy’n gwneud eich cartref yn arbennig, dod o hyd i’r prynwr cywir a’ch tywys drwy bob cam o’r daith.

Os yw eich cartref wedi bod yn rhan o’ch bywyd ers ychydig flynyddoedd neu ers cenedlaethau, byddwn wrth fy modd yn helpu i adrodd ei stori.



Cyfarfod Kristina.

Helo, Kristina ydw i.

Fi fydd yr unig berson y byddwch yn delio ag ef o’r alwad gyntaf hyd at drosglwyddo’r goriadau. Fi sy’n tynnu’r lluniau, yn ysgrifennu’r disgrifiadau, yn cynnal yr ymweliadau ac yn eich tywys drwy’r broses gyfan.

Rwy’n cyfyngu ar nifer yr eiddo rwy’n eu cymryd ymlaen er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i bob cleient.

Dwi’n credu fod pobl yn gallu syrthio mewn cariad â chartref cyn dod draw. Dyna pam mae ffotograffiaeth yn bwysig. Mae cyngor gonest yn bwysig. Mae prisio’n gywir yn bwysig. Ac yn fwy na dim, mae ymddiriedaeth a pherthynas dda yn bwysig.

Nid gwerthu tai’n unig yw fy ngwaith – mae’n ymwneud â helpu pobl i ddechrau’r bennod nesaf yn eu bywydau.

Cyfarfod Kristina.

Pam gwerthu gyda ni?


  • Ffotograffiaeth sy’n dal calon eich cartref
    Rydym yn defnyddio ffotograffiaeth broffesiynol sy’n dal naws, egni a chymeriad eich cartref – gan gyflwyno pob gofod ar ei orau.

  • Cefnogaeth bersonol drwy bob cam
    Cewch un person cyson i’ch arwain drwy’r broses gyfan – llais cyfeillgar, dim pasio o berson i berson.

  • Sylw go iawn i’r hyn sy’n gwneud eich cartref a’ch cymuned yn arbennig
    Rydym yn helpu darpar brynwyr i weld nid yn unig y cartref, ond y bywyd sydd o’i gwmpas – y cymuned, y llefydd a’r cysylltiadau.

  • Proses syml, platfform digidol hawdd i’w ddefnyddio
    Rydym yn sicrhau bod popeth yn glir ac yn hygyrch – dim jargon, dim penbleth, dim trafferth diangen.

  • Gwerthwyr lleol gyda gwybodaeth ddofn am am yr ardal leol
    Gan fyw a gweithio yn lleol, rydym yn adnabod yr ardal leol yn dda – ei chymunedau, ei mannau arbennig a’r hyn sy’n ei gwneud hi’n gartref i gynifer.

Beth fydd eich siwrna gyda Catra yn edrych fel?

Beth fydd eich siwrna gyda Catra yn edrych fel?

1. Dywedwch wrtha’i am eich cartref
Cwblhewch ffurflen fer fel y gallaf ddod i adnabod eich cartref a’ch cynlluniau.

2. Gadewch i ni gyfarfod
Byddwn yn trefnu gwerthusiad ac yn cael sgwrs am eich cartref a’r ffordd orau ymlaen.

3. Paratoi eich cartref
Ffotograffiaeth, prisio, cyngor a marchnata – gan sicrhau bod eich cartref yn cael ei gyflwyno yn ei olau gorau.

4. Dod o hyd i’r prynwr cywir
Nid y prynwr cyntaf o reidrwydd, ond y prynwr cywir.

5. Wrth eich ochr hyd at y diwedd
Byddaf yn eich tywys drwy’r broses gyfan, hyd at y diwrnod y bydd yr allweddi’n cael eu trosglwyddo.



Dewisiwch gwmni sy'n rhoi calon ac ystyr i bob gwerthiant


Proses hawdd, syml a di-straen, gyda phobl sy'n deall gwerth cartref a chymuned. Cysylltwch heddiw i drefnu prisiad personol, ystyrlon.