Amdanom
Cartref, cymuned, hapusrwydd.
Mae’r berthynas rhwng y tri pheth hyn ar feddwl Kristina Banholzer ers tro, perchennog cwmni Catra. A hithau wedi setlo yn Felinheli, ble mae hi a’i phartner yn magu eu dau o blant ifanc, mae Kristina wedi mwynhau bod yn rhan o grŵp cymunedol sy’n trefnu digwyddiadau yno, gan weld budd ac effeithiau cadarnhaol dod â phobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd ynghyd.
Gyda mwy a mwy o ymchwil yn dangos mai perthnasau a theimlad o berthyn yw un o’r prif bethau sy’n ein gwneud yn hapus, dechreuodd Kristina feddwl tybed oedd ffordd o gadw hyn mewn cof wrth werthu ein cartrefi. Oes ffordd o sicrhau bod prynwyr yn cael gwybod nid yn unig sut fath o fywyd sy’n bosib yn y cartref hwn, ond hefyd wrth fod yn rhan o’r gymuned leol?
A dyna sefydlu Catra: gwerthwr tai sy’n gwneud y daith o werthu eich cartref yn un hawdd, ystyriol, ac agos atoch chi, gan roi cyfle i unrhyw ddarpar berchennog weld y cyfoeth o gyfleoedd sydd o fewn eu cymuned newydd, boed hynny’n grwpiau llesiant, yn fusnesau annibynnol neu’n ofodau i gymdeithasu.
Gyda dros degawd o brofiad yn gweithio’n llawrydd fel ffotograffydd, mae Kristina hefyd yn defnyddio ei sgiliau ffotograffiaeth i ddangos pob cartref ar ei orau, gan adlewyrchu naws ac egni unigryw eich cartref ym mhob llun.
Pam mae cartrefi mor bwysig i mi
Cyn dod yn asiant tai, fues i’n gweithio fel ffotograffydd dogfennol am dros ddeng mlynedd.
Dysgodd ffotograffiaeth i mi mai’r straeon mwyaf ystyrlon yw’r rhai sydd i’w gweld yn y manylion bach. Hoff gadair wrth y ffenestr. Esgidiau mwdlyd wrth y drws cefn. Bwrdd y gegin sydd wedi gweld blynyddoedd o brydau teuluol. Y pethau bach yma sy’n dweud stori cartref, yn dawel bach.
Pan sefydlais Catra, sylweddolais nad oeddwn wedi gadael ffotograffiaeth ar ôl o gwbl. Roeddwn i wedi dod o hyd i ffordd newydd o adrodd straeon pobl.
Heddiw, mae pob cartref rwy’n ei ffotograffu, pob disgrifiad rwy’n ei ‘sgwennu a phob ymweliad rwy’n ei chynnal yn dechrau yn yr un ffordd – gyda chwilfrydedd. Rwy’n awyddus i ddeall beth sy’n gwneud cartref yn arbennig i’r bobl sy’n byw ynddo, cyn helpu rhywun arall i syrthio mewn cariad ag ef.
Dwi'n Caru...
Darganfod y manylion bach sy’n gwneud pob cartref yn unigryw.
Dal golau naturiol a’r awyrgylch go iawn, yn hytrach na cheisio perffeithrwydd.
Ysgrifennu disgrifiadau sy’n adrodd stori, nid dim ond rhestru nodweddion.
Helpu prynwyr i ddychmygu eu bywyd yn y cartref.
Adeiladu perthynas â phobl, nid gwerthu eiddo’n unig.
Dathlu’r pentrefi, y tirwedd a’r cymunedau sy’n gwneud Gogledd Cymru mor arbennig.
Helpu pobl i symud ymlaen yn hyderus i bennod newydd yn eu bywydau.
Ar werth
Dewisiwch gwmni sy'n rhoi calon ac ystyr i bob gwerthiant
Proses hawdd, syml a di-straen, gyda phobl sy'n deall gwerth cartref a chymuned. Cysylltwch heddiw i drefnu prisiad personol, ystyrlon.