Cartref modern 3 ystafell wely a adeiladwyd yn 2021. Swyddfa ardd, 3 ystafell ymolchi, golygfeydd y mynyddoedd, pwynt gwefru car trydan a llwybrau cerdded ar y stepen drws.

English Below

"Mae bywyd yng Nghae Capel yn syml ac yn hawdd – cymuned Gymraeg gynnes, llwybrau cerdded hyfryd a phopeth o fewn cyrraedd."

Wedi'i adeiladu yn 2021 ac wedi cael ei garu a'i gynnal gan yr unig berchnogion ers hynny, mae 23 Cae Capel yn cynnig cyfle i gamu i mewn i gartref modern lle mae popeth yn teimlo'n dwt, ac yn barod ar gyfer ei bennod nesaf.

Wedi'i leoli ar un o’r ‘stadau mwyaf newydd Bontnewydd, mae'r cartref hwn yn cynnig llawer mwy na phedair wal. Mae Cae Capel wedi datblygu'n gymuned gynnes o deuluoedd ifanc, lle mae plant yn reidio beics o amgylch yr ‘stâd, cymdogion yn stopio am sgwrs ar y ffordd i'r ysgol, ac mae'r ysgol gynradd dim ond ychydig funudau ar droed o'r drws ffrynt. Ar waelod yr ‘stâd mae parc chwarae sy'n cynnig lle diogel a chroesawgar i blant chwarae a gwneud ffrindiau.

I'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored, mae'r lleoliad yn arbennig iawn. O'r drws ffrynt mae llwybrau cerdded a lonydd gwledig yn ymestyn allan i'r cefn gwlad cyfagos. Boed am dro gyda'r ci, cerdded gyda'r teulu neu fynd am dro ar noson braf, mae llwybrau hyfryd ar garreg y drws, gan gynnwys y daith boblogaidd tuag at Fron Goch.

Y tu mewn, mae'r tŷ yn teimlo'n olau, yn dawel ac yn hawdd byw ynddo. Wrth galon y cartref mae cegin hardd sy'n agor allan i'r ardd gyda golygfeydd tuag at y mynyddoedd. Wrth i'r haul godi dros y mynyddoedd, mae'r gofod yn llenwi â golau naturiol, gan greu'r lle perffaith i fwynhau coffi boreol neu frecwast yn yr ardd cyn dechrau'r diwrnod.

Gyda thair ystafell wely a thair ystafell ymolchi, mae'r cynllun yn cynnig hyblygrwydd gwych, boed yn gartref cyntaf, yn gartref i deulu ifanc neu'n lle sy'n gallu addasu wrth i fywyd newid dros amser.

Y tu allan, mae'r ardd yn parhau'r stori. Mae swyddfa ardd bwrpasol yn cynnig gwahaniad gwerthfawr rhwng gwaith a chartref, gan greu lle tawel i ganolbwyntio tra'n aros dim ond ychydig gamau o'r tŷ. Boed yn swyddfa, stiwdio, ystafell hobïau neu ofod creadigol, mae'n ychwanegiad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd bob dydd.

Mae'r manylion ymarferol wedi cael eu hystyried hefyd, gan gynnwys pwynt gwefru car trydan, sy'n helpu i wneud bywyd ychydig yn haws.

Yr hyn sy'n gwneud y cartref hwn mor apelgar yw cyn lleied sydd angen ei wneud. Mae'r cyflwr yn wych, mae'r addurniad yn ffresh ac mae'r tŷ'n dal i deimlo bron fel cartref newydd. Yn syml, mae'n llawn posibiliadau ac yn barod i rywun symud i mewn a dechrau mwynhau bywyd yma o'r diwrnod cyntaf.

Tâl Rheoli Ystâd Blynyddol: £300

EPC: B

Band Treth Cyngor: D

Ffenestri Haen Dwbl drwyddo

Gwres Canolog Nwy

Atig wedi ei ‘fordio’

“Life at Cae Capel is wonderfully simple – a welcoming Welsh community, beautiful walks from the doorstep and everything you need close at hand.”

Built in 2021 and lovingly cared for by its only owners ever since, 23 Cae Capel offers the opportunity to step into a modern home where everything feels fresh, well maintained and ready for its next chapter.

Situated on one of Bontnewydd's newest developments, this home offers far more than four walls. Cae Capel has grown into a warm and welcoming community of young families, where children ride their bikes around the estate, neighbours stop for a chat on the school run, and the village primary school is only a short walk from the front door. At the bottom of the estate, a children's play park provides a safe and friendly place to play and make friends.

For those who enjoy the outdoors, the location is particularly special. From the front door, a network of footpaths and quiet country lanes lead out into the surrounding countryside. Whether it's a dog walk, a family stroll or an evening wander after work, beautiful walks are right on your doorstep, including the popular route towards Fron Goch.

Inside, the home feels bright, calm and easy to live in. At the heart of the house is a beautiful kitchen that opens out onto the garden, enjoying lovely views towards the mountains. As the sun rises over the landscape, the space fills with natural light, creating the perfect spot to enjoy a morning coffee or breakfast in the garden before the day begins.

With three bedrooms and three bathrooms, the layout offers excellent flexibility, whether you're buying your first home, raising a young family or looking for a home that can adapt as life changes over time.

Outside, the garden continues the story. A dedicated garden office creates valuable separation between work and home, offering a peaceful space to focus whilst remaining only a few steps from the house. Whether used as an office, studio, hobby room or creative retreat, it is a feature that makes a genuine difference to everyday life.

Practical touches have been thoughtfully included too, including an electric vehicle charging point, helping to make modern life that little bit easier.

What makes this home particularly appealing is how little there is to do. The condition is excellent, the décor is fresh and the house still feels almost new. Simply move in, unpack and begin enjoying everything this wonderful home and community have to offer.

Annual Estate Management Charge: £300

EPC Rating: B

Council Tax Band: D

Double Glazing Throughout

Gas Central Heating

Attic is boarded

Cyntedd / Entrance Hall
Gofod croesawgar i ddod i mewn i'r cartref. Mae'r grisiau yn syth o'ch blaen ac mae digon o le ar gyfer storio cotiau ac esgidiau heb amharu ar y gofod. Oddi ar y cyntedd mae toiled lawr grisiau defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer gwesteion a bywyd bob dydd.

A bright and welcoming space to enter the home. The staircase sits directly ahead, whilst there is plenty of room for coats and shoe storage without encroaching on the space. A useful downstairs WC is located off the hallway, making it ideal for guests and everyday family life.

Ystafell Fyw / Living Room 15' 5" x 12' 10" (4.71m x 3.92m)
Yn olau, yn groesawgar ac yn llawn posibiliadau, mae'r ystafell fyw bron yn sgwar o ran siap, gan gynnig digon o le ar gyfer amrywiaeth o ddodrefn. Mae ffenestr hyfryd yn edrych allan dros y 'stâd, gan lenwi'r gofod â golau naturiol. O'r fan hon mae mynediad uniongyrchol i'r gegin, gan greu llif naturiol drwy'r cartref.

Bright, welcoming and full of potential, the living room is almost square in shape, providing plenty of space for a variety of furniture layouts. A charming window overlooks the estate outside, allowing natural light to fill the room. From here, you can access the kitchen, creating a natural flow through the home.

Cegin / Kitchen 16' 3" x 10' 0" (4.96m x 3.06m)
Yn galon i'r cartref, mae'r gegin agored hon yn cynnig lle gwych i goginio, bwyta a threulio amser gyda'r teulu. Mae'r gegin fodern mewn cyflwr ardderchog ac yn cynnwys oergell/rhewgell integredig, peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, popty a hob. Mae lle bwyta dymunol wrth ymyl y drysau dwbl sy'n agor allan i'r ardd, gan ganiatáu i olau naturiol lifo i'r gofod. Mae cwpwrdd storio defnyddiol gyda thrydan hefyd yn ychwanegu at ymarferoldeb y gofod.

Undoubtedly the heart of the home, this open-plan kitchen and dining space has been designed for modern family living. The kitchen is presented in excellent condition and includes an integrated fridge freezer, dishwasher, washing machine, oven and hob. A dedicated dining area sits beside the double doors leading out to the garden, allowing natural light to flood the room and creating a wonderful space for everyday meals and entertaining. A useful storage cupboard with power provides additional practica

Prif Ystafell Wely / Master Bedroom 12' 6" x 9' 1" (3.80m x 2.78m)
Gofod tawel a chysurus sy'n edrych dros flaen y tŷ. Mae'r ystafell siâp L hon yn cynnig digon o le ar gyfer gwely dwbl mawr, cypyrddau dillad a dodrefn ychwanegol. Mae naws dawel a hamddenol i'r ystafell, gan ei gwneud yn encil perffaith ar ddiwedd y dydd. Mae ystafell ymolchi en-suite hefyd yn cynnwys cawod, sinc a thoiled, gan ychwanegu ychydig o foethusrwydd a chyfleustra i fywyd bob dydd.

A calm and comfortable space overlooking the front of the property. This L-shaped bedroom offers plenty of room for a large bed, wardrobes and additional furniture, whilst retaining a bright and airy feel. Peaceful and relaxing, it provides the perfect place to unwind at the end of the day. The room also benefits from a private en-suite comprising a shower, WC and wash basin, adding both convenience and comfort to everyday living.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 9' 10" x 9' 6" (3.00m x 2.90m)
Yn edrych dros gefn y tŷ, mae'r ystafell wely hon yn mwynhau y golau bore hyfryd sy'n llifo i mewn drwy'r ffenestr a'r golygfeydd o'r mynyddoedd. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys gwely dwbl, cypyrddau dillad mawr a desg, gan ddangos yn glir faint o le sydd ar gael. Ystafell ddwbl wych sy'n addas fel ystafell i blentyn, gwestai neu hyd yn oed fel ystafell wisgo foethus.

Overlooking the rear of the property, this bedroom enjoys beautiful morning light that fills the room through the window. Currently home to a double bed, large wardrobes and a dressing table, it demonstrates just how generous the space is. A wonderful double bedroom, perfect for a child, guest room or even a luxurious dressing room.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 9' 6" x 6' 4" (2.90m x 1.93m)
Ystafell sengl fawr sy'n cael ei defnyddio fel swyddfa ar hyn o bryd. Yn edrych dros gefn y tŷ tuag at y mynyddoedd, mae'n ofod golau a hyblyg sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau. Byddai'n ystafell wely wych i blentyn, yn ystafell babi neu'n swyddfa gartref barhaol.

A generous single bedroom, currently used as a home office. Overlooking the rear of the property towards the mountains, it is a bright and versatile space that could serve a variety of purposes. It would make a wonderful child's bedroom, nursery or permanent home office.

Ystafell Ymolchi / Bathroom 6' 5" x 6' 7" (1.95m x 2.01m)
Wedi'i lleoli'n ganolog rhwng y tair ystafell wely, mae'r ystafell ymolchi hon yn gwasanaethu'r cartref yn berffaith. Mae'r teils niwtral a'r addurniad ffresh yn creu gofod glân a chroesawgar. Mae'n cynnwys bath maint da gyda chawod uwchben, sinc a thoiled, gan ei gwneud yn ystafell ymarferol a chyfforddus ar gyfer bywyd teuluol bob dydd.

Positioned centrally between all three bedrooms, this bathroom serves the home perfectly as a family bathroom. Neutral tiling and fresh décor create a clean and welcoming space. The room comprises a generously sized bath with an overhead shower, wash basin and WC, making it both practical and comfortable for everyday family living.

Lleoliad

Mae Bontnewydd yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd yr ardal i deuluoedd ifanc a phobl o bob oed, gan gynnig y cydbwysedd perffaith rhwng cymuned, cyfleustra a bywyd cefn gwlad. Mae'r pentref yn elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth gwych, gyda mynediad hawdd i'r A55, yr A470 a Phen Llŷn, tra bod tref Caernarfon o fewn pellter cerdded.nWrth galon y pentref mae cymuned Gymraeg gref, siop gyfleustra, amrywiaeth o fusnesau lleol a digonedd o lwybrau cerdded hyfryd yng nghefn gwlad. Mae ysgol eco newydd yn cael ei hadeiladu dim ond ychydig gamau o Gae Capel, gan ychwanegu ymhellach at apêl y pentref i deuluoedd. Pan ddaw'r penwythnos, mwynhewch ginio dydd Sul yn y Newborough Arms, 'fish a chips' o'r siop chips leol neu fwyd i fynd o'r têcawe yn y pentref. Yn bentref cynnes a chroesawgar gyda phopeth sydd ei angen o fewn cyrraedd, mae Bontnewydd yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf dymunol i fyw yn ardal Caernarfon. / Bontnewydd is one of the area's most popular villages for young families and people of all ages, offering the perfect balance between community, convenience and countryside living. The village enjoys excellent transport links, with easy access to the A55, A470 and Pen Llŷn, whilst Caernarfon is within walking distance. At the heart of the village is a strong Welsh-speaking community, a convenience store, a range of local businesses and plenty of beautiful countryside walks. A new eco-school is currently being built just a short walk from Cae Capel, further strengthening the village's appeal for families. When the weekend arrives, enjoy a traditional Sunday lunch at the popular Newborough Arms, pick up fish and chips from the local chippy, or treat yourself to a takeaway from the village Indian.nA welcoming village with everything you need close at hand, Bontnewydd continues to be one of the most sought-after places to live in the Caernarfon area.




Datganiad Ymwadiad Eiddo

Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.

Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Gwerthwyd STC

Flat 6
Caernarfon

£149,000
3    3

Ar Werth

Tanycastell
Dolwyddelan

£329,000
3    3

Ar Werth

Penrhos Road
Bangor

£280,000
3    3