Nŷth Clyd gyda Golygfa – Tŷ Teras Llawn Cymeriad yn Y Felinheli.
A Cosy Nest with a View – Characterful Terraced House in Y Felinheli
English Below
“Yr olygfa ydi mawredd y ty yma!”
-
Cartref dwy ystafell wely wedi’i osod dros dair llawr
-
Wedi’i leoli mewn safle uchel yn y pentref gyda golygfeydd agored hyfryd
-
Wedi’i gysylltu â dŵr, trydan a wedi’i gysylltu â charthffosiaeth y prif gyflenwad
(mains drainage) -
Band eang ffibr
-
System wresogi Economy 7
-
Prosiect Cyffrous
-
Yn gymwys ar gyfer Grant Tai Gwag Cyngor Gwynedd
-
Band Treth Cyngor B
-
EPC - E
Wedi’i leoli mewn man tawel, i lawr grisiau oddi ar y stryd, mae’r tŷ teras hyfryd hwn yn Y Felinheli yn llawn personoliaeth a photensial. Gyda golygfeydd hardd dros y Fenai, mae’n cynnig cyfle prin i greu cartref bach arbennig mewn lleoliad heddychlon.
Yn berffaith ar gyfer person neu gwpl yn chwilio am eu cartref cyntaf. Mae’n brosiect i fynd i’r afael ag ef, ac yn gyfle i roi’ch stamp eich hun arno. Mae’r tŷ’n fach ac yn llawn swyn, gyda nodweddion retro sy’n awgrymu ei hanes, ac mae digon o le i’w foderneiddio neu ei ail-lunio yn ôl eich dychymyg.
Y tu mewn, mae’n syml ac yn llawn golau, gyda threfniant cynllun agored sy’n manteisio i’r eithaf ar y golau naturiol a’r golygfeydd. Y tu allan, mae lle o flaen a thu ôl i greu cornel fach dawel ar gyfer coffi’r bore neu dyfu ychydig o blanhigion – gardd fach yn y blaen sy’n cael haul y bore, ac ardal wag yn y cefn gyda haul y pnawn.
Nid ‘show home’ ydi hwn – ond nyth gartrefol sy’n disgwyl i rhywun ei garu, ei siapio a setlo ynddo. Man cysgodol, dim ond tafliad carreg o ganol y pentref a glannau’r Fenai islaw.
“Mae popeth mae rhywun ei angen yma. Llwybr yr Arfordir: Dwi'n caru mynd yno'r adeg yma o'r flwyddyn i gasglu garlleg gwyllt a chael llonyddwch. Ond mae'r Felinheli yn lle gwych hefyd i rywun sy'n licio bwrlwm. Mae digon o lefydd i fynd am bryd o fwyd neu beint, i gyfarfod ffrind am baned neu i eistedd ar un o'r meinicau ar lan y mor.”
Fel bonws, mae’r cartref hwn yn gymwys ar gyfer Grant Tai Gwag Cyngor Gwynedd – sy’n cynnig hyd at £25,000 tuag at waith gwella, gan wneud hwn yn gyfle cyffrous iawn i’r perchennog cywir.
https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Tai-gwag.aspx
English
"The view is the glory of this home!"
-
Two-bedroom home arranged over three floors
-
Located in an elevated position in the village with beautiful open views
-
Connected to water, electricity, and mains drainage
-
Fibre broadband
-
Economy 7 heating system
-
Exciting project
-
Eligible for Gwynedd Council’s Empty Homes Grant
-
Council Tax Band B
-
EPC - E
Set in a quiet spot, down a flight of steps off the street, this lovely terraced house in Y Felinheli is full of personality and potential. With beautiful views over the Menai Strait, it offers a rare opportunity to create a truly special little home in a peaceful setting.
Perfect for a person or couple looking for their first home, this is more than just a place to live – it’s a project to get stuck into, and a chance to put your own stamp on it. The house is small and full of charm, with retro features that hint at its history, and plenty of scope to modernise or reimagine the space to suit your own style.
Inside, it’s simple and filled with natural light, with an open-plan layout that makes the most of both the light and the views. Outside, there’s space at the front and back to create a quiet corner for morning coffee or to grow a few plants – a small front garden that catches the morning sun, and a blank space at the back that enjoys the afternoon light.
This isn’t a ‘show home’ – it’s a cosy nest waiting for someone to love it, shape it, and settle in. A sheltered spot with a timeless feel, just a stone’s throw from the heart of the village and the shores of the Menai below.
"Everything you need is here. The Coastal Path – I love going there this time of year to gather wild garlic and enjoy the peace and quiet. But Felinheli is also a great place for someone who enjoys a bit of buzz. There are plenty of places to go for a meal or a pint, to meet a friend for a coffee, or to sit on one of the benches by the sea."
As a bonus, this home is eligible for Cyngor Gwynedd’s Empty Homes Grant – offering up to £25,000 towards improvements, making it a very exciting opportunity for the right buyer.
https://www.gwynedd.llyw.cymru/en/Residents/Housing/Empty-homes.aspx
Stafell Fyw / Living Room
Dyma’r prif le byw rydych yn cerdded i mewn iddo wrth fynd i mewn i’r eiddo – llawn golau naturiol ac yn teimlo’n agored diolch i’r ffenestr fawr sy’n cynnig golygfeydd agored dros y Fenai a thu hwnt - Lle perffaith i ymlacio. Mae grisiau pren yn mynd i fyny i'r llawr cyntaf yn ogystal a set o risiau i lawr i'r cegin. Mae lle tân i losgi pren neu glo yn eistedd yng nghanol yr ystafell.
This is the main living space you walk into as you enter the property – full of natural light and an open feel, thanks to the large window offering wide views over the Menai Strait and beyond - A perfect place to relax. You will find a wooden staircase leading you up to the bedrooms as well as a staircase down to the kitchen. There sit a fireplace to burn wood or coal sitting in the middle of the room.
Cegin / Kitchen
Mae’r gegin a’r ardal bwyta bach ar lawr gwaelod wedi’i drefnu’n daclus, gyda gegin 'galley' a man bwyta clyd ar waelod y grisiau. Mae drws cefn yn arwain allan i iard fach gyda golygfeydd hyfryd – perffaith ar gyfer coffi tawel yn y bore. Mae’r lle yn syml ac ymarferol, gyda popeth sydd ei angen wrth law - popty a hob, yn ogystal â oergell / rhewgell.
The small kitchen and dining area on the ground floor are neatly laid out, with a galley kitchen and a cosy dining spot at the bottom of the stairs. A back door opens out to a small courtyard with lovely views – perfect for a quiet morning coffee. The space is simple and practical, with everything you need close to hand, an oven and hob as well as a fridge freezer.
Ystafell Molchi / Bathroom
Yma mae ystafell ymolchi fach gyda popeth dachi' angen ynddi - bath gyda chawod uwchben, toiled a sinc. Mae’r gofod yn syml ond byddai’n elwa o ychydig o ddiweddariad – cyfle gwych i roi eich stamp eich hun arni.
Here is a small bathroom with everything you need – a bath with overhead shower, toilet, and sink. The space is simple but would benefit from a bit of updating – a great opportunity to put your own stamp on it.
Prif Stafell Wely / Main Bedroom
Mae’r ystafell wely hon yn llawn golau ac yn teimlo’n dawel a chlyd, gyda golau naturiol yn llifo i mewn trwy’r ffenestr. Mae cypyrddau wedi’u gosod ar y ddwy ochr i’r ystafell, gan gynnig digon o le i storio dillad ac yn helpu i gadw’r lle’n daclus.
This bright and airy bedroom feels calm and cosy, with natural light pouring in through the window. There are fitted wardrobes on both sides of the room, offering plenty of built-in storage while keeping the space feeling uncluttered.
Stafell Wely neu Swyddfa / Bedroom 2 or Office
Dyma’r ystafell wely leiaf yn y tŷ, ac ar hyn o bryd mae wedi’i gosod fel swyddfa gartref gyfleus. Mae’n le tawel, llawn golau, gyda golygfeydd bendigedig dros y Fenai. P’un a ydych chi’n ei gadw fel swyddfa neu’n ei throi’n ystafell wely, mae’r olygfa’n rhoi teimlad arbennig i’r gofod.
This is the smallest bedroom in the house, currently set up as a convenient home office. It's a quiet, light-filled space with beautiful views over the Menai Strait. Whether you keep it as an office or turn it into a bedroom, the view gives the space a special feel.
Lleoliad
Mae’r eiddo wedi’i leoli yn rhan uchaf Y Felinheli, mewn ardal dawel i ffwrdd o fwrlwm y pentref, gyda golygfeydd hyfryd dros y Fenai. Mae’r pentref yn enwog am ei gymuned glos, gyda digon o dafarnau, caffis, a digwyddiadau lleol drwy’r flwyddyn. Wedi’i leoli’n gyfleus ger yr A55, ac ar lwybr beicio i Fangor a Chaernarfon, mae’n lle delfrydol i unigolyn neu gwpl ifanc sy’n chwilio am gartref mewn cymuned fywiog.nnnThe property is located in the upper part of Y Felinheli, in a quiet spot away from the bustle of the village, with lovely views over the Menai Strait. The village is known for its strong community, with plenty of pubs, cafés, and local events throughout the year. Conveniently close to the A55 and on the cycle path to Bangor and Caernarfon, it’s an ideal location for someone living alone or a young couple looking to settle in a vibrant community.
Datganiad Ymwadiad Eiddo
Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.
Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.