Cartref bach ciwt a 'stylish' yng nghanol Caernarfon. Yn olau, clyd ac yn barod i symud iddo, gyda gardd breifat sy’n dal haul y prynhawn a bywyd y dref reit tu allan i’r drws.

English Below

Mae ’na rywbeth hynod apelgar am dŷ sy’n teimlo’n syml, ‘stylish’ ac yn hawdd iawn i fyw ynddo – ac mae gan y cartref bach yma ym Mhenrallt Isaf yr union deimlad hwnnw.

Wedi’i leoli reit yng nghanol Caernarfon, dyma’r math o le allwn ni ei ddychmygu’n berffaith i rywun sy’n byw ar ei ben ei hun, neu gwpl sydd wrth eu bodd efo bwrlwm bywyd y dref reit tu allan i’r drws. Mae wedi’i addurno’n hyfryd, yn olau ac yn llawn personoliaeth, gyda phopeth sydd ei angen arnoch mewn cartref bach hawdd ei reoli.

Rydych chi’n camu’n syth drwy’r drws ffrynt i’r gegin a’r lle bwyta, gyda bwrdd wrth y ffenest yn barod ar gyfer brecwast hamddenol a choffi yn y bore. Mae’r gegin ei hun yn daclus ac ymarferol, gydag oergell a pheiriant golchi integredig, storfa handi dan y grisiau a drws yn arwain allan tuag at yr ardd.

Mae’n debyg mai’r ystafell fyw ydy un o’n hoff lefydd ni yn y tŷ. Mae ffenestri ar y ddwy ochr yn dod â digon o olau’r bore i mewn. Mae’n glyd heb deimlo’n dywyll – yr union fath o stafell lle fedrwch chi swatio ar y soffa o flaen y teledu ar ddiwedd y dydd.

I fyny’r grisiau, mae’r brif ystafell wely yn ystafell ddwbl gyfforddus sy’n braf ac yn olau yn y bore. Mae yna hefyd ‘stafell llai sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd fel ystafell westai a swyddfa adra, gyda lle ar gyfer gwely sengl, ynghyd â thrydedd stafell fach mae’r perchennog presennol wedi’i throi’n ‘stafell newid a choluro.

Mae’r ystafell ymolchi hefyd wedi cael ei ddiweddaru gyda ‘suite’ newydd, gan gynnwys cawod, uned sinc a thoiled. Does dim llawer i’w wneud yma o gwbl - gallwch chi symud i mewn a dechrau gwneud y lle’n gartref i chi.

Ac wedyn mae’r ardd. Mae grisiau o’r drws cefn yn mynd â chi i fyny at batio hyfryd sy’n dal haul y prynhawn. Gyda mainc wedi’i hadeiladu i mewn, lle i ddodrefn gardd a dipyn o breifatrwydd, mae’n ofod bach annisgwyl o gymdeithasol yng nghanol y dref. Gallwn ni’n barod ddychmygu nosweithiau haf yma, coctels ar y bwrdd a ffrindiau wedi gwasgu ar y fainc.

Ac wedyn, wrth gwrs, mae Caernarfon ei hun reit tu allan i’r drws. Mae caffis, tafarndai a’r Fenai ond ychydig funudau i ffwrdd, gyda theithiau cerdded ar hyd y dŵr a Lôn Las yn aros amdanoch ar y penwythnos.

I ni, dyna sy’n gwneud i’r tŷ yma weithio mor dda. Dydy o ddim yn trio bod yn gartref teuluol enfawr. Mae’n dŷ bach ciwt, hawdd ei reoli ac wedi’i roi at ei gilydd yn hyfryd - perffaith i rywun sydd isio cartref clyd ei hun, ond sydd hefyd isio bod reit yng nghanol popeth.

Hardd, cymdeithasol ac yn barod i symud yn syth iddo - cartref bach hyfryd yng Nghaernarfon, yn barod am ei bennod nesaf.

EPC - D

Band Treth Cyngor - B

Ffenestri Haen Dwbwl

Gwres Canolog Nwy

Parcio ar y stryd drwy system trwydded y Cyngor - £60 am y flwyddyn

Mae mynediad at ddrws ffrynt yr eiddo ar droed drwy hawl tramwy dros y llwybr bach.

There’s something incredibly appealing about a house that feels simple, stylish and really easy to live in – and this little home in Penrallt Isaf has exactly that feeling.

Set right in the heart of Caernarfon, this is the kind of place we can imagine being perfect for someone living on their own, or a couple who loves having the hustle and bustle of town life right outside the front door. It’s beautifully decorated, bright and full of personality, with everything you need in a small, easy-to-manage home.

You step straight through the front door into the kitchen and dining space, with a table by the window ready for a relaxed breakfast and morning coffee. The kitchen itself is neat and practical, with an integrated fridge and washing machine, handy understairs storage and a door leading out towards the garden.

The living room is probably one of our favourite spaces in the house. Windows on both sides bring in plenty of morning light. It’s cosy without feeling dark – exactly the kind of room where you can curl up on the sofa in front of the telly at the end of the day.

Upstairs, the main bedroom is a comfortable double that feels lovely and bright in the morning. There’s also a smaller room currently used as a guest room and home office, with space for a single bed, along with a third little room that the current owner has turned into a dressing room.

The bathroom has also been updated with a new suite, including a shower, sink unit and toilet. There’s very little to do here at all – you can simply move in and start making the place your own.

And then there’s the garden. Steps from the back door take you up to a lovely patio that catches the afternoon sun. With a built-in bench, space for outdoor furniture and a good degree of privacy, it’s a surprisingly sociable little spot right in the middle of town. We can already imagine summer evenings here, cocktails on the table and friends squeezed onto the bench.

And then, of course, there’s Caernarfon itself, right outside the front door. Cafés, pubs and the Menai Strait are only a few minutes away, with walks along the waterfront and Lôn Las waiting for you at the weekend.

For us, that’s what makes this house work so well. It’s not trying to be a huge family home. It’s a cute, manageable and beautifully put-together little house – perfect for someone who wants a cosy home of their own while still being right in the middle of everything.

Beautiful, sociable and ready to move straight into – a lovely little Caernarfon home, ready for its next chapter.

EPC – D
Council Tax Band – B
Double Glazing
Gas Central Heating
On-street parking via the Council permit scheme – £60 per year

Access to the front door of the property is on foot via a right of way over the small pathway.

Cegin ac Ystafell Fwyta / Kitchen Diner 24' 10" x 8' 2" (7.57m x 2.50m)
Rydych chi’n camu’n syth i’r lle bwyta o’r drws ffrynt, gyda bwrdd wrth y ffenest ar gyfer boreau golau. Mae’r gegin yn cynnwys oergell a pheiriant golchi integredig, cwpwrdd dan y grisiau a drws yn arwain allan i’r ardd gefn.

Step straight through the front door into this bright, sociable dining space, with a table by the window for sunny mornings. The kitchen has an integrated fridge and washing machine, understairs storage and a door leading directly out to the rear garden.

Ystafell Fyw / Living Room 17' 1" x 8' 7" (5.20m x 2.62m)
Ystafell fyw fach glyd gyda ffenestri ar y ddwy ochr, sy’n gadael haul y bore i lifo i mewn. Mae 'alcove' yn ychwanegu cymeriad – y lle perffaith i swatio ar y soffa am noson glyd o flaen y teledu.

A lovely cosy living room with windows to both sides, letting the morning light stream in. Alcoves on either side add a little character, while the room itself is just perfect for curling up on the sofa for a cosy evening in front of the telly.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 7' 10" x 5' 9" (2.38m x 1.76m)
Yr ystafell lleiaf y cartref, sydd ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio fel storfa dillad gyda wardrob a lle i wneud colur. Mae’n ofod storio gwych neu’n stafell gwely sengl.

The smallest room in the house, currently used as a dressing room with wardrobe and dressing table. It makes a brilliant storage space or a single bedroom..

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 9' 5" x 8' 10" (2.87m x 2.69m)
Ystafell olau a 'cwtchlyd'. Ar hyn o bryd mae’n cael ei defnyddio fel ystafell westai a swyddfa gartref.

A lovely bright and cosy room. Currently used as both a guest room and home office, it’s a flexible little space that can easily adapt to suit whoever lives here.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 9' 5" x 8' 8" (2.87m x 2.65m)
Y brif ystafell wely ar hyn o bryd, gyda digon o le ar gyfer gwely dwbl. Mae’n stafell syml a chroesawgar sy’n braf ac yn olau yn y bore – lle tawel a chlyd i orffen y dydd.

Currently used as the main bedroom, this is a comfortable double room that feels lovely and bright in the morning. Simple, calm and welcoming, it’s a cosy little space to put your head down at the end of the day.

Ystafell Molchi / Bathroom 7' 10" x 5' 4" (2.38m x 1.63m)
Ystafell ymolchi daclus gyda 'suite' newydd, yn cynnwys toiled, uned sinc a chawod sy’n rhedeg oddi ar y system gwres canolog. Gofod syml, ffres ac ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd.

A fresh and practical bathroom with a new suite, including a toilet, sink unit and walk-in shower running from the central heating system. Simple, bright and easy to look after – just what you need for everyday life.

Lleoliad

Wedi’i leoli reit yng nghanol Caernarfon, mae bywyd y dref ar stepen eich drws. Coffi efo ffrindiau yn un o’r caffis lleol, diod ar ôl gwaith, bwyd allan neu noson yn y dafarn – does dim angen car pan mae cymaint yn digwydd o fewn pellter cerdded. Mae ’na gymuned ifanc a chreadigol hyfryd yma hefyd, gyda phopeth o Ioga i 'Gong baths', siopau cyfnewid dillad a digwyddiadau lleol. Ac wrth gwrs, mae digwyddiadau fel Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dod â hyd yn oed mwy o fwrlwm i ganol y dref. I’r rhai sy’n hoffi bod allan, mae’r Foryd yn berffaith i fynd i redeg gyda chlwb rhedeg lleol ar hyd y Fenai, gyda Lôn Las hefyd yn agos ar gyfer cerdded a beicio. Gyda chaffis, siopau annibynnol, digwyddiadau a chymaint o fywyd cymdeithasol o’ch cwmpas, mae’n lle gwych i rywun sydd isio byw reit yng nghanol y cyfan. / Set right in the heart of Caernarfon, town life is quite literally on your doorstep. Coffee with friends at one of the local cafés, after-work drinks, dinner out or an evening at the pub – there’s no need for the car when so much is happening within walking distance. There’s a lovely young and creative community here too, with everything from yoga and gong baths to clothes swaps and local events. And of course, events such as the Caernarfon Food Festival bring even more life and energy into the centre of town. For those who love being outdoors, the Foryd is perfect for joining a local running club for a run along the Menai Strait, while Lôn Las is also close by for walking and cycling. With cafés, independent shops, events and so much of Caernarfon’s social life around you, it’s a brilliant place for someone who wants to live right in the middle of it all.




Datganiad Ymwadiad Eiddo

Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.

Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Ar Werth

Bro Eglwys
Caernarfon

£280,000
3    1

Gwerthwyd STC

Snowdon View, Stad Glan Beuno
Caernarfon

£320,000
3    1

Gwerthwyd STC

Flat 6
Caernarfon

£149,000
3    1