Cartref eco 3x llofft yn Waunfawr. Angen tipyn o waith a chariad, ond mewn lleoliad bendigedig. / Eco-friendly 3-bed home in Waunfawr. Needs some TLC, but set in a beautiful and peaceful location.
English Below
“Mi fuodd hwn yn gartref lyfli i mi, mewn cul-de-sac distaw. Dwi wedi gwirioni byw yn Waunfawr – teithiau cerdded bendigedig, a phobl lyfli. Gobeithio’n fawr y bydd y perchennog nesaf yn cael yr un heddwch a mwynhad ag o’n i’n gael yn fan hyn.”
Wedi’i guddio mewn cilfan dawel yng nghanol pentref hoffus Waunfawr, mae’r ty teras tair ystafell wely hwn yn llawn potensial – ac mewn lleoliad fel hyn, mae’n hawdd gweld pam. Mae’r darn gwair yng nghanol y stad o dai yn fan diogel i blant chwarae, lle mae cymdogion yn stopio am sgwrs, a bywyd yn symud yn araf.
Mae’r ty ei hun yn gadarn ac yn dod a manteision ychwanegol: ffenestri haen dwbl ledled y ty, paneli solar newydd, pymp gwres ffynhonnell aer a ‘radiators’ newydd. Mae’n hynod effeithlon ac yn rhad i’w redeg. Er bod y ty hwn yn hynod effeithlon o ran ynni, mae angen adnewyddu’n llwyr – cyfle perffaith i roi’ch stamp eich hun ar y cartref.
Y tu mewn, mae dwy ystafell fyw yn llifo i’w gilydd, gan adael i’r golau naturiol ddod o bob ochr y ‘stafell. Mae’r ystafell fyw/ystafell fwyta wedi cael carpedi newydd, ac mae gan y ddwy ystafell brest simdda – cyfle gwych i osod lle tan neu losgwr coed. Dychmyga ddod adref ar ol cerdded y mynyddoedd neu’r goedwig gyfagos a chynnau tan clyd i’r teulu.
Mae’r gegin angen ei adnewyddu ond yn ofod braf, ac yn agor yn uniongyrchol i adeilad allan yn y cefn a fyddai’n berffaith fel ystafell utility. O’r fan hon, mae drws yn arwain ymlaen i’r ardd – lle preifat, heddychlon, wedi’i hamgylchynu gan natur a choed. Hoff ddarn y perchennog presennol? Bwlch bach cudd yn y gwrychoedd sy’n arwain yn syth i’r goedwig, cae chwarae pel-droed ac yna’r parc i blant – breuddwyd i deuluoedd ac yn atgof o’r rhyddid mae bywyd pentref yn ei gynnig.
I fyny’r grisiau, mae ‘landing’ eang yn cysylltu tair ystafell wely – dwy fawr ar gyfer gwelyau dwbl a dodrefn, ac un sengl. Ar hyn o bryd mae’r ystafell ymolchi a’r ty bach ar wahan, ond gellid eu cyfuno’n hawdd wrth adnewyddu i greu un ystafell fwy, tasa’ chi isho.
Mae bywyd yn Waunfawr a’i rythm ei hun. Siop leol gyfeillgar, tafarn dda, ysgol gynradd a ysgol meithrin, a llwybrau cerdded di-ri ar y stepen drws. Mae’n le lle mae plant yn tyfu i fyny yn yr awyr agored, lle mae nosweithiau’n cael eu treulio wrth y tan, a lle mae’r mynyddoedd yn galw o’r gorwel. Gyda’r gwaith eco eisoes wedi’i gwblhau, paneli solar newydd ar y to, a lleoliad mor arbennig, gyda buddsoddiad a llygad da mae’r ty hwn yn aros i gael ei wneud yn gartref annwyl unwaith eto.
EPC - F (adroddiad wedi ei wneud cyn i’r gwaith eco ddigwydd)
Band Treth Cyngor - B
Ffenestri Haen Dwbl
Gwres Canolog Nwy
“This has been a lovely home for me, in a quiet cul-de-sac. I’ve absolutely loved living in Waunfawr – beautiful walks and lovely people. I really hope the next owner finds the same peace and enjoyment here as I have.”
Tucked into a quiet cul-de-sac in the heart of Waunfawr, this three-bedroom terraced home is brimming with potential – and with a setting like this, it’s easy to see why. The green at the centre of the cul-de-sac is where children play safely, neighbours stop to chat, and life feels that little bit slower.
The house itself is ready for a touch of imagination. Solidly built, with double glazing throughout, new solar panels, an air source heat pump and new radiators, it’s wonderfully efficient and cheap to run. Even though this home is extremely energy efficient, it does require a full renovation – a perfect opportunity to put your own stamp on it.
Inside, two reception rooms flow into each other, giving you light from both sides of the house and plenty of choice on how to use the space. The lounge/dining area has a brand new carpet, and both rooms have chimney breasts, just waiting for a fireplace or log burner – the thought of coming home from a mountain walk or an adventure in the woods to a roaring fire is hard to resist.
The kitchen needs to be replaced, but it’s full of promise, and opens directly into a useful outbuilding that would make an excellent utility. From here, a doorway leads on into the garden – a private, peaceful spot wrapped in greenery. The current owner’s favourite touch? A secret little gap in the hedge leading straight into woodland, a football field and the village playground – a dream for children and a reminder of the freedom village life can bring.
Upstairs, a wide landing leads to three bedrooms – two doubles and a single – along with a bathroom and separate WC that could easily be combined into one larger bathroom.
Life in Waunfawr has its own rhythm. There’s a friendly local shop, a good pub, a school and nursery, and endless walks right on the doorstep. It’s a place where children grow up outdoors, where evenings can be spent by the fire, and where the mountains call from just beyond the village. With the eco-work already complete, solar panels in place, and a setting this special, this house simply needs someone to invest and love it to make it their own.
EPC - F (report done before Solar Panels and Heat source air pump installed)
Council Tax Band - B
Double Glazing Throughout
Gas Central Heating
Cyntedd / Hallway
Mae’r cyntedd yn ola ac yn eang, gyda grisiau agored. Mae ffenestr wrth ymyl y drws ffrynt yn gadael golau naturiol i lifo i mewn, gan oleuo’r gofod. O’r fan hon mae drysau’n arwain at yr ystafell fyw a’r gegin. Maeo'n gyntedd croesawgar.
The hallway feels bright and spacious, with open stairs adding a a feeling of space. A window beside the front door lets in plenty of natural light. From here, doors lead into both the lounge and the kitchen, giving the home a welcoming flow.
Ystafelloedd Fyw / Living Rooms
Mae’r ystafell fyw a’r ystafell fwyta, gyda charpedi newydd, yn cael eu gwahanu gan agoriad yn y wal, gan adael i’r prynwr benderfynu ar eu defnydd. Mae potensial i osod lle tan ym mhob un. Gyda ffenestri ar ddwy ochr, mae’r gofod yn llawn golau, a byddai drysau dwbl i’r ardd yn orffeniad perffaith.
The living and dining rooms, both with new carpets, are divided by an archway, giving the buyer freedom to decide how to use the space. Each space features the possibility of a fireplace. With windows on both sides, the rooms are bright and airy, and adding double doors to the garden would complete the space.
Cegin / Kitchen
Mae’r gegin hon yn sicr angen ei ddiweddaru, ond mae’r gofod yn wych gyda digon o le ar y cownteri a sinc o dan y ffenestr. Mae’r teils llawr coch gwreiddiol yn ychwanegu cymeriad a chyfle i greu calon newydd i’r cartref.
This kitchen is ready for updating, but the space itself works beautifully with plenty of worktop area and a charming sink set beneath the window. The original red floor tiles add character and provide a wonderful base for creating a fresh new heart to the home.
Utility
Mae’r ardal utility hon yn fan ychwanegol gwych ar gyfer peiriant golchi a rhewgell, gyda lle defnyddiol fel pantri. Mae cwpwrdd mawr hefyd, yn berffaith fel storfa goed neu i gadw beiciau a pheiriannau torri gwair.
This utility area is a fantastic bonus space, with room for a washing machine and fridge freezer, plus a handy pantry section. A large cupboard is perfect for logs, bikes, or a lawnmower.
Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Mae’r ystafell wely hon yng nghefn y ty yn mwynhau haul y bore a golygfeydd o’r adar yn y coed tu ol. Ystafell fawr sy’n hawdd yn dal gwely dwbl a dodrefn ychwanegol, gan gynnig lle perffaith i greu ardal clyd a thawel.
This rear bedroom enjoys the morning sun and peaceful views of birds in the trees behind. A generously sized room, it would easily fit a double bed and additional furniture, offering the perfect calm retreat to wake up to each day.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Mae’r ail ystafell wely hon yng nghanol blaen y ty, ac mae’n ystafell hael ei maint a fyddai’n hawdd dal gwely dwbl a dodrefn ychwanegol.
This second bedroom sits at the front of the house and is generously sized, easily accommodating a double bed and additional furniture.
Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
Y lleiaf o’r tair ystafell wely, ond yn dal yn ymarferol a hyblyg. Mae’n ddigon mawr i ffitio gwely sengl yn hawdd, neu gellid ei droi’n swyddfa gartref gyfforddus.
The smallest of the three bedrooms, yet still practical and versatile. It will comfortably fit a single bed, or could just as easily be transformed into a cosy home office.
Ystafell Molchi / Bathroom
Ar hyn o bryd mae’r ystafell ymolchi’n cynnwys bath a sinc, gyda’r ty bach ar wahan drws nesaf. Byddai’n hawdd eu cyfuno i greu ystafell fawr, ond mae’r trefniant presennol hefyd yn ymarferol. Bydd angen diweddaru, gan roi cyfle i greu gofod ffresh a modern.
Currently arranged as a bathroom with bath and sink, and a separate WC next door. The two could easily be knocked through to create a larger bathroom, though the current layout works well. The space is ready for updating, offering scope for a fresh modern design.
Location
Mae Waunfawr yn bentref bywiog tua 5 milltir o Gaernarfon, wedi’i leoli rhwng bryniau tonnog a mynyddoedd Eryri. Mae’n enwog am ei gymuned glos a’i awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd – lle perffaith i fwynhau’r gorau o fywyd gwledig heb orfod ildio cyfleusterau. Mae’r pentref yn gartref i ysgol gynradd, siop, tafarn groesawgar, a llwybrau cerdded hyfryd – gan gynnwys Parc Dudley, coetir addas i deuluoedd. Mae’r cartref hwn mewn cul-de-sac distaw, gyda’r parc a’r cae chwarae lleol y tu ôl – perffaith i blant fwynhau rhyddid, chwarae a digon o awyr iach. Cartref gwledig go iawn gyda phopeth mae teulu ifanc ei angen wrth law. / Waunfawr is a vibrant village just 5 miles from Caernarfon, nestled between rolling hills and the mountains of Eryri. Known for its strong sense of community and family-friendly feel, the village offers the perfect blend of rural charm and everyday convenience. There’s a local primary school, a shop, a welcoming pub, and stunning walks—including the popular, family-friendly Parc Dudley woodland trail. This home sits in a peaceful cul-de-sac, backing onto the village park and playing field—ideal for children to enjoy space, freedom, and fresh air. A true rural retreat, with everything a young family could need right on the doorstep.
Property Disclaimer
All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.
Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.
We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.