Cartref 5 llofft wely ar wahân ym Mraichmelyn, Bethesda. Ystafelloedd eang, golau naturiol a golygfeydd pell. Prosiect cyffrous i greu cartref teuluol arbennig mewn lleoliad tawel a phoblogaidd.

“Gofod, golau a golygfeydd – cartref i’w ail-ddychmygu yng nghalon Bethesda.”

Mae Cilcafan yn gartref ar wahân eang gyda phum ystafell wely, wedi’i adeiladu ar gyfer ei berchnogion gwreiddiol yn 1980 ac wedi parhau’n gartref teuluol llawn cariad ers blynyddoedd. Yr hyn sy’n gwneud y tŷ hwn yn arbennig yw nid yn unig ei bensaernïaeth unigryw, ond hefyd maint hael ystafelloedd a’r ymdeimlad o le - sydd yn berffaith ar gyfer bywyd teuluol.

Mae hwn yn gartref sy’n galw am rywun gyda gweledigaeth – rhywun i ail-ddychmygu’r gofod a dod â’i botensial yn ôl yn fyw. Yn nhŷb Catra, mae’n brosiect cyffrous iawn, gyda’r cyfle i greu cartref teuluol arbennig unwaith eto.

Wedi’i leoli yng nghalon cymuned Braichmelyn ym Methesda, mae’r tŷ yn eistedd ar ei fryn ei hun, wedi’i amgylchynu gan goed aeddfed a blodau tymhorol, gyda’r olygfa agored yn ymestyn am filltiroedd. Mae’n lle sy’n teimlo’n dawel ac yn naturiol, gyda’r haul yn llenwi’r gofod drwy’r dydd, ac weithiau hyd yn oed defaid yn crwydro’n hamddenol i mewn i’r ardd.

Wrth gyrraedd, mae’r dreif yn teimlo’n glyd ac yn groesawgar, ac wrth gamu i mewn i’r tŷ, mae’r cyntedd mawr yn gosod y naws ar unwaith – gofod agored, croesawgar sy’n gwneud i chi deimlo ‘adra’ o’r eiliad gyntaf.

Mae’r tŷ yn llawn dewis o ofodau i fyw a mwynhau. Mae’r gegin-fwyta yn eang ac yn teimlo fel calon y cartref, gyda digon o le ar gyfer prydau teuluol a chroesawu gwesteion, ynghyd â golygfa hyfryd o’r ffenestr dros y sinc wrth wneud y llestri. Oddi yno mae ystafell ‘utility’ fawr, toiled a mynediad i’r garej.

Y prif ystafell fyw yw un o uchafbwyntiau’r tŷ – gofod eang gyda lle i fwyta hefyd, ac yn agor allan drwy ddrysau llithro mawr i batio tu allan. Mae’r ffenestr hon fel llun byw dros Bethesda – golygfa wirioneddol drawiadol. Mae lle tân glo gyda gwaith cerrig gwreiddiol yn ychwanegu cymeriad a chynhesrwydd i’r gofod.

Os nad yw hyn yn ddigon, mae dwy ystafell dderbyn ychwanegol – lolfa llai a swyddfa – yn cynnig hyblygrwydd i deulu modern, boed ar gyfer gweithio o gartref neu greu lleoedd tawel i ymlacio.

I fyny’r grisiau retro, gyda golau’n llifo i mewn drwy ffenestr fawr, mae’r llawr uchaf yn parhau i deimlo’n eang ac yn agored. Ceir pum ystafell wely fawr, pob un gyda golygfeydd hyfryd, ynghyd â gofod atig sylweddol sy’n cynnig cyfle pellach i ddatblygu.

Mae hwn yn gartref sy’n cynnig rhywbeth prin – lle, golau a lleoliad. Yn berffaith ar gyfer teulu sy’n tyfu, i blant redeg a chwarae, adeiladu cuddfannau yn yr ardd, ac i fwynhau’r golygfeydd dros Bethesda. Mae hefyd yn ddelfrydol i’r rhai sy’n gweithio o gartref ac yn chwilio am gymuned gynnes a chefnogol o’u cwmpas.

Mae’n amser i Cilcafan ddod yn gartref teuluol llawn bywyd unwaith eto.

EPC - C

Band Treth Cyngor - F

Ffenestri Haen Dwbwl drwy’r tŷ (tua 15 mlynedd oed ac mewn cyflwr da)

Gwres Canolog Nwy

Atig enfawr sydd â photensial i greu mwy o ofod i fyw

Bydd LTT yn daladwy ar yr eiddo hwn

Y Cyntedd
Mae’r cyntedd yma yn wirioneddol drawiadol – prin iawn yw gweld cyntedd o’r maint yma heddiw, ac mae’n adlewyrchu’n hyfryd ei gyfnod. Wrth gamu i mewn, cewch eich croesawu gan ofod eang a llawn golau, gyda chypyrddau storio ymarferol a mynediad i holl ystafelloedd y llawr gwaelod. Mae’n fan sy’n teimlo’n agored ac yn gyffrous, bron fel calon y cartref.

Cegin 25' 11" x 12' 2" (7.90m x 3.72m)
Mae’r gegin yn ystafell hir sydd wedi’i rhannu’n ddwy ran naturiol. Ar un ochr, mae’r ardal fwyta gyda dwy ffenestr yn llenwi’r gofod â golau naturiol, tra ar yr ochr arall mae’r gegin ei hun – yn eang ac yn ymarferol. Ceir digonedd o gypyrddau a lle storio, ynghyd â bar brecwast sy’n creu lle hamddenol ar gyfer bywyd bob dydd.
Mae’r olygfa o’r sinc yn un arbennig, yn edrych allan dros y tirwedd o’ch cwmpas. Mae’r gegin yn ofod hawdd ei ddefnyddio ac yn llawn potensial i ddod yn galon modern y cartref.

Ystafell Fyw 26' 1" x 14' 10" (7.94m x 4.51m)
Yn ddi-os, dyma un o’r ystafelloedd byw mwyaf yr ydym ni yn Catra erioed wedi’i weld. Mae’r gofod eang hwn yn rhannu’n naturiol rhwng ardal fwyta ac ardal eistedd, gan greu lle perffaith ar gyfer bywyd teuluol a chymdeithasu.
Gyda llu o ffenestri, gan gynnwys y ffenestr “llun” drawiadol ar y wal gefn sy’n llithro’n agored i’r patio, mae’r ystafell yn llawn golau ac yn cysylltu’n hyfryd â’r tu allan. Mae’n ofod sy’n teimlo’n agored, yn ysbrydoledig ac yn llawn posibiliadau.
Ystafell sydd wedi’i chreu ar gyfer amseroedd arbennig – o gemau teuluol i goed Nadolig mawr.
Yn rhan o’r ystafell fyw, mae’r gofod fwyta yn hyblyg ac yn cynnig sawl posibilrwydd – boed yn ystafell fwyta ffurfiol, ystafell gerddoriaeth neu ardal chwarae i blant. Mae’r bwâu gwreiddiol o’r 1980au yn nodwedd drawiadol, gan ychwanegu cymeriad a naws unigryw i ofod sydd eisoes yn hardd ac yn groesawgar.

Ystafell Fyw 2 20' 9" x 13' 5" (6.32m x 4.10m)
Ystafell hir ei siâp sy’n teimlo’n fwy clos a chlyd na’r prif ystafell fyw. Mae dwy ffenestr yn edrych dros yr ardd flaen, lle mae’r coed yn blodeuo ac yn creu golygfa bron fel gwaith celf. Mae lle tân nwy yn ychwanegu cynhesrwydd, gan wneud hwn yn ofod perffaith fel “snug” neu ystafell fyw arall i'r 'teenagers'. Ceir hefyd fynediad uniongyrchol i’r 'stafell haul o’r fan hon.

Ystafell Haul 12' 2" x 10' 6" (3.71m x 3.19m)
Mae’r 'stafell haul yn ofod llawn golau sy’n teimlo’n agos iawn at natur. Wedi’i amgylchynu gan goed a gwyrddni, mae’n lle tawel i eistedd ac ymlacio, gyda’r tymhorau’n newid o’ch cwmpas. Mae’n hawdd dychmygu torri’n ôl rhai o’r coed i agor y golygfeydd ymhellach. Ystafell hyfryd ar gyfer eiliadau distaw a gwylio'r plant yn chwarae.

Ystafell Molchi 1 11' 8" x 6' 2" (3.55m x 1.89m)
Ystafell ymolchi lawr grisiau gyda theils “afocado” clasurol o’r 1980au sy’n ychwanegu cymeriad. Ceir cawod ar wahân, gan ei gwneud yn ymarferol iawn i deuluoedd prysur - yn arbennig ar ôl chwaraeon neu ddiwrnodau allan.

Y 'Study' 15' 1" x 11' 2" (4.61m x 3.40m)
Mae Catra yn galw hon yn ystafell astudio, ond gall fod yn beth bynnag a fynnoch chi. Wedi’i lleoli’n dawel yng nghefn y tŷ, mae’n ofod clyd gyda lle tân nwy a golygfeydd hyfryd. Yn berffaith fel swyddfa gartref, lle gweithio neu lolfa fach – mae’r cartref hwn yn cynnig hyblygrwydd gwirioneddol i weddu i’ch ffordd o fyw.

Ystafell Amlbwrpas 'Utility' 12' 1" x 6' 6" (3.68m x 1.97m)
Ystafell amlbwrpas o faint da, yn ymarferol ac yn ddefnyddiol iawn i fywyd bob dydd. Ceir digon o le gwaith, sinc a WC bach. Wedi’i lleoli’n gyfleus oddi ar y gegin, mae hefyd yn cynnig mynediad uniongyrchol i’r garej – trefniant delfrydol ar gyfer cartref teuluol prysur.

Garej 20' 4" x 9' 9" (6.19m x 2.97m)
Mae gan y garej dair pwynt mynediad – un o’r ystafell amlbwrpas, un drwa o'r ardd ac un arall drwy ddrws mawr o’i dreif fach ei hun. Mae’n ofod eang ac amlbwrpas, yn berffaith ar gyfer storio neu fel gweithdy. Lle delfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn ceir, gwaith coed neu unrhyw hobïau ymarferol eraill.

Fyny Grisiau
Wrth fynd fyny'r grisiau, mae ffenestr fawr yn llenwi’r gofod â golau ac yn agor y golygfeydd. Nid yw’r ymdeimlad o le yn stopio yma - dyma un o’r 'landing' mwyaf y mae Catra erioed wedi’i weld. Mae pob ystafell yn arwain oddi ar y canol, gyda chypyrddau storio defnyddiol ar hyd y ffordd. Ceir hefyd cilfach ddarllen hyfryd - man tawel i ymlacio, gwrando ar gerddoriaeth, neu fel lle i blant wneud gwaith cartref neu chwarae.

Ystafell Wely 1 14' 8" x 10' 9" (4.48m x 3.28m)
Dyma’r gyntaf o nifer o ystafelloedd gwely eang yn y cartref. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys dau wely sengl, gan ddangos ei maint hael. Mae’n edrych dros yr ardd, gan greu ystafell dawel a llonydd.

Ystafell Wely 2 14' 1" x 11' 7" (4.29m x 3.54m)
Ystafell wely hyfryd gyda golygfa braf, wedi’i lleoli’n ganolog yn y tŷ ac yn teimlo’n gytbwys o ran lleoliad - gret fel 'stafell wely rhieni. Mae’n cynnig gofod delfrydol ar gyfer prif ystafell wely. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys gwely dwbl, ond mae digon o le i osod gwely mwy os dymunir.

Ystafell Wely 3 11' 10" x 11' 7" (3.60m x 3.53m)
Ystafell wely ddwbl arall sy’n edrych dros gefn y tŷ, gan gynnig golygfeydd tawel a phreifat. Gofod eang a chysurus sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau.

Ystafell Wely 4 11' 11" x 10' 9" (3.64m x 3.27m)
Ystafell wely ddwbl glyd wedi’i lleoli yng nghornel flaen y tŷ. Mae’r dormer yn cofleidio’r gofod, gan greu naws hudolus a thawel. Lle perffaith i ymlacio, gyda chymeriad unigryw.

Ystafell Wely 5 14' 0" x 13' 11" (4.26m x 4.25m)
Ystafell wely eang a thawel yng nghefn y tŷ, yn teimlo’n breifat ac yn gysurus. Mae ganddi gwpwrdd adeiledig defnyddiol ar gyfer storio. Gyda choed y tu allan i’r ffenestr, mae’r ystafell yn llawn llonyddwch ac yn lle perffaith i ymlacio.

Ystafell Molchi 2 10' 10" x 5' 11" (3.29m x 1.80m)
Mae’r ystafell ymolchi hon wedi’i diweddaru’n fwy diweddar gan y cyn-berchnogion, gyda suite gwyn glân sy’n cynnwys bath cornel, toiled a sinc. Mae’n ofod golau ac eang, yn addas iawn ar gyfer bywyd teuluol bob dydd.

Location

Mae Bethesda yn gymuned Gymraeg gref sy’n teimlo’n fyw, yn ofalus ac yn cael ei chynnal gan y bobl sy’n byw yma. Mae’n lle lle mae cymuned yn golygu rhywbeth go iawn – lle mae pobl yn cymryd balchder yn eu hardal ac yn mwynhau’r natur o’u cwmpas.nMae Braichmelyn yn rhan dawel a chroesawgar o’r dref, lle mae cymdogion yn stopio i sgwrsio wrth gerdded heibio, ac mae’r mynyddoedd a’r llwybrau cerdded ar garreg eich drws. Mae’n lle perffaith i’r rhai sy’n gwerthfawrogi bywyd awyr agored a rhythm mwy araf o fyw.nO ran bywyd bob dydd, mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn y cyffiniau, ynghyd â rhwydwaith cryf o grwpiau a mentrau cymunedol sy’n rhoi bywyd i’r ardal. O glybiau chwaraeon fel Clwb Rygbi, Clwb Criced a Bowlio, i fentrau lleol fel Partneriaeth Ogwen ac Ynni Ogwen, mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gydweithio.nMae digwyddiadau fel Carnifal Bethesda, Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen a Sioe Amaethyddol Bethesda yn rhan o galendr y gymuned, tra bod llefydd fel Neuadd Ogwen yn cynnal gigs a digwyddiadau diwylliannol drwy’r flwyddyn.nMae hefyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau mwy tawel – o arddio cymunedol wrth Blas Ffrancon, i glybiau hanes a drama i blant. Mae hyd yn oed gwasanaethau fel llogi beiciau trydan, a phapur bro Llais Ogwen yn cadw pawb yn gysylltiedig.nYn syml, mae Bethesda yn lle arbennig iawn i fyw – yn enwedig i deuluoedd sy’n chwilio am ymdeimlad cryf o gymuned, natur ar y stepen drws, a bywyd sy’n teimlo’n wirioneddol gysylltiedig.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

For Sale

Craig y Don, Lon Dinas
Criccieth

£189,000
5    3

Sold STC

Bryn Gwyn Glanhwfa Road
Llangefni

£350,000
5    3

For Sale

Clwyd Campbell Road
Caernarfon

£330,000
5    3