Cartref dwy ystafell wely hyfryd yng nghalon Penygroes, gyda gardd, golygfeydd a bywyd cymunedol. / A charming 2x bedroom home in the heart of Penygroes, with garden, views and a real community feel.

English Below

“Cartref cynnes sy’n cynnig bywyd syml a chysylltiedig — golygfeydd braf, caffis lleol, a chymuned sy’n ffynnu o’i gwmpas.”

Wedi’i leoli yng nghalon Penygroes, mae’r tŷ teras dwy ystafell wely hwn yn cynnig ffordd o fyw syml - yn berffaith i unigolyn, cwpl neu riant sengl sy’n awyddus i ymgartrefu mewn cymuned Gymraeg croesawgar a chryf.

Y tu mewn, mae’r cartref yn cyfuno manylion gwreiddiol â gwelliannau ymarferol. Mae’r lleoedd tân yn adlewyrchu cymeriad a naws y cyfnod y cafodd y tŷ ei fyw ynddo gyntaf, tra bod y gegin, y ffenestri, y bleindiau a’r carpedi wedi’u diweddaru’n ddiweddar, gan ganiatáu i’r perchennog nesaf symud i mewn yn syth. Mae’r waliau gwyn yn creu cefndir cyffrous a hyblyg, yn barod i’w bersonoli.

I’r cefn, mae gardd hyfryd gyda dec yn dal haul y prynhawn ac yn mwynhau golygfeydd tuag at Yr Eifl. Wrth edrych dros erddi’r cymdogion, ceir naws gymunedol braf - cymysgedd o dai gwydr, planhigion a manylion bach sy’n adlewyrchu bywyd bob dydd yn y pentref.

I fyny’r grisiau, ceir dwy ystafell wely o faint da, y ddau’n parhau â chymeriad y tŷ gyda nodweddion lle tân gwreiddiol, ynghyd ag ystafell ymolchi fodern wedi’i ffitio â suite newydd a theils lyfli.

Gyda mynediad hawdd at lwybrau bysiau, caffis cymunedol a llwybrau beicio, mae’r cartref hwn yn addas iawn ar gyfer bywyd pob dydd. Gall yr eiddo hefyd fod yn gymwys am gymorth drwy gynlluniau grant Cyngor Gwynedd, gan gynnwys ‘Grant Tai Gwag’ a Cynllun Prynnu Eiddo, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.

Band Treth Cyngor - B

EPC - D

Ffenestri Haen Dwbwl Drwy’r Ty

Gwres Canolog Nwy

Nodyn: Nid yw’r llefydd tan yn rhai sy’n gweithio, bydd angen agor y simdde.

“A warm home offering a simple, connected way of life — lovely views, local cafés, and a thriving community all around.”

Located in the heart of Penygroes, this two-bedroom terraced home offers a simple way of living, perfect for a single person, a couple or a single parent looking to settle into a strong and welcoming Welsh-speaking community.

Inside, the home combines original features with practical improvements. The fireplaces reflect the character and feel of the era in which the house was first lived in, while the kitchen, windows, blinds and carpets have all been updated recently, allowing the next owner to move straight in. White walls throughout create a fresh, flexible backdrop ready to be personalised.

To the rear, a lovely garden with a decked seating area captures the afternoon sun and enjoys views towards Yr Eifl. Looking out over neighbouring gardens, there’s a relaxed community feel — a mix of greenhouses, planting and small details that reflect everyday village life.

Upstairs, there are two good-sized bedrooms, both continuing the character of the home with original fireplace features, along with a modern bathroom fitted with a new suite and attractive tiling.

With easy access to bus routes, community cafés and cycle paths, this home is well suited to everyday living. The property may also be eligible for support through Gwynedd Council grant schemes, including the Empty Homes Grant and the Homebuy scheme, subject to eligibility criteria.

Council Tax Band - B

EPC Rating - D

Double Glazing throughout

Gas Central Heating

Note: None of the fireplaces are working fireplaces, the chimney would need to be opened.

Ystafell Fyw / Living Room 11' 9" x 10' 6" (3.57m x 3.20m)
Yr ystafell fyw yw’r ystafell gyntaf ar ôl y cyntedd, ac mae’n ofod cynnes a chlyd gyda lle tân fel canolbwynt. Mae’r lle tân yn ymddangos yn wreiddiol ac yn creu encil braf ar ddiwedd y dydd. Mae’r ffenestr yn edrych allan dros y stryd — lle delfrydol i eistedd ac arsylwi bywyd y pentref.

The living room is the first room off the entrance hallway and is a cosy, welcoming space with a fireplace as its focal point. The fireplace appears original and would make a lovely retreat at the end of the day. A front-facing window looks onto the street, creating a perfect spot for gentle people-watching.

Ystafell Ganol / Second Living Room 12' 3" x 11' 3" (3.74m x 3.43m)
Mae’r ystafell ganol yn ofod hyblyg sy’n addas ar gyfer beth bynnag sydd ei angen - boed yn ystafell fwyta neu’n ail ystafell fyw. Wedi’i lleoli wrth ymyl y gegin, mae’n berffaith ar gyfer coginio i ffrindiau. Ystafell olau gyda chwpwrdd defnyddiol dan y grisiau ar gyfer storio.

The middle room is a versatile space that can be shaped to suit your needs, whether as a dining area or a second sitting room. Located just off the kitchen, it’s ideal for entertaining. A bright room with a useful under-stairs cupboard providing practical storage.

Cegin / Kitchen 7' 10" x 8' 6" (2.38m x 2.58m)
Mae’r gegin yn glyd ond yn cynnig popeth sydd ei angen. Cegin newydd, golau a modern gyda popty integredig, hob a ffan 'extractor'. Ceir lle ar gyfer peiriant golchi a rhewgell/oergell. Mae’r ffenestr yn edrych dros yr ardd ac yn mwynhau haul drwy’r dydd.

The kitchen may be compact, but it offers everything you need. A bright, modern kitchen with integrated oven, hob and extractor fan, plus space for a washing machine and a fridge. The window looks out over the garden and enjoys sunlight throughout the day.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 9' 3" x 10' 0" (2.83m x 3.04m)
Mae’r ystafell wely hon yn ystafell sengl neu ddwbl bosibl gyda golygfeydd hyfryd dros yr ardd. Mae lle tân gwreiddiol yn rhoi cymeriad i’r ystafell ac yn creu awyrgylch tawel a chysurus, sy'n ei wneud yn le perffaith i ymlacio.

This room offers the potential for a double bedroom, with lovely views overlooking the garden. An original fireplace adds character and a sense of calm, creating a peaceful space to unwind at the end of the day.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 12' 3" x 9' 9" (3.73m x 2.98m)
Dyma’r brif ystafell wely a’r fwyaf o’r ddwy. Mae’r lle tân gwreiddiol yn ychwanegu cymeriad, gyda digon o le ar gyfer gwely dwbl. Mae carpedi newydd drwy’r tŷ, ac mae’n hawdd dychmygu tynnu eich 'sgidia ac encilio yma ar ddiwedd y dydd yn creu ymdeimlad cartrefol.

This is the main bedroom and the larger of the two, with that lovely fireplace once again adding character and plenty of space for a double bed. New carpets run throughout the house, and it’s easy to imagine retreating here, kicking off your shoes and relaxing at the end of the day.

Ystafell Molchi / Bathroom 9' 7" x 5' 3" (2.93m x 1.61m)
Mae’r ystafell ymolchi hon wedi cael bywyd newydd, gyda bath a chawod uwchben a theils newydd mewn lliw gwyrdd ffres a hardd. Ystafell olau a glân sy’n teimlo’n braf ac yn ymlaciol ar gyfer defnydd bob dydd.

The bathroom has been given a new lease of life, featuring a bath with a shower over and newly tiled in a fresh, beautiful sage green. A bright and clean space that feels calm and practical for everyday use.

Location

Mae Penygroes yn bentref Cymraeg bywiog a 'down to earth' gyda ymdeimlad cryf o gymuned a digon o weithgareddau i bob oedran. Boed hynny’n ymuno neu fwynhau bywyd lleol o bell, mae digon o gyfleoedd yma i deimlo’n rhan o rywbeth go iawn.nCeir clybiau cerdded a rhedeg, dosbarthiadau yoga ym Mhlas Silyn ac yn Neuadd Bentref Llanllyfni, dosbarthiadau karate, a grwpiau garddio cymunedol. Mae Cwt Piclo — clwb bwyd misol poblogaidd — yn denu’r rhai sy’n caru bwyd da ac awyrgylch hamddenol.nMae diwylliant y caffis yn gryf, gyda Y Banc, Cegin Ceri a Pant Du i gyd o fewn pellter cerdded. Mae Yr Orsaf wrth galon y pentref, yn cynnal digwyddiadau cymunedol rheolaidd i bobl hŷn a phobl ifanc fel ei gilydd, gan gynnwys clybiau swper, gweithdai, canu carolau’r Nadolig a gweithgareddau i blant drwy gydol y flwyddyn.nI’r rhai sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored, mae Dyffryn Nantlle ar garreg y drws, gyda llwybrau cerdded hardd a thrac beicio sy’n arwain yr holl ffordd i Caernarfon. Mae bywyd bob dydd yn hynod gyfleus yma, gyda gwasanaeth bysiau da, archfarchnad dim ond camau o’r tŷ, a’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd o fewn pellter cerdded.nMae’r cyfuniad hwn o gymuned a chyfleustra yn gwneud Penygroes yn lle apelgar iawn i fyw — yn ymarferol, yn groesawgar ac yn llawn bywyd. / Penygroes is a vibrant, down-to-earth Welsh village with a strong sense of community and a wide range of activities for all ages. Whether you choose to get involved or simply enjoy local life at your own pace, there are plenty of opportunities here to feel part of something genuine.nThere are walking and running clubs, yoga classes at Plas Silyn and Llanllyfni Village Hall, karate classes, and community gardening groups. Cwt Piclo — a popular monthly food club — draws together those who enjoy good food and a relaxed, sociable atmosphere.nThe café culture is strong, with Y Banc, Cegin Ceri and Pant Du all within easy walking distance. Yr Orsaf sits at the heart of the village, hosting regular community events for both older and younger residents, including supper clubs, workshops, Christmas carol singing and children’s activities throughout the year.nFor those who enjoy the outdoors, Dyffryn Nantlle is right on the doorstep, offering beautiful walking routes and a cycle path that runs all the way to Caernarfon. Everyday life here is exceptionally convenient, with a good bus service, a supermarket just steps from the house, and both the primary and secondary schools within walking distance.nThis combination of strong community and everyday convenience makes Penygroes a very appealing place to live — practical, welcoming and full of life.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

Sold STC

Vaynol Street
Caernarfon

£225,000
2    1

For Sale

Swn Y Mor Tafarn Grisiau Road
Y Felinheli

£465,000
2    1

For Sale

Bryn Y Waen
Y Felinheli

£410,000
2    1