Byngalo newydd ym Mharc y Coed – byw’n dawel, gardd i fwynhau, a'r gallu i gerdded i Langfeni. / New-build bungalow at Parc y Coed – peaceful living, a garden to enjoy, with a walk into Llangefni.
English Below
“Yr hyn dwi wedi’i hoffi fwyaf ydi pa mor gartrefol a chymdeithasol yw cynllun y ty - mae o’r maint iawn ac yn hawdd iawn i fyw ynddo. Dw i’n mwynhau treulio amser yn yr ardd gyda phaned o de, ac mae gallu cerdded i lawr i Llangfeni, yn enwedig ar hyd y Dingle, wedi bod yn bleser mawr.”
Wedi’i leoli ar stad newydd Parc y Coed, mae’r byngalo hyfryd hwn yn bedair oed ac yn eistedd yn dawel mewn cul-de-sac heddychlon, gan gynnig teimlad go iawn o gynhesrwydd, encil a symlrwydd.
Dyma gartref sy’n teimlo’n gartrefol o’r eiliad gyntaf. Mae’r perchennog presennol wedi ei addurno’n gynnes ac yn gynnil, gan greu gofod tawel, modern a chroesawgar iawn. Mae’r cynllun agored rhwng y gegin a’r lolfa yn ffurfio calon y cartref - lle gallwch roi’r tegell ymlaen a dal i sgwrsio’n rhwydd pan fo ffrind yn galw draw. Mae’r drysau dwbl yn agor allan i’r ardd gefn, gan greu llif naturiol rhwng y tu mewn a’r tu allan yn ystod misoedd yr haf, a gadael i olau naturiol lifo i mewn.
Mae cynllun y ty yn syml ac wedi’i feddwl yn ofalus, gan wneud y cartref yn hawdd i’w gynnal ac yn agored, heb iddo deimlo’n fach o gwbl. Mae pob ystafell yn teimlo’n gytbwys ac yn gyfforddus - yn berffaith i rywun sy’n chwilio am gartref maint rheolaidd gyda gofodau o faint hawdd.
Yn y cefn mae gardd braf sy’n cynnig ardal heddychlon i ymlacio - yn ddelfrydol i unrhyw un sydd a bysedd gwyrdd neu i’r sawl sy’n mwynhau paned o goffi yn y bore mewn awyrgylch tawel. Mae’r ardd - sy’n gwynebu’r De yn ymestyn profiad y cartref ac yn atgyfnerthu’r teimlad o encil a llonyddwch - yn cael yr haul o fore dan nos.
Mae Parc y Coed yn stad gyfeillgar a modern, gyda chymysgedd o deuluoedd, cyplau a phoble sengl, gan gynnig ymdeimlad o gymuned ochr yn ochr a thawelwch. Mae llwybr cerdded cyfleus yn arwain yn syth i lawr i Llangefni, gan ei gwneud yn hawdd mynd am siopa bob dydd neu fwynhau taith gerdded hamddenol ar hyd Y Dingle. Dyma leoliad sy’n cynnig y gorau o’r ddau fyd — byw’n dawel, ond gyda bywyd a phobl o’ch cwmpas.
Byddai’r byngalo hwn yn gweddu’n berffaith i unigolyn, cwpl, neu rywun sy’n edrych i ymddeol i fywyd symlach, heb ildio ar gysur, steil na lleoliad. Cartref hyfryd sy’n cynnig hwylustod, cynhesrwydd a theimlad ysgafn o ddianc.
EPC - B
Band Treth Cyngor - C
Ffenestri Haen Dwbl Drwy’r Tŷ
Adeilad Ffram Bren
Gwres Canolog Nwy
Atig i ddefnyddio fel storfa
“What I’ve really loved is how sociable and cosy the layout is - it’s just the right size and very easy to live in. I enjoy spending time in the garden with a cup of tea, and being able to walk down into Llangefni, especially along the Dingle, has been a real pleasure.”
Located on the new Parc y Coed development, this lovely four year old bungalow sits quietly within a peaceful cul-de-sac, offering a genuine sense of warmth, retreat and simplicity.
This is a home that feels welcoming from the very first moment. The current owner has decorated it in a warm and understated way, creating a calm, modern and inviting space throughout. The open-plan layout between the kitchen and living area forms the heart of the home — a place where you can put the kettle on and still chat easily when a friend drops by. Double doors open out onto the rear garden, creating a natural flow between indoors and outdoors during the summer months, while allowing plenty of natural light to fill the space.
The layout of the house is simple and thoughtfully designed, making it easy to maintain and open in feel, without ever feeling small. Each room feels balanced and comfortable — ideal for someone looking for a well-proportioned, manageable home with easy-to-live-in spaces.
To the rear, the garden offers a peaceful area to relax — perfect for anyone with green fingers, or for those who enjoy a quiet morning coffee in a calm setting. The South facing garden extends the living space and enhances the overall feeling of retreat and tranquillity - with sunshine from morning until evening.
Parc y Coed is a friendly, modern development with a mix of families, couples and single residents, offering a strong sense of community alongside peace and quiet. A convenient walking path leads directly down into Llangefni, making everyday shopping easy or allowing for a leisurely walk along The Dingle. This location truly offers the best of both worlds — quiet living, with life and people close by.
This bungalow would be perfectly suited to a single person, a couple, or someone looking to retire into a simpler way of life, without compromising on comfort, style or location. A lovely home offering ease, warmth and a gentle sense of escape.
EPC - B
Council Tax Band - C
Doule Glazing throughout
Timber Frame Building
Gas Central Heating
Attic for storage
Ystafell Fyw a Bwyta / Lounge and Diner 13' 9" x 16' 6" (4.18m x 5.03m)
Ystafell fyw a bwyta cynllun agored, llawn golau ac yn groesawgar, gyda lloriau 'laminate' arddull pren cynnes a drysau dwbl mawr yn agor i’r ardd. Yn gwynebu’r de, mae golau naturiol yn llifo drwy’r ystafell drwy’r dydd, gyda digon o le i addasu’r dodrefn yn ol y tymor. Gellir ei chyrraedd o’r gegin neu’r cyntedd.
A bright and welcoming open-plan living and dining space with warm 'laminate' wooden flooring and large double doors opening onto the garden. South-facing and filled with natural light throughout the day, with flexibility to rearrange furniture seasonally. Accessed from both the kitchen and hallway, it’s a versatile and sociable room.
Cegin / Kitchen 10' 0" x 10' 4" (3.06m x 3.16m)
Calon y cartref, mae’r gegin hon yn fodern ac yn soffistigedig gyda chynllun rhagorol ac offer integredig. Wrth olchi’r llestri, mae golygfa braf dros yr ardd, gyda mynediad uniongyrchol allan. Mae’r gofod agored yn ei gwneud yn hawdd coginio a chadw sgwrs gyda gwesteion yn yr ystafell fwyta.
The heart of the home, this kitchen is modern and sophisticated with a well-designed layout and integrated appliances. Enjoy views over the garden while washing up, with direct access outside. The open-plan feel allows you to cook while chatting easily with guests in the lounge.
Ystafell Molchi / Bathroom 5' 9" x 6' 0" (1.74m x 1.83m)
Ystafell ymolchi ffresh a modern gyda bath mawr a chawod uwchben. Mae’n ofod braf a golau, wedi’i leoli’n gyfleus ger yr ardal fyw ac o fewn cyrraedd hawdd i’r ystafell wely, gan wneud y cynllun yn ymarferol ac yn hawdd.
A fresh and modern bathroom featuring a large bath with shower over. Bright and well presented, it’s conveniently positioned close to the living area and within easy reach of the bedroom, making it both practical and comfortable.
Ystafell Wely 1 . Bedroom 1 9' 7" x 13' 1" (2.93m x 3.99m)
Mae’r ystafell wely hon yn teimlo fel ystafell westy foethus - yn dawel, cain ac o faint hael. Mae ffenestr fae fach yn edrych dros flaen y ty, gyda phaneli pren tu ol i’r gwely, gan greu encil perffaith ar gyfer ymlacio. Carped newydd cwpwl fisoedd yn ol.
This bedroom has a hotel-like feel, offering a sense of luxury and calm in a generously sized space. A small bay window overlooks the front of the house, while wooden panelling behind the bed creates a relaxing and stylish retreat. This room has a newly fitted carpet.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 9' 7" x 12' 10" (2.92m x 3.90m)
Yn debyg o ran maint i’r brif ystafell wely, mae’r ystafell hon hefyd yn wynebu blaen y ty. Ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio fel ystafell wely sbâr ac ystafell wisgo, mae’n ofod tawel a moethus sy’n hawdd ei addasu. Carped newydd cwpwl fisoedd yn ol.
Similar in size to the main bedroom, this room also faces the front of the house. Currently used as a guest bedroom and dressing room, it offers a quiet, luxurious feel and is easily adaptable to suit different needs. Newly fitted carpet.
Location
Mae Parc y Coed yn stad breswyl newydd ac esblygol, yn cynnwys cymysgedd o dai ar wahân, tai pâr a byngalos, ac yn denu pobl o bob oed - o deuluoedd i’r rhai sy’n chwilio am fywyd tawelach. Mae’r stad wedi’i lleoli mewn ardal heddychlon, ychydig gamau o’r ysgol leol, ac o fewn taith gerdded fer i ganol Llangefni.nMae Llangefni yn cynnig ymdeimlad cryf o gymuned Gymraeg ynghyd â chyfleusterau pob dydd, gan gynnwys archfarchnadoedd, caffis a gwasanaethau lleol. I’r sawl sy’n mwynhau coffi, cacen a chelf, mae Oriel Môn ond ychydig funudau i ffwrdd - man poblogaidd i gwrdd â ffrindiau neu i dreulio amser gyda’r plant.nYn ganolog ac yn gyfleus, mae Llangefni ond munudau o’r A55, gan ei gwneud yn leoliad delfrydol ar gyfer cymudo neu chael antur o gwmpas Ynys Môn ac Eryri, cyn dychwelyd adref i dawelwch y stad. Mae’r dref hefyd yn cael ei gwasanaethu’n dda gan rwydwaith bysiau, gyda llwybrau ar draws yr ynys ac i Bangor ar gyfer siopa a gwasanaethau pellach. / Parc y Coed is a modern and evolving residential development made up of a mix of detached homes, semi-detached houses and bungalows, attracting residents of all ages — from families to those looking for a quieter pace of life. Set in a peaceful setting, the estate sits just steps from a local school and within easy walking distance of the centre of Llangefni.nLlangefni offers a strong sense of Welsh community alongside everyday convenience, with a range of supermarkets, cafés and local amenities. For those who enjoy coffee, cake and culture, Oriel Môn is only minutes away — a popular spot to meet friends or spend time with children.nWell connected, Llangefni lies just minutes from the A55, making it an ideal central base for commuting or for exploring Ynys Môn and Eryri, before retreating back home to a quieter setting. The town also benefits from a reliable bus network, with routes throughout the island and into Bangor for further shopping and services.
Property Disclaimer
All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.
Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.
We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.