Ty teuluol eang gyda 5x ystafell wely, mewn cymuned bywiog a Chymreig. / Large family home with 5x bedrooms, in a lively Welsh community.
English Below
“Dau lawr o olau a lle, wedi’u llunio ar gyfer stori deuluol sy’n dal i dyfu.”
Mae’n brin i dai o’r maint yma gyda cynllun hyblyg ddod ar y farchnad yn y pentref poblogaidd iawn o Y Felinheli — ac mae Swn y Mor yn arbennig o nodedig. Mae ei leoliad gwych, ei gynllun eang a’i gyflwr parod i symud i mewn yn ei wneud yn gartref delfrydol i unrhyw deulu sy’n awyddus i ymgartrefu mewn cymuned Gymreig bywiog a chryf.
Mae safle’r ty yn berffaith: ychydig funudau ar droed o’r ysgol gynradd leol, gyferbyn a’r safle bws sy’n cysylltu a Bangor a Chaernarfon, ac union gyferbyn a’r llwybr beicio a cherdded ar hyd yr arfordir. Dyma’r math o leoliad lle gellir gwneud y ‘school run’ ar droed, treulio’r prynhawniau’n rasio ar sgwteri ar hyd y llwybr beicio, ac yna mwynhau cerdded gyda’r nos wrth gipio golygfeydd hyfryd o’r Fenai drwy’r coed.
Calon gynnes y cartref
Mae’r ty wedi’i gynllunio’n glyfar fel eiddo ar ddau lefel, gyda’r prif ystafelloedd byw ar y llawr uchaf. Wrth gerdded i mewn i’r cyntedd croesawgar, rydych yn cael eich denu i fyny grisiau bach i galon y cartref — lle agored, llawn golau lle mae bywyd teuluol yn dod at ei gilydd yn naturiol.
Mae’r gofod hwn, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel ardal fwyta, gweithio a chwarae, yn cysylltu’n hawdd a’r gegin, yr ystafell fyw, yr ystafell ymolchi deuluol a’r brif ystafell wely. Mae’r ystafell fyw yn ogystal a’r brif ystafell wely yn elwa o wydr llawn o’r to i’r llawr gyda mynediad i’r balconi, y lle perffaith i eistedd i gael coffi yn y bore wrth wrando ar y pentref yn dod yn fyw. Mae hwn yn dy sy’n teimlo’n gartrefol ar unwaith — cartref lle mae bywyd teuluol yn llifo’n hawdd.
Gofod hyblyg a lle i ymlacio
Os oes angen seibiant arnoch, mae’r llawr isaf yn cynnig digonedd o le ychwanegol. Mae’r ardal ar waelod y grisiau, ar hyn o bryd yn fan chwarae i blant, yn gweithio’n berffaith hefyd fel ardal ymlacio, swyddfa neu fan darllen.
Ar y lefel hon hefyd ceir ‘utility’ ddefnyddiol gyda mynediad allan, pedair ystafell wely o faint da, ac ail ystafell ymolchi deuluol. Mae un o’r ystafelloedd wely yn elwa o ddrysau dwbl sy’n agor yn syth allan i’r decking — yn ddelfrydol fel ystafell i ‘teenagers’ ymlacio, fel ystafell wely i rieni, ystafell westeion neu ofod creadigol.
Gardd sy’n addas i deuluoedd
Mae’r ardd wedi ei gau i ffwrdd - perffaith ar gyfer plant, cwn a bywyd awyr agored. Gyda ardal gwair mawr a decking composite fawr yn barod ar gyfer barbeciws teuluol a nosweithiau ymlaciol gyda ffrindiau. Gyda’r haul yn machlud yn union o flaen y ty, gallwch ddisgwyl machlud haul hyfryd drwy gydol y flwyddyn.
Nodweddion modern ymarferol
Mae’r cartref wedi’i gynnal yn ofalus i gynnig cysur, hwylustod ac effeithlonrwydd. Mae’n cynnwys:
-
Dreif fawr - hyd at 3 car
-
Garej ddwbl gyda storfa yn y llofft
-
Paneli solar i ostwng costau trydan
-
Pwynt gwefru EV ar gyfer ceir trydan
Mae Swn y Mor yn gwbl barod i groesawu ei deulu nesaf - cartref eang, cyfforddus a hawdd i fyw ynddo yng nghanol un o bentrefi mwyaf poblogaidd yr ardal.
EPC - B
Band Treth Cyngor - E
Ffenestri Haen Dwbwl drwy’r Tŷ
System Wresogi Nwy
Paneli Solar
“Two levels of light and space, shaped for a family story still unfolding.”
It is rare for houses of this size with a flexible layout to come onto the market in the very popular village of Y Felinheli — and Sŵn y Môr is particularly special. Its excellent location, spacious layout and move-in-ready condition make it an ideal home for any family wishing to settle in a lively, welcoming and strong Welsh community.
The location of the house is perfect: just a few minutes’ walk from the local primary school, opposite the bus stop connecting to Bangor and Caernarfon, and directly across from the coastal cycling and walking path. It’s the kind of setting where morning school runs can be done on foot, afternoons can be spent scooter-racing along the cycle track, and evening strolls reveal lovely glimpses of the Menai Strait through the trees.
A warm heart to the home
The house is cleverly designed as a split-level property, with the main living spaces on the upper floor. When you walk into the welcoming hallway, you are drawn up a small staircase to the heart of the home — an open, light-filled space where family life naturally comes together.
This area, currently used as a dining, working and play space, connects easily to the kitchen, living room, family bathroom and main bedroom. Both the living room and the main bedroom enjoy full-height glazing at the front with access to the balcony, inviting you to sit with a morning coffee while listening to the village come to life. This is a house that feels homely from the moment you enter — a place where family life flows with ease.
Flexible space and room to relax
If you need a break, the lower floor offers plenty of additional space. The area at the bottom of the stairs, currently used as a children’s play space, also works perfectly as a relaxation area, office or reading nook — an ideal retreat during busy family days.
On this level you’ll also find a useful utility room with outdoor access, four good-sized bedrooms and a second family bathroom. One of the bedrooms features double doors opening directly onto the decking — perfect as a teenager’s hangout, a guest room for visiting grandparents, or a creative studio for hobbies and homework.
A garden made for family living
The garden is fully enclosed — ideal for children, dogs and outdoor living. With a large lawn and a spacious composite decking area, it’s made for summer barbecues, paddling pools, and long evenings with friends while the children play safely nearby. And with the sun setting directly in front of the house, sunsets become part of the daily rhythm — a wonderful backdrop to family life.
Practical modern features
The home has been carefully maintained to offer comfort, convenience and efficiency. It includes:
-
Large driveway — space for up to 3 cars
-
Double garage with loft storage
-
Solar panels to help reduce electricity costs
-
EV charging point for electric vehicles
Sŵn y Môr is fully ready to welcome its next family — a spacious, comfortable and easy-to-live-in home at the heart of one of the most friendly, community-driven villages in the area.
EPC - B
Council Tax Band - E
Double Glazed Windows throughout
Gas Central Heating
Solar Panels
Cyntedd / Entrance 27' 4" x 12' 11" (8.32m x 3.94m)
Wrth gerdded i mewn, mae’r cyntedd agored yn arwain i fyny at ofod braf gyda tho 'pitched' pren a ffenestr Velux sy’n llenwi’r ardal â golau. Dyma galon y cartref, lle mae pawb yn dod at ei gilydd i fwyta, chwarae neu weithio, gyda mynediad hawdd i’r prif ystafelloedd.
Entering the home, the open hall leads up to a bright space with a pitched wooden ceiling and Velux that fills the area with light. This is the heart of the home, where everyone gathers to eat, play or work, with easy access to the main rooms.
Ystafell Fyw / Living Room 16' 6" x 13' 0" (5.03m x 3.96m)
Mae’r ystafell fyw yn ofod agored braf, gyda digon o le ar gyfer dwy sofa fawr, a than nwy eisoes yn ei le. Mae’r ffenestri lyfli o'r llawr i'r nenfwd yn lapio hanner yr ystafell ac yn arwain at y balconi, gyda’r coed gyferbyn yn creu “ffenestr llun” a ambell o olygfa'r Fenai a lliwiau'r machlud.
The living room is a bright, open space with plenty of room for large sofas, and a fitted gas fire is already in place. Floor-to-ceiling windows wrap around half the room and open to the balcony, with the trees forming a “picture window,” glimpses of the Menai, and beautiful sunset colours.
Cegin / Kitchen 10' 4" x 13' 0" (3.15m x 3.96m)
Mae’r gegin yn le cynnes, yn hafan breifat i unrhyw gogydd. Wedi’i gosod oddi ar yr ystafell fwyta, gallwch goginio’n dawel tra’n dal i adloni. Mae ganddi bopty a hob wedi’u hintegreiddio, digon o le storio a ffenestr dros y dreif i fedru gweld ffrindiau’n cyrraedd a rhoi y teciall 'mlaen.
The kitchen has a warm spirit, a private haven for any cook. Set just off the dining room, you can entertain while cooking in peace. It includes an integrated oven and hob, plenty of storage, and a window over the driveway so you can pop the kettle on as friends arrive.
Prif Ystafell Wely / Primary Bedroom 10' 0" x 13' 0" (3.05m x 3.95m)
Mae’r brif ystafell wely yn berffaith i rieni, gyda’r ffenestr flaen wydr a’r gallu i ymlacio ar y llawr uchaf tra mae’r plant yn cysgu lawr grisiau. Er ei bod yn ystafell wely, gellir newid ei bwrpas - sy’n dangos hyblygrwydd y ty.
The main bedroom is ideal for parents, with its glass frontage and the ability to relax upstairs while the children sleep below. Though used as a bedroom, it could easily serve another purpose - a reminder of just how flexible this home can be.
Ystafell Molchi 1 / Bathroom 1 7' 7" x 8' 4" (2.32m x 2.53m)
Mae’r ystafell ymolchi yn hardd ac wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, gyda chawod ‘Mani’ fawr a theils terazzo hyfryd. Gofod modern, ffresh ac addas i deuluoedd, ac mae’n eistedd yn berffaith ger yr ystafell wely am deimlad bron yn ensuite.
The bathroom is beautiful and recently renovated, featuring a large Mani shower and stylish terrazzo tiles. A fresh, modern, family-friendly space that sits perfectly beside the bedroom, giving a subtle ensuite feel.
Lawr Llawr / Downstairs Area
Mae’r ardal islaw y grisiau yn ofod agored hyblyg, ar hyn o bryd yn ardal chwarae i blant ond yn addas hefyd fel man gwaith neu cornel ddarllen. O’r fan hon ceir mynediad i’r ardd gefn yn ogystal a’r holl ystafelloedd gwely.
The downstairs hallway is a flexible open space, currently a children’s play area but equally suited as a workspace or reading nook. From here there is access to the back garden as well as all of the bedrooms.
Utility 8' 7" x 6' 4" (2.61m x 1.92m)
Ardal utility hynod ymarferol sy’n cynnwys y peirinat golchi a sychu, cownteri a bachau cotiau — lle perffaith i dynnu esgidiau mwdlyd. Mae drws mynediad o’r tu allan, ac mae’r boiler wedi’i guddio yma allan o’r golwg.
A handy utility area housing white goods, worktops and coat hooks — the perfect spot for kicking off muddy boots. It has its own external door for easy access, and the boiler is neatly tucked away out of sight.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 12' 9" x 10' 2" (3.88m x 3.09m)
Ystafell ddwbl hyfryd gyda wardrob 'built in', yn berffaith ar gyfer dillad a chadw pethau’n daclus. Ystafell gyfforddus gyda digon o le i storio yn ymarferol.
A lovely double bedroom with built-in wardrobe space, offering plenty of room for clothing and storage. A comfortable, practical room with lots of space to keep everything organised.
Ystafell Molchi 2 / Bathroom 2 8' 5" x 7' 5" (2.56m x 2.27m)
Ystafell ymolchi deuluol wych, wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar ac yn lan a ffres ei naws. Mae yma gawod ‘Mani’ yn ogystal a bath — perffaith i deuluoedd â phlant. Mae’r ffenestr yn gadael i olau naturiol lenwi’r gofod.
A great family bathroom, recently renovated with a fresh, bright feel. It features a Mani shower as well as a bath — perfect for families with children. The window fills the space with plenty of natural light.
Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 13' 1" x 10' 1" (4.00m x 3.07m)
Ystafell arbennig gyda drysau dwbl yn agor yn syth allan i’r decking. Gellir ei ddefnyddio fel swyddfa, ail ystafell fyw neu gofod hobiau - ystafell hyblyg sy’n cynnig digon o bosibiliadau.
A special room with double doors opening straight onto the decking. It could be used as an office, a second sitting room or a hobby space—an adaptable room with lots of possibilities.
Ystafell Wely 4 / Bedroom 4 12' 9" x 10' 2" (3.88m x 3.09m)
Ystafell ddwbl eang sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd fel ystafell plentyn. Mae’n llawn goleuni ac mae’r ffenestr yn edrych dros yr ardd, gofod croesawgar a chyffyrddus.
A spacious double room, currently used as a child’s bedroom. It’s bright and airy, with a window overlooking the garden, a warm and comfortable space.
Ystafell Wely 5 / Bedroom 5 8' 7" x 6' 4" (2.61m x 1.92m)
Y lleiaf o’r ystafelloedd, ystafell sengl sy’n cynnig hyblygrwydd. Gellid ei defnyddio fel ystafell blentyn fach, swyddfa neu hyd yn oed fel ystafell wardrob 'walk in'. Mae'r ty yn llawn posibiliadau.
The smallest of the rooms, this single bedroom offers great flexibility. It could be used as a small child’s room, an office, or even transformed into a walk-in wardrobe. The house has great flexibility.
Garej / Garage
Garej ddwbl gyda dwy ddrws fawr ar y blaen a mynedfa ochr. Gwych ar gyfer teulu gyda beics a storfa, neu ar gyfer hobïwr sydd angen gweithdy. Yma mae cadw'r system paneli solar, ac mae llofft storio defnyddiol yma hefyd.
A double garage with two large front doors and side access. Ideal for families needing storage for bikes, or for a hobbyist wanting workshop space. It houses the solar panel system and includes a handy loft area for extra storage.
Location
Mae Y Felinheli yn gymuned Gymraeg bywiog a chroesawgar. Mae’r pentref yn gartref i gaffis, bwytai, tafarndai a busnesau annibynnol — popeth sydd ei angen ar stepen y drws. Mae bywyd yma’n cynnig rhywbeth i bawb. Drwy gydol y flwyddyn cynhelir digwyddiadau cymunedol: canu carolau a marchnadoedd Nadolig, gŵyl naw-diwrnod bywiog yn yr haf, gweithgareddau Pasg i bob oed, prosiectau garddio, clybiau darllen, clybiau rhedeg, sesiynau ioga, nofio gwyllt hyd yn oed, ynghyd â champfa wych leol. Mae’r pentref mewn lleoliad perffaith, gyda bws rheolaidd yn mynd trwy’r canol sy'n mynd a chi i Gaernarfon a Bangor. Dim ond ychydig funudau i ffwrdd mae’r A55 a’r ffordd osgoi newydd tuag at yr A470. Mae Sŵn y Môr yn gwynebu'r Fenai, gyda’r llwybr beicio arfordirol gyferbyn a’r mynyddoedd yn codi y tu ôl — cydbwysedd perffaith o lan môr a chefn gwlad. Boed yn anturiaethau teuluol neu’n droeon tawel gyda ffrindiau, mae digonedd i’w wneud a’i fwynhau. Ond uwchlaw popeth, mae Y Felinheli yn lle sy’n creu cyfeillgarwch. Cymuned groesawgar, glos, gyda lle i bawb. / Y Felinheli is a thriving Welsh community full of life and character. The village is home to independent cafés, restaurants, pubs and hairdressers — everything you need right on your doorstep.nLife here offers something for everyone. Throughout the year, the community hosts events: Christmas carol singing and festive markets, a vibrant nine-day summer festival, Easter activities for all ages, gardening projects, book clubs, yoga sessions, wild swimming and a brilliant local gym.nThe village is perfectly positioned, with a regular bus route running through the centre and easy access to both Bangor and Caernarfon. The A55 and the new bypass to the A470 are only minutes away.nSŵn y Môr sits facing the Menai Strait, with the beloved coastal cycle route just opposite and the mountains rising behind — a perfect balance of coast and countryside. Whether it’s family adventures or peaceful walks with friends, you’re truly spoilt for choice.nAnd above all, Y Felinheli is a place where friendships are made. It’s a welcoming, close-knit community with space for everyone.
Property Disclaimer
All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.
Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.
We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.