Bwthyn arbennig rhwng y môr a'r Eifl, gyda gardd freuddwydiol a gweithdy mawr. / A special cottage between the sea and Yr Eifl with a dream garden and large workshop.

“Mae rhai cartrefi'n cynnig lle i fyw. Mae Pant y Wennol yn cynnig ffordd o fyw.”

Yn swatio rhwng y môr a mynyddoedd Pen Llŷn, gyda'r Eifl yn codi'n drawiadol uwchben yr ardd, mae hwn yn gartref sy'n teimlo'n heddychlon o'r eiliad y byddi di'n cyrraedd.

Adeiladwyd yr adeilad o gwmpas 1850 a chafodd ei drawsnewid i fwthyn dwy ystafell wely yn ofalus gyda nifer o welliannau sy'n helpu i wneud y cartref yn fwy ynni effeithlon, gan greu cartref cyfforddus sy'n hawdd ei gynnal. Mae'r cynllun yn syml ac yn groesawgar, gan greu cysylltiad hyfryd rhwng y cartref a natur.

Ond y tu allan mae'r hud go iawn.

Mae'r ardd yn waith cariad. Lawntiau eang, blodau lliwgar, planhigion aeddfed a choed wedi'u gofalu amdanynt dros flynyddoedd, oll gyda golygfeydd anhygoel o'r Eifl sy'n newid gyda'r tymhorau. Mae'n ardd yn mynd i blesio sawl sy'n mwynhau garddio, byw yn yr awyr agored a chymryd amser i werthfawrogi'r pethau syml.

Mae'n hawdd dychmygu gwahanol benodau bywyd yn dechrau yma.

I deulu ifanc, mae Pant y Wennol yn cynnig y math o blentyndod sy'n mynd yn fwyfwy prin. Mae'r ysgol gynradd leol o fewn cyrraedd hawdd, tra bod yr afon fach sy'n llifo drwy'r tir yn ychwanegu ychydig o hud i bob dydd. Dychmyga'r plant yn plannu hadau yn yr ardd lysiau, yn helpu i gasglu'r cynhaeaf, yn adeiladu cuddfannau ac yn treulio'u dyddiau yn yr awyr agored. Wrth i'r haul fachlud, daw'r teulu at ei gilydd o amgylch y bwrdd yn yr ardd, gyda'r Eifl yn sefyll yn dawel uwch eich pennau.

Ond mae'r cartref hwn yr un mor berffaith i gwpl sy'n breuddwydio am fywyd ychydig yn arafach. Lle i feithrin gardd wirioneddol arbennig, mwynhau'r tawelwch a chreu gofod sy'n adlewyrchu eu ffordd o fyw. Mae'r adeilad allanol mawr gyda thrydan a chroglofft yn cynnig posibiliadau di-ri - gweithdy, stiwdio, swyddfa gartref, campfa neu hyd yn oed, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol, ofod i groesawu teulu a ffrindiau. Mae'r plot hael hefyd yn cynnig lle i ymestyn y cartref yn y dyfodol pe bai'r angen yn codi.

Ac er ei bod hi'n hawdd colli oriau yn yr ardd, dim ond taith fer sydd rhwng y cartref a'r traeth. Mae'r môr ar un ochr, yr Eifl ar y llall, ac mae'r ddau'n dod yn rhan o fywyd bob dydd.

I unrhyw un sy'n breuddwydio am "y bywyd da" mewn pentref Cymreig croesawgar, mae Pant y Wennol yn cynnig rhywbeth prin iawn.

Nid cartref yn unig mohono.

Mae'n lle i anadlu.

Lle i dyfu.

A lle i greu bywyd sy'n symud ychydig yn arafach.

EPC - B

Band Treth Cyngor - C

Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer – Wedi'i osod yn 2025

Paneli Solar ar do'r sied

Llofft wedi'i hinswleiddio'n llawn

Ffenestri gwydr dwbl drwy'r eiddo

Sied hefo trydan a dŵr

‘Floorplans’ yn dod yn fuan

Mi fydd LTT yn daladwy ar yr eiddo hon

MWY O FANYLION AM YR ARDD, Y SIED A’R IARD YN Y ‘BROCHURE

“Some homes offer somewhere to live. Pant y Wennol offers a way of life.”

Nestled between the sea and the mountains of Pen Llŷn, with Yr Eifl rising dramatically beyond the garden, this is a home that feels peaceful from the moment you arrive.

The beautifully renovated two-bedroom cottage built around 1850 has been thoughtfully updated with a number of energy-saving improvements, creating a comfortable home that's both practical and efficient. The layout is welcoming and uncomplicated, with the main living spaces looking out towards the garden, creating a wonderful connection between home and nature.

Outside is where the magic truly begins.

The garden is a labour of love. Sweeping lawns, colourful borders, mature planting and carefully tended trees frame spectacular views of Yr Eifl, creating a landscape that changes beautifully with the seasons. It's the sort of garden that rewards anyone who enjoys growing, gardening and spending time outdoors.

It's easy to imagine different chapters of life beginning here.

For a young family, Pant y Wennol offers the kind of childhood that's becoming increasingly rare. The village primary school is within easy reach, while the little stream that runs through the grounds adds a touch of magic to everyday life. Imagine children sowing vegetables in the garden, helping to harvest homegrown produce, building dens and spending long days outdoors. As evening arrives, family meals can be enjoyed in the garden with Yr Eifl rising quietly above you.

Equally, this is a wonderful home for a couple dreaming of a slower, more fulfilling way of life. A place to nurture a truly beautiful garden, enjoy the peace and create a home that reflects their passions. The substantial outbuilding with electricity and a mezzanine loft opens up countless possibilities—as a workshop, studio, home office, gym or, subject to the necessary permissions, even guest accommodation. The generous plot also provides plenty of room to extend the bungalow in the future should your needs change.

And although it's easy to lose yourself in the garden, the beach is only a short walk away. The sea lies in one direction, Yr Eifl in the other, making both part of everyday life.

For anyone dreaming of "the good life" in a welcoming Welsh village, Pant y Wennol offers something truly rare.

It isn't simply a home.

It's somewhere to breathe.

Somewhere to grow.

And somewhere to enjoy life at a gentler pace.

EPC - B

Council Tax Band - C

Air Source Heat Pump - Installed 2025

Solar Panels on roof of the shed

Fully insullated loft

Double Glazing throughout

Shed has electricity and water

Floorplans coming soon

LTT will be payable on this property

MORE DETAILS REGARDING THE WORKSHOP, YARD AND THE GARDEN IN THE BROCHURE

Calon y Cartref / Heart of the Home
Dyma’r lle mae pob diwrnod yn dechrau ac yn gorffen. Wrth ddod drwy’r drws ffrynt, mae lle ymarferol i gotiau ac esgidiau cyn camu i’r gegin a’r ardal fwyta agored. Mae’r nenfwd uchel a’r fframiau A o bîn melyn o Ganada yn rhoi cymeriad arbennig i’r ystafell. Mae cypyrddau unigol, sinc Belfast ac offer integredig newydd yn cwblhau’r gegin, tra bod y ffenestri ysgubor gwreiddiol a’r drysau i’r ardd yn llenwi’r gofod â golau ac yn dod â’r tu allan i mewn.

This is where every day begins and ends. Step through the front door into a practical space for coats and boots before entering the open-plan kitchen and dining area. Vaulted ceilings and striking A-frame beams, crafted from Canadian yellow pine, give the room wonderful character. Individually chosen units, a Belfast sink and new integrated appliances complete the kitchen, while original barn windows and doors opening to the garden fill the space with light and bring the outside in.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Yn swatio ar hyd y coridor, mae'r ystafell wely glŷd hon yn adlewyrchu naws gynnes ac agos-atoch yr ysgubor. Mae'n ofod tawel a chroesawgar, perffaith i ddianc ar ddiwedd y dydd ac ymlacio mewn cartref sy'n llawn cymeriad. Mae'n teimlo fel camu yn ol mewn amser.

Tucked away along the hallway, this cosy bedroom perfectly reflects the warm and welcoming feel of the L-shaped converted barn. Peaceful and full of character, it's the perfect place to retreat at the end of the day and unwind in comfort. It feels like stepping back in time.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Mae'r ystafell ddwbl hon yn llawn swyn ac yn adlewyrchu hanes yr ysgubor wreiddiol. Mae'r ffenestr isel unigryw yn nodwedd hyfryd sy'n rhoi naws glyd i'r ystafell, tra'n gadael digon o olau naturiol i lifo i mewn. Ar ddiwrnod braf, gellir ei hagor yn llawn, gan greu cysylltiad hyfryd rhwng y cartref a'r iard.

Full of character, this double bedroom celebrates the history of the original barn. Its distinctive low-level window is a charming feature, creating a wonderfully cosy feel while allowing plenty of natural light to flood the room. On warmer days, the window opens fully, offering a lovely connection to the yard beyond.

Ystafell Molchi / Bathroom
Yn weddol newydd ac yn hael ei maint, mae'r ystafell ymolchi yn cynnwys bath, cawod ar wahân, sinc a thoiled, gan gynnig popeth sydd ei angen ar gyfer bywyd bob dydd. Y tu allan i'r ystafell, mae grisiau'n arwain at groglofft fach gyda ffenestr Velux – gofod hyblyg sy'n berffaith ar gyfer storio, cornel ddarllen neu hyd yn oed yn fan chwarae i blant.

Generously proportioned, the main bathroom includes a bath, separate shower, wash basin and WC, providing everything needed for comfortable everyday living. Just outside the bathroom, a ladder leads to a charming mezzanine loft with a Velux windowm - a wonderfully versatile space for storage, a quiet reading nook or even a secret play den for children.

Ystafell Fyw / Living Room
Dyma'r ystafell sy'n dod â phawb ynghyd. Mae'r nenfwd uchel gyda'r trawstiau A gwreiddiol yn rhoi ymdeimlad o le, tra bod y ffenestri isel yn atgoffa o hanes yr ysgubor a'i thrawsnewidiad sensitif. Wrth galon yr ystafell mae llosgwr aml-danwydd Aga 'Wenlock', sy'n creu awyrgylch cynnes ar nosweithiau'r gaeaf. O'r fan hon gellir edrych i fyny at y groglofft, gan ychwanegu at gymeriad a swyn unigryw'r cartref.

This is the room where everyone naturally comes together. Vaulted ceilings with original A-frame beams create a wonderful sense of space, while the low-set windows remain a beautiful reminder of the barn's heritage. At its heart sits an Aga 'Wenlock' multi-fuel stove, creating a warm and inviting atmosphere on winter evenings. From here, you can look up to the mezzanine loft above, adding another layer of character to this truly special living space.

Y Sied / The Shed
Mae'r adeilad allanol hwn yn llawer mwy na sied – mae'n ofod llawn posibiliadau. Gyda nenfwd dwbl, croglofft, trydan, dŵr a phaneli solar ar y to, mae wedi'i gynllunio i weithio mor galed â chi. Mae drws mawr sy'n agor â chadwyn a drws mynediad ar wahân yn ei wneud yn addas ar gyfer cerbydau, prosiectau neu fusnes o gartref. Yn ogystal â'r prif ofod, mae dwy ystafell ychwanegol, pantri ac ystafell ymolchi. Ceir rhagor o wybodaeth am yr adeilad a'i botensial yn adran yr ardd.

This outbuilding is far more than a shed -it's a space full of possibilities. With double-height ceilings, a mezzanine level, electricity, water and roof-mounted solar panels, it's been designed to work as hard as you do. A large chain-operated access door, together with a separate door entrance, makes it ideal for vehicles, hobbies or running a business from home. Beyond the main workshop are two seperate rooms, a pantry and a bathroom. Further information about the shed can be seen in the garden section.

Location

Mae Trefor yn bentref lan môr Cymreig sy'n llawn cymeriad, wedi'i leoli rhwng y môr a mynyddoedd Pen Llŷn. Mae'n bentref sy'n teimlo'n dawel ac yn groesawgar, lle mae'r gymuned yn gryf a natur ar garreg y drws. Mae'r traeth a'r harbwr o fewn cyrraedd hawdd, tra bod llwybrau cerdded Yr Eifl yn dechrau bron o'r pentref ei hun. I'r rhai sy'n mwynhau byw yn yr awyr agored, mae'n anodd dychmygu lle gwell i alw'n gartref. Mae'r ysgol gynradd leol wrth galon y gymuned, gyda mynediad hawdd i bentrefi cyfagos fel Nefyn, Llanaelhaearn a Phwllheli ar gyfer gwasanaethau a siopa. Mae'n lle lle mae bywyd yn symud ychydig yn arafach, lle mae'r môr, y mynyddoedd a'r gymuned yn rhan o fywyd bob dydd. / Trefor is a traditional Welsh coastal village full of character, perfectly positioned between the sea and the mountains of the Llŷn Peninsula. Peaceful and welcoming, it has a strong sense of community with nature quite literally on the doorstep. The beach and harbour are within easy reach, while the footpaths leading up Yr Eifl begin almost from the village itself. For anyone who enjoys walking, gardening or spending time outdoors, it's difficult to imagine a better place to call home. The village primary school sits at the heart of the community, while nearby Nefyn, Llanaelhaearn and Pwllheli provide a wider range of shops, cafés and everyday amenities. Life in Trefor moves at a gentler pace, where the sea, the mountains and the surrounding landscape become part of everyday life.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

For Sale

Tanycastell
Dolwyddelan

£299,999
2    1

Sold STC

Margaret Street
Caernarfon

£160,000
2    1

Sold STC

Flat 6
Caernarfon

£149,000
2    1