Prosiect yng nghalon Caernarfon – cartref gyda photensial go iawn. nA project in the heart of Caernarfon - a home with real potential.
"Muriau’r castell uwch eich pen, bwrlwm y dref o’ch cwmpas – mae’r prosiect yma yn gyfle i greu rhywbeth gwirioneddol sbeshial."
English Below.
Mae’r eiddo yma yn gymwys am grant ‘Tai Gwag’ Cyngor Gwynedd.
Wedi’i leoli o dan furiau’r castell, mae’r tŷ tri llawr yma yng nghanol Caernarfon — ger y Foryd, siopau annibynnol, a chaffis fel Bonta Deli a tafarndai anibynnol fel ‘Jac y Do’. Mae ganddo’r hanfodion yn eu lle: gwres canolog nwy, ffenestri dwbl, a man parcio penodol (sy’n brin yn y dref). Yr hyn sydd ei angen nawr yw rhywun efo llygad am ddylunio a bach o ddychymyg.
Mae’r cynllun llawr yn syml ac ymarferol. Mae yna dri ystafell wely, ystafell ymolchi, lolfa eang a chegin o faint da — yn barod i rywun rhoi stamp personol arni. Mae’r gwaith sydd ei angen yn gosmetig yn unig, sy’n gwneud hwn yn opsiwn gwych i rywun sydd eisiau creu cartref heb orfod mynd i’r afael â gwaith adnewyddu mawr.
Y lleoliad sy’n gwneud y tŷ yma’n arbennig. Deffro, cerdded y Foryd, a chodi coffi ar y ffordd adref. Mae bywyd gyda’r nos yn hawdd hefyd — pryd yn y dref, diod gyda ffrindiau, neu jyst camu allan drwy’r drws a bod yng nghanol y cyfan.
Mae gan y cartref yma sylfeini cadarn, lleoliad gwych, a llwyth o botensial — yn berffaith i rywun sydd eisiau siapio cartref o amgylch eu ffordd nhw o fyw.
"The castle walls above you, the bustle of the town around you – this project is a chance to create something truly your own."
This home is eligible for the Cyngor Gwynedd ‘Empty Homes’ Grant.
Located just beneath the castle walls, this three-storey house sits right in the centre of Caernarfon — close to the Foryd, independent shops, cafés like Bonta Deli, and characterful pubs like Jac y Do. The essentials are already in place: gas central heating, double glazing, and a designated parking space (a rarity in town). What it needs now is someone with a good eye for design and a bit of imagination.
The layout is simple and practical. There are three bedrooms, a bathroom, a spacious living room and a well-proportioned kitchen — all ready for someone to put their own stamp on. The work needed is purely cosmetic, which makes this an ideal opportunity for anyone wanting to create a home without taking on a major renovation.
What makes this home special is its location. Wake up, walk the Foryd, and grab a coffee on the way back. Evenings are easy too — a meal in town, drinks with friends, or just stepping out the front door and being in the middle of it all.
This house has solid foundations, a great location, and lots of potential — perfect for someone looking to shape a home around the way they live.
Ystafell Fyw / Living Room 18' 7" x 10' 11" (5.67m x 3.34m)
Ystafell gyntaf y tŷ, gyda ffenest yn edrych tua muriau’r castell. Gofod agored gyda grisiau ac uned storio ddefnyddiol. Mae angen paent newydd a lloriau newydd, ac mae’r lle’n teimlo fel prosiect perffaith i rywun sydd eisiau rhoi wyneb ffres ar le â photensial mawr. Lle tân trydan ar hyn o bryd – efallai posib ailagor lle tân go iawn.
The first room you enter, with a window looking out to the castle walls. Open-plan with staircase and useful storage cupboard. The room would benefit from new flooring and a fresh coat of paint – a perfect project for someone ready to give it a stylish update. A modern electric fire is in place, but there may be potential to reopen a real fireplace.
Cegin / Kitchen 15' 0" x 7' 6" (4.57m x 2.28m)
Cegin hir a digonedd o olau gyda llawer o le ar y 'workstop', bar brecwast defnyddiol ar hyd un wal, a golau naturiol o ffenest, drws cefn ac ffenest yn y to. Mae’r gegin yn fodern ac yn barod i’w defnyddio, gyda hob 'induction', ac awyrgylch sy’n berffaith ar gyfer cymdeithasu wrth goginio. Mae’r drws cefn yn arwain i’r iard a’r lle parcio.
A bright galley kitchen with plenty of worktop space, a useful breakfast bar and lots of natural light from a window, back door and skylight. The kitchen is modern and ready to use, with an induction hob, great storage, and a sociable layout that works well for cooking and entertaining. The back door leads straight to the courtyard and parking space.
Stafell molchi / Bathroom 8' 6" x 7' 8" (2.60m x 2.34m)
Ystafell ymolchi o faint da gyda theils trwyddo. Mae yma fath gyda chawod uwchben, ac uned storio fawr a allai gael ei dynnu i greu mwy o le llawr. Mae’r gofod yma’n un ymarferol ond hefyd â photensial i’w drawsnewid yn fan hamddenol a braf.
A good-sized bathroom with tiles throughout. There’s a bath with overhead shower, and a large built-in cupboard that could be removed to create more floor space. A practical room with real potential to become a calm, inviting space.
Stafell Wely 1 / Bedroom 1 13' 1" x 8' 10" (3.99m x 2.70m)
Ystafell wely o faint da sy’n eistedd wrth ymyl yr ystafell ymolchi, gyda golygfa wych o dŵr y castell. Mae yma le i wely dwbl ac mae’r cwpwrdd gosodedig yn cynnig storfa ddefnyddiol heb gymryd lle ychwanegol.
A well-sized bedroom next to the bathroom, with an incredible view of the castle turret. There’s room for a double bed and the built-in wardrobe offers handy storage without taking up extra floor space.
Stafell Wely 2 / Bedroom 2 8' 8" x 6' 8" (2.63m x 2.02m)
Y lleiaf o’r ystafelloedd gwely, wedi’i leoli yng nghefn y tŷ. Yn ddelfrydol ar gyfer gwely sengl, ond hefyd yn addas fel swyddfa gartref gyfforddus neu hyd yn oed wardrob 'walk in'.
The smallest of the bedrooms, located at the back of the house. It would easily fit a single bed, but could also work well as a comfortable home office or even a walk-in wardrobe.
Stafell Wely 3 / Bedroom 3 13' 2" x 8' 11" (4.01m x 2.72m)
Gyda’r un olygfa â’r brif ystafell – muriau’r castell – mae’r ystafell hon yn teimlo’n arbennig. Posibilrwydd o le tân a lloriau pren dan y carpedi. Digon o le i wely dwbl neu hyd yn oed stiwdio greadigol i weithio ohoni.
With the same castle wall views as the main bedroom, this room feels truly special. There’s potential for a fireplace and wooden floors under the carpet. It fits a double bed with ease, or could become a beautiful creative studio.
Lleoliad
Os ydych chi’n chwilio am le cymdeithasol, ond hefyd am noddfa yng nghanol tref hanesyddol, yna bydd y cartref hwn yn siwtio’n berffaith. Mae Caernarfon yn dref fywiog sy’n llawn diwylliant ac egni. Mae’n ganolfan naturiol i’r Gymraeg, yn frith o fusnesau bach annibynnol, digwyddiadau lleol, cerddoriaeth fyw a dathliadau cymunedol.nnO’r drws ffrynt, gallwch fynd am dro o amgylch muriau’r dref ganoloesol, neu feicio ar hyd llwybrau lleol sy’n mynd â chi i bob cyfeiriad – boed i’r wlad, y môr neu bentrefi cyfagos. Mae’r orsaf fysus dim ond tair munud i ffwrdd ar droed, gyda gwasanaethau rheolaidd i Fangor, Pen Llŷn ac Aberystwyth.nnMae yma ddigonedd o gaffis annibynnol, archfarchnadoedd, parciau i blant a nifer o ysgolion lleol – popeth sydd ei angen ar gyfer bywyd bob dydd. Ond mae’n fwy na hynny – mae byw yng nghanol tref Caernarfon yn golygu bod chi’n rhan o le sydd â chalon a chymuned gref, lle mae hanes a chyfoes yn cyd-fyw.nnLle arbennig, i bobl sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth go iawn. / If you’re looking for somewhere sociable but still want a retreat in the heart of a historic town, this home could be just right for you. Caernarfon is vibrant and full of culture, proudly rooted in the Welsh language and home to independent businesses, live music, local festivals and a strong creative spirit.nnStep outside your front door and you’re moments away from walking the medieval castle town walls. There are excellent cycling routes in all directions — taking you out to the coast, countryside or neighbouring villages. The bus station is just a three-minute walk away, with regular services to Bangor, the Llŷn Peninsula and even as far as Aberystwyth.nnYou’ll find plenty of independent cafés, supermarkets, green spaces for children and several local schools — everything you need for everyday life, right on your doorstep. But living in Caernarfon is about more than convenience — it’s about being part of a place with real heart.nnTo live in the town centre is to live within the rhythm of Caernarfon itself — its energy, its language, and the deep sense of community that brings it all together.nnA truly special location for anyone looking to belong.
Datganiad Ymwadiad Eiddo
Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.
Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.