Cartref hanesyddol o’r 17eg ganrif. Nodweddion gwreiddiol, a chysylltiad dwfn â threftadaeth leol.
17th-century farmhouse. Original features, and a rich connection to local history.

English Below

“Y cartref perffaith i rhywun sy’n gwerthfawrogi hanes a phensaerniaeth arbennig - Mae sgop yma i gadw rhai anifeiliaid a thyfu cynnyrch yn y gerddi swmpus.”

  • Cartref Gradd II rhestredig arbennig iawn, llawn hanes a chymeriad Cymreig

  • Tair ystafell wely

  • Llawn dop o nodweddion gwreiddiol

  • Wedi’i leoli mewn ardal wledig dawel gyda golygfeydd eang o gefn gwlad

  • Gardd helaeth

  • Man parcio ar gyfer tri car

  • Eiddo freehold (perchnogaeth lwyr)

  • Wedi’i gysylltu â dŵr a thrydan y prif gyflenwad

  • System garthffosiaeth breifat trwy danc septig

  • Cysylltiad band eang drwy gopr (ADSL)

  • Ddim yn rhan o gadwyn gwerthu

  • Dim gwres canolog nwy, perchnogion presenol yn defnyddio gwresogydd electrig.

  • Sied a 3x adeilad bach ar gyfer storio

  • Band Treth Cyngor D

  • EPC - F

Wedi'i leoli ychydig islaw Castell Dolwyddelan ac yng nghysgod Moel Siabod, mae 1 Tan y Castell yn rhan o ffermdy o’r 17eg ganrif sy’n rhan annatod o stori leol Eryri.

Roedd y tŷ’n gartref i John Jones, un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Mae cofeb Gradd II iddo ef a’i frodyr yn sefyll wrth y fynedfa - marc distaw ar y pwysigrwydd mae’r lle hwn wedi’i ddal yng nghalon y gymuned. Mae’r adeilad ei hun wedi’i restru’n Gradd II* am ei werth pensaernïol a hanesyddol - yn enghraifft brin o bensaernïaeth leol.

Wedi’i drefnu bellach fel cartref tri llofft, mae’r lle wedi’i gynnal yn ofalus, gyda llawer o’r deunyddiau gwreiddiol a manylion traddodiadol yn aros yn eu lle. Mae lloriau llechi a phren yn rhedeg drwy’r tŷ, gyda trawstiau noeth a thanllwyth coed yn angori’r brif ystafell fyw. Mae’r cynllun yn cynnwys tri llofft, dwy ystafell ymolchi, cegin gynnes a thraddodiadol, ac ystafell fyw sy’n agor i olygfeydd o’r goedwig a’r caeau cyfagos.

Mae hwn yn gartref i rywun sy’n cael ei ddenu at lefydd â chynhesrwydd ac enaid - lle i roi gwreiddiau, magu teulu, neu fyw’n agosach at rythmau naturiol. Tu allan, mae nant yn rhedeg ar hyd ffîn y tir, ac mae adar megis gwenoliaid, tylluanod, a hyd yn oed dyfrgwn yn ymwelwyr cyson. Mae’r tŷ yn rhan o blot a rennir, gyda theimlad hael ac agored dros y dyffryn.

Yn fwy na chartref, mae 1 Tan y Castell yn cynnig cyfle i fod yn rhan o stori barhaus y lle hwn - i fyw’n dawel ynddo, ac i’w siapio’n fel ac y mynnwch.

“Mae Dolwyddelan yn gymuned glos ac agos atoch. Cyfleusterau ar gael ar stepen y drws a bwrlwm o weithgareddau cymunedol megis carnifal, treialon cwn defaid, tafarn cymunedol a dathliadau'r Nadolig yn yr hen Eglwys.”

Y Daith

Wrth gamu i mewn i’r gegin, daw’r teimlad o le sydd wedi aros yn ei le dros amser. Mae bwrdd bwyd mawr yng nghanol y gofod, a lle tân enfawr — a arferai fod yn galon coginio’r tŷ - yn dal y sylw’n syth. Mae’r awyrgylch yn syml, cynnes, ac yn llawn atgof - cegin sy’n dal hanes. I’r ochr, mewn cilfach fach, mae’r elfennau ymarferol: peiriannau golchi, storfa, a lle posib ar gyfer pantri bach.

O’r gegin, mae coridor cul yn arwain at yr ystafell fyw - lle cyfeillgar ei faint, gyda lle tân trawiadol bron yn llenwi’r wal gyfan. Mae’r gofod hwn wedi’i lunio’n fwy gan straeon a sgwrs nag unrhyw sgrîn.

Wrth fynd i fyny’r grisiau, mae’r waliau trwchus, anwastad yn adrodd hanes y tŷ. Mae’r brif lofft yn edrych dros yr ardd, gyda ystafell ymolchi en-suite. Ar ben y grisiau, ceir ystafell ymolchi fach, a dwy lofft ychwanegol - pob un â’i chymeriad ei hun ac olygfeydd gwahanol dros y tir cyfagos.

Gofod Allanol

Mae’r ardd yn rhan annatod o stori’r tŷ - yn lledaenu’n dyner o gwmpas y tŷ ac yn agor i lawnt eang werdd i’r ochr. Mae’r tir yma’n teimlo fel ei fod wedi tyfu ochr yn ochr â’r tŷ - yn dawel, yn hael, ac yn llawn bywyd. Mae ardal fwyta awyr agored wedi’i chreu’n bwrpasol yma - lle perffaith ar gyfer nosweithiau hir o haf , plant yn rhedeg yn droednoeth, ac amser heddychlon dan oleuni’r machlud.

Y tu blaen i’r tŷ, mae ardal fach lle mae gan yr eiddo drws nesaf hawl tramwy - trefniant hirsefydlog sy’n caniatáu mynediad ar hyd y llwybr pan fo angen. Mae hwn yn drefniant ymarferol ac arferol mewn eiddo gwledig hŷn, lle mae hanesion a gofod yn aml wedi’u rhannu dros genedlaethau.

Perfformiad Amgylcheddol

Nid oes gan y tŷ system wresogi ganolog ar hyn o bryd, er bod modd ei gosod gyda’r caniatâd priodol. Mae’r perchnogion presennol yn defnyddio gwresogyddion trydan. Gan fod yr adeilad wedi’i restru’n Gradd II*, mae’r ffenestri’n un-haen, gan gynnal cymeriad hanesyddol y tŷ.

English

"The perfect home for someone who values history and unique architecture – with scope to keep some animals and grow produce in the generous gardens."

  • A very special Grade II listed home, full of Welsh history and character

  • Three bedrooms

  • Packed with original features

  • Located in a peaceful rural area with far-reaching countryside views

  • Generous garden

  • Parking for three vehicles

  • Freehold property

  • Connected to mains water and electricity

  • Private drainage via a septic tank

  • Broadband connection via copper (ADSL)

  • No chain

  • No gas central heating, current owners use electric heaters

  • Shed and 3x small storage outbuildings

  • Council Tax Band D

  • EPC - F

Set just below Dolwyddelan Castle and in the shadow of Moel Siabod, 1 Tan y Castell forms part of a 17th-century farmhouse with deep roots in the local story of Eryri.

The house was once home to John Jones, one of the most influential preachers in Welsh history. A Grade II listed monument to him and his brothers stands at the entrance, a quiet marker of the significance this place holds in the life of the community. The building itself is Grade II* listed for its architectural and historic interest - recognised as a rare example of local vernacular tradition.

Now arranged as a three-bedroom home, the space has been carefully maintained, with many of its original materials and details left intact. Slate and timber flooring run throughout, with exposed beams and a wood-burning stove anchoring the main living space. The layout includes three bedrooms, two bathrooms, a warm and traditional kitchen, and a living room that opens onto views of surrounding woodland and fields.

This is a house for those drawn to places with soul - somewhere to put down roots, raise a family, or live in closer rhythm with nature. Outside, a stream traces the boundary, and the grounds are visited by swallows, owls, and even otters. The property is part of a shared plot, with a generous sense of space and an open view across the valley.

More than a home, 1 Tan y Castell offers the chance to be part of the ongoing story of this place - to live quietly within it, and to shape it gently in return.

"Dolwyddelan is a close-knit and welcoming community. Local amenities are right on your doorstep, along with a vibrant mix of community activities such as the carnival, sheepdog trials, the community-run pub, and Christmas celebrations in the old church."

The Tour

Stepping into the kitchen, you're met with a space that feels quietly rooted in the past. A large dining table sits at the centre, framed by a large hearth that once served as the cooking heart of the home. The atmosphere is simple, warm, and deeply familiar - a kitchen that holds memory. Tucked into a small adjoining nook are the more practical elements: laundry appliances, storage, and the potential for a walk-in pantry.

A narrow hallway leads to the living room - intimate in scale, with another remarkable fireplace stretching almost the full width of the room. The eye is naturally drawn here; a space shaped more by stories and conversation than screens.

Upstairs, thick walls and uneven surfaces tell of the building’s age, with the passage of time visible in every curve. The main bedroom has views over the garden and includes an en suite bathroom. At the top of the stairs, a small WC serves the floor, along with two further bedrooms - each full of character, each with its own outlook onto the surrounding greenery.

Exterior Space

The garden is as much a part of the story as the house itself. Wrapping gently around the rear and opening into a wide green lawn to the side, the land feels like it’s grown in harmony with the house - quiet, generous, and full of life. A purpose-built outdoor dining area offers the perfect setting for long summer evenings, where children run barefoot through the grass and laughter drifts into the trees.

At the front of the house, there is a small area over which the home next door has a right of way - a long-standing arrangement that simply allows access across the front path when needed. It’s an established and practical easement, typical of older rural properties where shared histories often shape how homes sit side by side.

The outside area feels calm, open and in harmony - not only with nature, but with the house itself.

Environmental Performance

The house does not currently have central heating, though it could be installed subject to appropriate consents. The current owners use electric heaters. As a Grade II* listed building, the windows remain single-glazed in keeping with the property’s historic fabric.

Cegin / Kitchen
Mae’r drws ffrynt yn agor i’r gegin a’r ystafell fwyta – gofod cynnes gyda lloriau carreg gwreiddiol a lle tân eang gyda llosgwr coed sy’n creu naws go iawn o gartref. Mae awgrym clir o hanes yma, fel petai’r waliau’n dal i adrodd straeon y cenedlaethau fu. Mae golau naturiol yn llifo trwy’r ffenestri sy’n edrych dros yr ardd. Yn y gornel, mae cilfach handi ar gyfer peiriannau golchi neu storfa ychwanegol.

The front door opens into the kitchen and dining area – a warm space with original stone flooring and a wide inglenook fireplace with a log burner, bringing a true sense of home. There’s a clear feeling of history here, as if the walls still hold stories of generations past. Light pours through garden-facing windows. A handy nook at the end of the room provides space for laundry or extra storage.

Ystafell Fyw / Lounge
Dilynwch y coridor carreg bach i’r lolfa, lle mae lle tân ‘inglenook’ trawiadol – nodwedd bensaernïol sy’n ganolog i’r ystafell. Mae’r lolfa yn fawr ond yn glyd, gyda dwy ffenestr sy’n edrych allan dros natur. Mae golau’n llifo’n feddal, gan greu awyrgylch dawel. O’r fan hon, mae drws gwreiddiol yn arwain at y festible ac i’r ardd, gan gysylltu’r tu mewn â’r tu allan. Mae’r ystafell yn adlewyrchu hanes y tŷ, gyda deunyddiau cyfoethog a naws stori.

Follow the small stone hallway to the lounge, where a striking inglenook fireplace anchors the room. It’s spacious yet cosy, with two windows framing views of the surrounding nature. Soft light fills the space, creating a calm and grounded feel. An original door leads to the vestibule and out to the garden, linking inside and out. Rich textures and a sense of history make this room feel like a space full of stories.

Fyny Grisiau / Upstairs
Mae’r fyny grisiau yn le bach llawn cymeriad, gyda lloriau ar wahanol lefelau a llwybr cul yn arwain at WC. Mae’r waliau crwn a’r plastr meddal yn dangos gofal ac ansawdd y gwaith sydd wedi’i wneud. Lloriau pren gwreiddiol drwy’r cyfan yn ychwanegu at y naws gynnes a chlyd.

The landing has a character all of its own, with layered levels and a narrow walkway leading to a discreet WC. Rounded plaster walls and deep reveals reflect the care and quality of the home’s restoration. Original wooden floors run throughout, adding warmth and timeless texture to this beautifully quirky space.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Lle tawel a llawn golau, mae’r brif ystafell wely yn cynnig golygfeydd dros yr ardd drwy ffenestr sy’n fframio’r tirwedd yn hyfryd. Mae’r ystafell yn teimlo’n dawel ac wedi’i hystyried yn ofalus, gyda thonau cynnes a gweadau meddal. Mae en-suite gyda bath a chawod yn cwblhau’r lloches dawel hon.

A peaceful and light-filled space, the main bedroom offers views over the garden through a window that frames the landscape beautifully. The room feels calm and considered, with warm tones and soft textures throughout. An en suite with both bath and shower completes this quiet, restful retreat.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Y lleiaf o’r tair ystafell wely, mae’r ail ystafell yn ofod ymarferol a thawel. Mae’n ddigon mawr i ffitio gwely dwbl, ond hefyd yn addas fel stafell i blant neu swyddfa gartref. Mae’r ffenestr yn edrych allan i’r blaen, gan adael golau meddal i lifo i mewn, a’r lloriau pren yn ychwanegu at y naws gynnes a chartrefol – man distaw i ymlacio.

The second bedroom is the smallest of the three but offers a functional and peaceful space. With room for a double bed, it would also work well as a child’s room or a home office. A window to the front brings in gentle light, while wooden floors add warmth and charm — a quiet little perch to retreat to.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
Mae trydedd ystafell wely’r tŷ yn llawn swyn tawel ac yn teimlo’n arbennig o unigryw. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys dau wely sengl – yn ddelfrydol fel ystafell blant. Mae dwy ffenestr yn gadael digon o olau naturiol i mewn, a’r silffoedd llyfrau wedi’u hadeiladu a’r carped meddal yn rhoi naws gartrefol a hudolus i’r gofod.

Bedroom three has a quiet charm and a sense of its own personality. Currently arranged with two single beds, it's a perfect space for children. Twin windows bring in soft natural light, and the room is lined with built-in bookshelves and a plush carpet underfoot — details that add to its cosy, storybook feel.

Toiled / Small WC
Toiled bach oddi ar lwybr cul ar y llawr uchaf, gyda sinc a chwpwrdd adeiledig. Er ei faint, mae’n ychwanegiad ymarferol i’r cartref ac yn adlewyrchu cynllun cymeriadol y tŷ gyda’i fynediad unigryw.

A small WC tucked away off the upstairs landing, with a toilet, sink, and built-in cupboard. Though compact, it’s a useful addition to the home, accessed via a narrow walkway that adds a touch of character and charm to the layout.

Lleoliad

Mae byw yn Nolwyddelan yn golygu bod yn rhan o gymuned gynnes a bywiog yng nghalon Eryri. Gyda mynyddoedd, coetiroedd ac Afon Lledr o’ch cwmpas, mae bywyd bob dydd yn llawn teithiau cerdded, dringfeydd mynydd a nofio gwyllt mewn dŵr clir. Mae busnesau lleol yn cynnig gwasanaethau lles fel tylino a garddio, a digonedd o ddigwyddiadau cymunedol—cystadlaethau trefnu blodau, gŵyl flynyddol i’r teulu, a mwy. Mae parciau i blant, llefydd tawel i bysgota, a gardd natur wyllt berffaith i deithiau cerdded neu amser tawel yn yr awyr agored. Gyda siop gyfeillgar, tafarn leol a chastell Dolwyddelan yn gwylio dros y cyfan, dyma le i berthyn mewn gwirionedd. / Living in Dolwyddelan means being part of a warm, active community in the heart of Snowdonia. Surrounded by mountains, woodland and the River Lledr, everyday life includes scenic walks, mountain hikes and wild swimming in crystal-clear waters. The village is home to local businesses offering wellbeing services like massage and gardening, along with regular community events—flower arranging competitions, a family-friendly annual carnival, and more. There are parks for children, peaceful fishing spots, and a wild nature garden perfect for family strolls or quiet time outdoors. With a friendly shop, local pub and Dolwyddelan Castle watching over it all, this is a place to truly belong.




Datganiad Ymwadiad Eiddo

Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.

Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Gwerthwyd STC

Heol Gelert
Caernarfon

£265,000
3    2

Ar Werth

Y Wern
Y Felinheli

£265,000
3    2

Gwerthwyd STC

South Penrallt
Caernarfon

£180,000
3    2