Ty 'detached' trawiadol wedi'i orffen i safon uchel, mewn cul-de-sac heddychlon yng Nghaeathro. / An impressive detached house finished to a very high standard, in a peaceful cul-de-sac in Caeathro.
English below
“Gall fod yn gartra i unrhyw un deud gwir. Mae gan yr eiddo gymaint i'w gynnig ond mae o wastad wedi bod yn dy teulu.”
Ty teuluol nodweddiadol yn bentref croesawgar Caeathro. Wedi’i guddio mewn cul-de-sac bach o 15 ty, lle mae plant yn chwarae yn y stryd a chymdogion yn codi llaw wrth basio, mai’n stryd sy’n llawn cymeriad Cymreig.
O’r tu allan mae’r pensaerniaeth a’r gorffeniad yn sefyll allan, ffenstri newydd haen dwbwl a ‘triple glazing’ yn ogystal a ‘render’ newydd sbon – ty modern a hardd i fod yn falch ohono. Wedi’i adnewyddu i safon uchel iawn, mae’r cartref hwn yn teimlo’n eang ac yn dawel. Yn y galon mae’r gegin/ystafell fwyta agored ar gyfer prydau teuluol a sgyrsiau hir, a lolfa fawr sy’n newid gyda’r tymhorau – tanllwyth o dan yn y Gaeaf neu agor y drysau bi-fold i batio heulog sy’n teimlo fel gwyliau bob dydd.
I fyny’r grisiau mae tair ystafell wely o faint da ac ystafell ymolchi fodern gyda bath ‘jet’ fel jacwsi, gyda’r brif ystafell yn un sy’n gwneud i chi isho mynd i gwely’n fuan bob nos!
Y tu hwnt i’r gofod byw mae ystafell utility fawr wrth y gegin, garej integredig, ac uchafbwynt y ty – paneli solar ar y to sy’n lleihau costau ac yn creu incwm ychwanegol. Gret ar gyfer cael gwylia ecstra pob blwyddyn, neu talu am anrhegion Nadolig.
Mae’r ardd yn lapio o amgylch y ty gyda phatio a gwair, lleoedd ar gyfer coffi’r bore neu ginio haf. Mae siop gerllaw, llwybrau cerdded i Gaernarfon, Bontnewydd a Waunfawr, a maes chwarae plant dim ond dau funud i ffwrdd. Yn Caeathro, mae’r gymuned yn fywiog gyda digwyddiadau tymhorol a chlwbiau lleol – ty gwych sy’n cynnig mwy na chartref, ond ffordd o fyw.
EPC: D
Band Treth Cyngor: D
Gwres Canolog Olew
Paneli solar
‘Double’ a ‘Triple’ Glazing
Wifi: Fibre
“It really could be a home for anyone. With so much to offer, it’s always been cherished as a family home”
A distinctive family home in the welcoming village of Caeathro. Tucked away in a small cul-de-sac of just 15 houses, where children play safely in the street and neighbours raise a wave as they pass, it’s a road full of Welsh character.
From the outside, the architecture and finish really stand out – brand new double and triple glazing, fresh rendering …a modern, beautiful home to be proud of. Renovated to a very high standard, the property feels spacious and calm throughout. At the heart of the home is the open-plan kitchen/diner, perfect for family meals and long conversations, alongside a large lounge that changes with the seasons – light the log burner for cosy evenings, or open the bi-fold doors onto a sunny patio that feels like being on holiday every day.
Upstairs are three good-sized bedrooms and a stylish bathroom with a jacuzzi-style jet bath, while the main bedroom is one that makes you want to climb into bed early every night!
Beyond the main living space is a large utility room off the kitchen, an integral garage, and one of the home’s highlights – solar panels on the roof that reduce energy bills and generate extra income. Perfect for an extra holiday each year or covering Christmas treats.
The garden wraps around the house with patio and lawn areas, ideal for morning coffee or summer suppers. A local shop, walking routes to Caernarfon, Bontnewydd and Waunfawr, and a children’s play park just two minutes away are all close by. Caeathro’s community is lively and welcoming, with seasonal events and local clubs – a wonderful house that offers more than just a home, but a whole way of life.
EPC: D
Council Tax Band: D
Oil Central Heating
‘Double’ and ‘Triple’ Glazing
Solar Panels
Wifi: Fibre
Y Cyntedd / Entrance
Wrth gamu drwy’r drws modern, cewch eich croesawu gan cyntedd eang a chroesawgar. Mae’r grisiau agored yn cael ei oleuo gan ffenestr fawr, dyma le i fod yn falch ohono pan yn croesawu gwesteion. Yma hefyd mae bonws ymarferol – ystafell ymolchi lawr grisiau gyda chawod.
As you step through the modern doorway, you’re welcomed by a spacious and inviting hall. The open staircase is lit by a large window – a space to be proud of when greeting guests. Also here is a practical bonus: a downstairs bathroom with shower.
Cegin ac Ystafell Fwyta / Open Plan Kitchen Diner
Dyma un o ystafelloedd mwyaf arbennig y tŷ – y gegin/ystafell fwyta cynllun agored sy’n dangos gwir safon gorffeniad y ty. Teils llechi odan draed, cegin o safon uchel ac ynys fawr gyda bar brecwast. Breuddwyd i unrhyw un i goginio ynddi, wrth ddiddanu gwesteion neu gweini brecwast i’r plant yn y bore.
This is one of the home’s most special rooms – the open-plan kitchen/diner that really shows off the quality of finish. Slate tiles underfoot, a high-spec kitchen and a large island with breakfast bar. A dream for anyone who loves to cook, whether entertaining guests or serving breakfast to the kids in the morning.
Utility
Drws nesa' i’r gegin mae’r ystafell utility fawr. Gyda mynediad uniongyrchol i’r ardd gefn, mae’n berffaith ar gyfer tynnu esgidiau pêl-droed oddiar draed bach neu rhoi dillad yn syth yn y peiriant golchi cyn mynd i mewn i’r tŷ. Lle gret i gadw'r meicrowêf a'r 'airfryer'.
Next to the kitchen is the large utility room. With direct access to the back garden, it’s perfect for kicking off little muddy football boots or throwing clothes straight into the washing machine before coming inside. It’s also a great spot to keep the microwave and air fryer!
Garej / Garage
Fel garej, mae hon yn ymarferol iawn – digon o le storio ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r utility. Yma mae’r paneli solar yn cael eu rheoli, felly’n fan defnyddiol tu hwnt. Wrth gwrs, mae lle i gadw car os oes angen, ond mae hefyd yn lle gwych i gadw beiciau, offer garddio neu bocsys Nadolig!
As garages go, this one is super practical – plenty of storage space and direct access into the utility. It’s also where the solar panels are controlled, making great use of the space. Of course, it would fit a car if needed, but it’s just as handy for bikes, gardening tools or even the Christmas boxes!
Ystafell Fyw / Lounge
Ystafell fyw fawr ac eang sy’n cynnig digon o botensial i chwarae gyda’r cynllun. Mae dwy ffenestr fawr yn edrych dros yr ardd, ond uchafbwynt y gofod yw’r drysau bi-fold i’r patio. Ar agor, maen nhw’n creu llif hyfryd i'r ardd. Yn y gaeaf, tanllwyth pren clyd; yn yr haf, patio heulog sy’n teimlo fel gwyliau.
A large and spacious living room offering plenty of potential to play with the layout. Two big windows look out over the garden, but the highlight of the space is the bi-fold doors onto the patio. Open them and you get a lovely flow to the garden. In winter, the cosy log burner takes centre stage; in summer, the sunny patio feels like a holiday.
Landing
Mae fyny i dop y grisiau yn ofod arbennig – yn anarferol fawr, gan roi naws gartrefol a chysylltiedig i’r tŷ. Mae ffenestr fawr yn gadael golau meddal i lifo i mewn, tra bod lloriau pren wedi’u paentio’n hardd yn creu teimlad cynnes a gwledig. O’r fan hon, mae mynediad i bob ystafell wely.
The landing is a really special space – unusually large, giving the home a warm and connected feel. A big window lets in soft light, while the beautifully painted wooden floors add rustic charm and warmth. From here you can step into all of the bedrooms, tying the home together.
Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Mae’r ystafell hon ar flaen y tŷ ac yn fawr ei maint, gyda ffenestr lydan bron ar hyd yr ystafell gyfan sy’n gadael i olau naturiol lifo i mewn. Ar hyn o bryd mae’n swyddfa, ond byddai’n gwneud ystafell wely hyfryd, gyda digon o le ar gyfer gwely dwbl a dodrefn.
This room sits at the front of the house and is generous in size, with a wide window spanning almost the full length of the space, letting natural light pour in. Currently used as an office, it would make a lovely bedroom with plenty of room for a double bed and furniture.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Mae’r ystafell hon hefyd o faint gwych. Dyma lle mae pensaernïaeth y dorma-bungalow yn dod i’r amlwg, gyda siap nenfwd unigryw sy’n rhoi cymeriad arbennig. Mae’r gofod hwn yn berffaith fel ystafell wely i blentyn – llawn hwyl, 'cwyrci' a digon o le i dyfu.
This bedroom is also a great size. The dorma-bungalow architecture really shines here, with its unique ceiling shape adding character and charm. A quirky and fun space that makes the perfect child’s bedroom, with plenty of room to grow and make it their own.
Ystafell Molchi / Bathroom
Ystafell ymolchi syml ond gyda teimlad hyfryd, wedi’i gorffen i safon uchel. Mae sinc sgwâr chwaethus, teils hardd, a’r uchafbwynt – bath ‘jet’, tebyg i jacwsi - perffaith ar gyfer nos Wener hamddenol ar ôl wythnos hir. Ceir hefyd gawod uwchben y bath, gan gyfuno moethusrwydd a ymarferoldeb.
A simple bathroom with a lovely feel, finished to a high standard. There’s a stylish square sink, beautiful tiling, and the highlight – a jet, jacuzzi-style bath, perfect for a relaxing Friday night after a long week. There’s also an overhead shower, combining luxury with practicality.
Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
Mae’r ystafell brif hon yn syndod o fawr wrth gamu i mewn, gyda theimlad o dawelwch sy’n ei gwneud yn encil perffaith i oedolion ymlacio. Mae’r ffenestr gefn yn rhoi naws clyd, a digon o le i wely king-size, cypyrddau ac eitemau dodrefn eraill – yn dangos maint hael yr ystafell.
The primary bedroom feels surprisingly large as you step inside, with a sense of calm that makes it the perfect retreat for adults to unwind. Its rear-facing window adds cosiness, and it easily holds a king-size bed, wardrobes and other furniture – showing the generous scale of the room.
Atig / Attic
Mae’r atig yn cynnig lle storio ychwanegol defnyddiol, gyda rhan ohono wedi’i ‘bordio’ i’w gwneud yn fwy ymarferol. Perffaith ar gyfer cadw holl bits a bobs teuluol.
The attic provides useful extra storage, with part of it boarded to make it more practical. Perfect for keeping all those little family bits and pieces.
Lleoliad
Nid yw Caeathro yn bell o’r prif gymunedau, ond mae bod mor agos at Gaernarfon yn fonws mawr. Mae’r gymuned yn hynod Gymreig ac yn falch o drefnu digwyddiadau rheolaidd i’w phobl. I deuluoedd, mae digwyddiadau blynyddol fel helfa wyau Pasg, disgo Nadolig a chyfarfodydd parc bob mis. I oedolion, mae clwbiau cerdded a garddio yn cynnig cyfeillgarwch a cyfle i gymdeithasu. Mae pwyllgor y gymuned yn gwneud yn siwr nad ydi unrhyw unigolyn yn methu allan. Mae’n enghraifft berffaith o fyw’n aml-genhedlaeth, ac mae’r stryd hon yn ei dangos yn glir: cymysgedd o blant, teuluoedd ac oedolion hŷn sy’n creu lle diogel a chroesawgar. Mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd gerllaw, ac efo’r terfyn cyflymder newydd o 20mya a chyflwyniad y ffordd osgoi, mae’r pentref yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda theuluoedd. / Caeathro is not far from the main communities, but being so close to Caernarfon is a real bonus. The community is proudly Welsh and takes pride in organising regular events for its people. For families, there are annual activities such as Easter egg hunts, Christmas discos and monthly park meet-ups. For adults, walking and gardening clubs offer friendship and a chance to socialise. The community committee makes sure that no one is left out. It’s a perfect example of multi-generational living, and this street shows it clearly: a mix of children, families and older residents creating a safe and welcoming place to live. There are plenty of primary and secondary schools nearby, and with the new 20mph speed limit and the introduction of the bypass, the village is becoming increasingly popular with families.
Datganiad Ymwadiad Eiddo
Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.
Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.