Map   

Golau’r haul, golygfeydd o’r Fenai – cartref teuluol tawel yng nghalon y pentref.

English below

"Ar ddiwrnod perffaith, byddem yn cael coffi ar y balconi yn gwylio’r cychod hefo’r plant, cyn cerdded i lawr i’r parc a theimlo’r pentref yn dod yn fyw o’n cwmpas. Mae’n lle perffaith ar gyfer bywyd teuluol – heddychlon, cyfeillgar, ac yn agos at bopeth sydd ei angen arnon ni."

Wedi’i leoli dim ond camau o galon pentref Y Felinheli, mae’r tŷ pedwar llofft hwn wedi’i osod dros ddwy lefel, gan gynnig tawelwch, golau naturiol, a golygfeydd eithriadol dros y Fenai – gyda’r haul yn machlud yn union o’i flaen.

Mae’r mannau byw wedi’u lleoli ar y llawr uchaf, gan wneud y mwyaf o’r golau. Mae’r ystafell fyw agored yn ymestyn ar draws lled y tŷ, gyda’r gegin, bwrdd bwyd a’r ardal ymlacio’n cysylltu’n rhydd. Mae drysau llithro’n gorad allan i falconi gyda golygfeydd dros y dŵr – estyniad naturiol o’r gofod byw, perffaith ar gyfer coffi bore neu gwydraid ar ôl machlud. Mae’r gegin hefo golygfa uniongyrchol dros yr ardd gefn gaeedig – delfrydol i gadw llygad ar blant yn chwarae.

Ar y llawr isaf ceir pedair ystafell wely helaeth. Mae tri ohonynt gyda golygfeydd arbennig. Mae’r ystafelloedd yn addasadwy – swyddfa, ystafell wely i westeion, neu stiwdio, oll yn bosib heb newid y fformat presennol. Mae ystafell utility ar wahân yn cynnig lle ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd – ar gyfer cotiau, esgidiau, golchi a’r holl elfennau sy’n rhan o fywyd teuluol.

Mae’r ardd gefn yn breifat ac yn ddiogel – mwy tawel na’r arfer, diolch i leoliad y tŷ ar lethr bychan. Mae lle parcio union tu allan, ac mae’r stryd yn agos at bopeth – y siop, y traeth, y parc a’r dafarn. Mae meddygfa, siop trin gwallt a llwybr beicio ar garreg y drws, gyda’r ysgol gynradd heb fod ymhell.

Cartref sydd wedi’i osod rhwng dwy fyd – yng nghanol y gymuned, ond yn ritrît tawel oddiwrth y bwrlwm. Yn addas ar gyfer boreau araf, plant yn droednoeth, prydau teuluol gyda’r ffenestri yn agored er mwyn mwynhau awyr iach y môr.

"On a perfect day, we’d have coffee on the balcony watching the boats with the kids, then head down to the park and feel the village come to life around us. It’s the perfect spot for family life – peaceful, friendly, and close to everything we need."

Tucked just behind the heart of Y Felinheli, this four-bedroom split-level house offers a sense of calm and light throughout, with views that stretch across the water and catch the sunset each evening.

The living spaces are arranged across the upper floor to take full advantage of the views. A large open-plan room runs the width of the house — loosely divided into kitchen, dining and living zones — all bathed in natural light. Sliding doors open onto a balcony overlooking the Menai Strait, a perfect extension of the living space and a place to sit and breathe in the coastal air. The kitchen is well-placed, with a direct view over the enclosed rear garden — ideal for keeping an eye on the children playing.

On the lower floor, there are four bedrooms, all generous in size. Three have particularly lovely views. The rooms are adaptable — a workspace, guest bedroom, nursery or studio would all work comfortably within the existing footprint. A separate utility room is a practical space for daily life — somewhere to contain coats, shoes, laundry and everything else that family living requires.

Outside, the garden is secure and quiet — more private than most, thanks to the house’s slightly elevated setting. There’s parking directly outside, and the street is a short walk from everything in the village — the shop, the seafront, the park, the pub. A doctors’ surgery, hairdresser and cycle path are all within walking distance, and the primary school is nearby too.

This is a home with balance — carefully finished but relaxed, connected to the centre of the village yet gently set apart. It feels made for slow mornings, barefoot children, long dinners, and open windows.

Ystafell Fyw a Bwyta / Lounge and Dining Room
Ar ben uchaf y tŷ, dyma galon y cartref – gofod cynllun agored llawn golau, gyda ffenestri’n fframio’r Fenai fel celf fyw. Mae lloriau pren a gorffeniadau modern yn creu awyrgylch ffres, tra bo’r lle tân coed yn ychwanegu cynhesrwydd. Camwch allan i’r balconi a mwynhau’r machlud. Mae’r ardal fwyta’n berffaith ar gyfer brecwast hamddenol wrth wylio’r cychod, gyda’r gegin drws nesaf yn gwneud popeth yn hwylus.

At the top of the house is its heart – a light-filled open-plan space where the Menai is framed like a living artwork. Wooden floors and modern finishes bring freshness, while the log burner adds warmth. Step out onto the balcony to catch the sunset. The dining area is perfect for a slow breakfast while watching boats drift by, and with the kitchen just next door, this whole space is beautifully easy to live in.

Cegin / Kitchen
Mae’r gegin yn le tawel a braf, wedi’i lleoli yng nghefn y tŷ mewn siâp sgwâr sy’n cynnig llawer o le i symud o gwmpas. Mae’n fawr ei maint, gyda digon o le i storio a lle i blant bach fod dan draed heb darfu. Wedi’i lleoli’n ymarferol wrth ymyl yr ardal fwyta, ac mae’n hawdd cludo pryd neu baned i’r balconi. Mae dwy ffenest yn edrych dros yr ardd, gan ddod â golau naturiol i mewn a chysylltiad braf â’r tu allan.

The kitchen has a calm, comfortable feel — square in shape and set to the back of the house. It’s generously sized, with plenty of storage and enough floor space for little ones to potter underfoot. Positioned right next to the dining area, it’s easy to carry a plate or a drink straight out to the balcony. Two windows overlook the garden, bringing in lots of natural light and a soft connection to the outdoors.

WC
Toiled bach cyfleus ar lawr uchaf y tŷ. Mae cwpwrdd bychan yn y fan hon sy’n cynnwys y system wresogi – man ymarferol ac ychwanegol defnyddiol i’r cartref.

A small and convenient WC on the upper floor, complete with a sink and a handy cupboard that houses the boiler. A practical extra for busy family life.

Grisiau a'r Cyntedd / Hallway and Stairs
Mae’r cyntedd a’r grisiau yng nghanol y cartref, gyda strwythr syml. Mae’r cynllun canolog yn cysylltu pob rhan o’r tŷ, gan greu teimlad cartrefol a chaniatáu i blant deimlo’n agos at eu rhieni drwy’r amser.

The hallway and staircase sit at the centre of the home, with clean lines and a simple, thoughtful layout. Its central position connects all parts of the house, creating a cosy feel and allowing children to stay close to their parents throughout the day.

Utility
Ystafell utility hynod ymarferol – gyda digon o le ar gyfer cotiau, esgidiau mwdlyd a pheiriannau golchi. Mae’r ystafell hon yn ased gwirioneddol i gartref teuluol prysur.

A truly practical space – with room for coats, muddy boots, and all your washing appliances, this utility room is a real asset to a busy family home.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1
Dyma’r brif ystafell wely yn y tŷ – ystafell fawr gyda golygfeydd bendigedig. Mae digon o le i wely Superking yma’n hawdd, ac mae’r cypyrddau gosodedig ar hyd un wal yn cynnig storfa wych sy’n cadw’r gofod yn daclus ac ymlaciol. Ystafell berffaith i orffwys ar ddiwedd y dydd.

This is the primary bedroom in the house — a generous, light-filled space with beautiful views. It easily accommodates a superking bed, and the built-in wardrobes running the full length of the room help keep everything tidy and calm. A perfect place to unwind and rest at the end of the day.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
Ystafell wely fawr arall, gyda’r un golygfeydd anhygoel â’r ystafell wely brif. Gofod llawn golau sy’n teimlo’n dawel ac eang.

Another spacious double bedroom, enjoying the same incredible views as the primary. A light-filled room that feels calm and open.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
Yr ystafell leiaf o’r pedair, ond yn le tawel iawn sy’n edrych dros yr ardd. Byddai’n dal gwely sengl yn hawdd ac yn gwneud ystafell berffaith i blentyn, gan ei bod mor agos at yr ystafell wely brif.

The smallest of the four bedrooms, this room feels especially calm and overlooks the garden. It easily fits a single bed and would make a lovely child’s room, especially as it sits so close to the primary bedroom.

Ystafell Wely 4 / Bedroom 4
Ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell chwarae a swyddfa gartref, mae’r ystafell hon yn fonws gwirioneddol. Er ei bod yn agos at ystafelloedd eraill, mae’n teimlo fel gofod ar wahân – perffaith ar gyfer plant sy’n tyfu. Mae’r golygfeydd dros y Fenai yn werth eu gweld.

Currently used as a playroom and home office, this room is a real bonus. It sits close to the other bedrooms but feels like its own space — ideal for growing children who want a bit of independence. The views over the Menai Strait are a standout feature.

Ystafell Molchi Teuluol / Family Bathroom
Wedi’i lleoli’n union y tu allan i’r ystafelloedd gwely, mae’r ystafell ymolchi deuluol mewn lleoliad perffaith. Mae’n cynnwys bath, chawod a chwpwrdd storio defnyddiol – yn faint ymarferol ar gyfer bywyd teuluol bob dydd.

Situated right outside the bedrooms, the family bathroom is in the perfect spot. It includes a bath, shower, and a useful storage cupboard — a practical size for everyday family life.

Lleoliad

Mae Y Felinheli’n cael ei hadnabod fel un o’r cymunedau cryfaf a mwyaf croesawgar yn yr ardal. Bob blwyddyn ceir digwyddiadau lleol poblogaidd fel Ras Hwyaid y Pasg, Gŵyl Y Felinheli, a dathliadau Nadolig – gan ddod â’r pentref ynghyd mewn ffordd bywiog a chynnes.nYn ganolog i’r pentref mae ardal gwair eang ar lan y môr, gyda parc chwarae, tafarndai cyfeillgar i deuluoedd a nifer o lefydd bwyta a yfed annibynnol. Mae’n lle lle mae cymdogion yn cyfarch ei gilydd yn y stryd, a lle gall plant dyfu i fyny gyda rhyddid a pherthyn gwirioneddol.nWedi’i leoli’n berffaith rhwng Bangor a Chaernarfon, mae gan y Felinheli ysgol gynradd ei hun ac mae’n agos at bedair ysgol uwchradd. Mae dau barc i blant, llwybr beicio tua 100 metr o’r tŷ, gerddi cymunedol a 'pub quiz' rheolaidd sy’n dod â’r gymuned ynghyd.nOs ydych chi’n chwilio am le llawn bywyd, cynhesrwydd a chysylltiad – mae Y Felinheli’n lle delfrydol i fagu teulu. / Y Felinheli is known for having one of the strongest and most welcoming communities in the area. The village hosts much-loved annual events like the Duck Race, Gŵyl Felinheli festival, and Christmas celebrations — all of which bring residents together in a way that feels both vibrant and close-knit.nAt its heart is a large green space on the seafront, with a playground, family-friendly pubs and a handful of independent places to eat and drink. It’s the kind of place where neighbours stop to chat, and children grow up with a real sense of freedom and belonging.nPerfectly placed between Bangor and Caernarfon, Felinheli has its own primary school and sits within easy reach of four local high schools. There are two children’s parks in the village, a popular cycle track just 100 metres from the house, community gardens, and regular pub quizzes that bring people together.nIf you’re looking for somewhere full of life, heart and connection — Felinheli is exactly the kind of place where family life thrives.




Datganiad Ymwadiad Eiddo

Mae'r holl wybodaeth yn y hysbyseb hon yn seiliedig ar fanylion a ddarparwyd i ni gan y gwerthwr ac fe'i rhoddir yn ôl yr hyn a gredwn sy'n gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni allwn warantu bod yr holl fanylion yn gywir nac yn gyflawn. Rhaid i ddarpar brynwyr sicrhau eu hunain o gywirdeb y wybodaeth.

Sylwch nad ydym wedi profi unrhyw wasanaethau, systemau, offer nac argaeledd cyfarpar yn y tŷ, ac ni allwn roi unrhyw warant ynghylch eu cyflwr nac a ydynt yn gweithio'n iawn. Mae unrhyw fesuriadau, cynlluniau llawr neu luniau er diben darluniadol yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn gynrychioliadau union.

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anghywirdebau sydd yn y wybodaeth am yr eiddo hwn.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Ar Werth

Bryn Y Waen
Y Felinheli

£410,000
4    2

Ar Werth

Clwyd Campbell Road
Caernarfon

£330,000
4    2

Ar Werth

Erw Wen
Caeathro

£365,000
4    2