Cartref 2 lofft ar Stryd Marged – lleoliad tawel, gardd hyfryd, ger canol Caernarfon / Quirky 2-bed home on Stryd Marged – quiet spot, lovely garden, moments from Caernarfon centre
English Below
“Cartref bach cŵl, llawn cymeriad, mewn lleoliad gwych.”
Cartref dwy ystafell wely ar stryd dawel Stryd Marged, wedi’i addurno’n ofalus gan ei berchennog i greu gofod sydd yn teimlo’n greadigol, cynnes ac ychydig yn wahanol.
Mae’r gofod byw yn agored, yn llifo’n hawdd rhwng y lolfa a’r ardal fwyta, gyda llosgwr coed yn ganolbwynt clyd a lloriau pren ‘laminate’ yn ychwanegu at y naws naturiol, cyfoes. Mae’n ofod sy’n teimlo’n “cwl” ond yn gartrefol ar yr un pryd.
Er bod y gegin yn ‘compact’, mae’n cysylltu’n uniongyrchol â’r ardd – perffaith ar gyfer barbeciw haf neu ginio gyda ffrindiau, gyda mynediad cefn drwy giât sy’n ei gwneud hi’n hawdd dod i mewn ar ôl diwrnod allan.
Mae’r ardd ei hun yn ofod hyfryd ar gyfer difyrru, wedi’i dylunio i’w fwynhau – lle bach tawel yng nghanol y dref.
I fyny’r grisiau, mae ystafell ymolchi fodern gyda chawod fawr ar wahân a bath – lle i ddechrau’r dydd neu ymlacio’n llwyr gyda’r nos. Mae’r ddwy ystafell wely yn ddwbl, gyda’r prif ystafell yn llawn golau o’r ddwy ffenestr, ac yn cynnwys storfa adeiledig. Mae lloriau pren gwreiddiol yn parhau i fyny’r grisiau, gan gadw’r teimlad cynnes, “earthy” drwy’r cartref. A gyda ‘atig’ ar gyfer storio ynghyd a ystol i fynd i fyny, mae’r tŷ yma yn cynnig rhywbeth i bawb.
Yn berffaith i berson sengl neu gwpl sy’n chwilio am rywbeth gwahanol, mae’r cartref hwn dim ond tafliad carreg o ganol Caernarfon – yn ddelfrydol ar gyfer bywyd cymdeithasol bywiog heb orfod gwneud unrhyw waith wrth symyd i mewn.
EPC - C
Band Treth Cyngor - B
Gwres Canolog Nwy
Waliau allannol y tŷ wedi insiwleiddio
Ffenestri haen dwbwl drwy’r tŷ
“A cool, characterful home in a great location.”
A two-bedroom home set along the quiet street of Stryd Marged, thoughtfully styled by its owner to create a space that feels creative, warm and just that little bit different.
The open-plan living space flows easily between the lounge and dining area, with a log burner at its heart and laminate wooden flooring adding to the natural, contemporary feel. It’s a space that feels cool yet cosy at the same time.
While the kitchen is compact, it connects directly to the garden – perfect for summer barbecues or relaxed dinners with friends, with gated rear access making it easy to step straight into the house after a day out.
The garden itself is a lovely space for entertaining, designed to be enjoyed – a quiet little retreat in the middle of town.
Upstairs, there is a modern bathroom with both a large separate shower and a bath – a place to start the day or fully unwind in the evening. Both bedrooms are doubles, with the primary room filled with light from two windows and benefiting from built-in storage. Original wooden flooring continues upstairs, maintaining a warm, earthy feel throughout the home. With an added attic for storage with a new drop-down ladder, this house has something for everyone.
Perfect for a single person or a couple looking for something a little different, this home sits just a stone’s throw from the centre of Caernarfon – ideal for a vibrant, social lifestyle without the need to carry out any work before moving in.
EPC – C
Council Tax Band – B
Gas Central Heating
Insulated external walls
Double glazing throughout
Ystafell Fyw / Lounge 11' 3" x 12' 1" (3.44m x 3.68m)
Ystafell fyw glyd gyda naws agored, gyda ffenestri ar y ddwy ochr yn llenwi’r gofod â golau. Mae llosgwr aml-danwydd ar lechen yn ganolbwynt naturiol. Gofod perffaith ar gyfer nosweithiau clyd neu i groesawu ffrindiau.
A cosy living room with an open-plan feel, with windows on both sides bringing in plenty of light. A multi-fuel burner with slate hearth creates a lovely focal point. Perfect for cosy nights by the fire or entertaining friends.
Ardal Fwyta / Dining Area 9' 9" x 11' 2" (2.96m x 3.40m)
Ardal fwyta sy’n rhan o’r gofod byw ond yn teimlo’n braf ac ar wahân. Gofod bach cŵl a chwareus, perffaith ar gyfer nosweithiau hir gyda gemau bwrdd a recordiau 'vinyl' yn chwarae'n dawel yn y cefndir.
A dining area that flows from the living space yet feels nicely separate. A quirky, characterful spot, perfect for long evenings playing board games and listening to vinyl spinning in the background.
Cegin / Kitchen 8' 9" x 5' 9" (2.67m x 1.74m)
Cegin 'ciwt' gyda mynediad uniongyrchol i’r ardd gefn. Nid oes offer integredig, gan wneud y gofod yn hyblyg. Mae storfa dan y grisiau yn cynnig lle perffaith fel pantri ymarferol.
A compact kitchen with direct access to the rear garden. With no integrated appliances, the space feels flexible. There’s also a useful under-stairs storage area, ideal as a practical pantry.
Ystafell Molchi / Bathroom 9' 3" x 5' 9" (2.83m x 1.76m)
Ystafell ymolchi ar ben y grisiau sy’n teimlo’n ymlaciol ar unwaith. Mae ganddi gawod fawr ar wahân, 'radiator' tywelion newydd a bath ar wahân – gofod perffaith ar gyfer trochi yn y bath am oriau gyda chanwyll.
A bathroom at the top of the stairs that feels instantly calming as you step into it. It features a large standalone shower, a new towel rail and a separate bath – perfect for long, relaxing soaks and candles.
Ystafell Wely 1 / Bedroom 1 10' 11" x 9' 6" (3.33m x 2.90m)
Dyma’r ystafell leiaf o’r ddwy, ond mae’n dal yn ddigon eang i wely dwbl a chot. Gyda lloriau pren gwreiddiol a golau bore’n llifo i mewn, mae’n ystafell wely hyfryd a llawn naws ymlaciol.
The smaller of the two bedrooms, yet still a great size, currently accommodating a double bed and cot. With beautiful original wooden floors and morning light streaming in, it’s a lovely, characterful bedroom.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 13' 6" x 10' 0" (4.12m x 3.04m)
Dyma’r ystafell sy’n creu argraff. Cwpyrddau adeiledig newydd a wal 'feature' hardd yn ychwanegu cymeriad. Mae’r lloriau pren yn parhau, gyda dwy ffenestr yn llenwi’r gofod â golau – digon o le i wely maint 'king'.
This is the room with the wow factor. Newly fitted built-in wardrobes and a beautiful feature wall add character. Wooden floors continue, and with two windows, it’s a bright space with plenty of room for a king-size bed.
Location
Mae Stryd Marged dim ond ychydig funudau ar droed o ganol Caernarfon, ond mae’n teimlo fel byd bach tawel ei hun. Fel cul-de-sac, nid oes traffig trwodd yma, gan greu naws hen ffasiwn lle mae cymdogion yn cyfarch ei gilydd a bywyd yn symud ar gyflymder mwy hamddenol.nMae’n lleoliad cyfleus iawn ar gyfer bywyd bob dydd – yn hawdd cerdded adref o’r gwaith, dim ond camau i ffwrdd o Twthill, ac nid nepell o’r ganolfan hamdden.nMae Caernarfon ei hun yn lle bywiog a chreadigol, gyda digon o siopau annibynnol, bariau a llefydd i fwyta. Mae clwb rhedeg lleol, a llu o wyliau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yr Ŵyl Fwyd a Gŵyl Arall, yn rhoi naws gymunedol gryf i’r dref.nYn syml, mae Caernarfon yn lle cyffrous i fyw ar hyn o bryd – cymysgedd o ddiwylliant, cymuned a bywyd bob dydd hawdd. / Stryd Marged is just a few minutes’ walk from the centre of Caernarfon, yet it feels like its own quiet corner. As a cul-de-sac, there is no passing traffic, giving it an almost old-fashioned feel where neighbours say hello and life moves at a gentler pace.nIt’s a very convenient spot for everyday living – an easy walk home from work, just steps from Twthill, and not far from the leisure centre.nCaernarfon itself is a vibrant and creative place, with a great mix of independent shops, bars and places to eat. There’s a local running club, along with a calendar full of festivals and community events throughout the year, including the Food Festival and Gŵyl Arall.nQuite simply, Caernarfon is an exciting place to live right now – a blend of culture, community and easy, walkable living.
Property Disclaimer
All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.
Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.
We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.