"Mae Catra fel asiantaeth yn gweld y pethau bach sy’n gwneud cartref yn arbennig, ac mae eu lluniau’n adrodd y stori honno’n hyfryd. Maen nhw’n troi’r broses o werthu’n brofiad personol, ystyrlon – ac un braf."

I ni, mae tŷ yn fwy na thŷ; mae pob tŷ yn gartref, a phob cartref yn rhan o gymuned. Dyna pam bod gwerthu gyda ni yn brofiad agos atoch chi. O’r sgwrs gynta dros baned i drosglwyddo’r goriadau, byddwn yn cymryd amser i ddeall a dangos sut beth yw bywyd yn eich cartref a’ch cymuned chi, gan helpu’r perchnogion nesaf i setlo a gwreiddio yno mewn dim o dro. Ein nod yw gwarchod ac annog yr ymdeimlad cymunedol arbennig hwnnw sy’n treiddio’n ddwfn mewn trefi a phentrefi ledled Gwynedd.

Gyda ffotograffiaeth o safon, platfform digidol hawdd i’w ddefnyddio a llais cyfeillgar ben arall y ffôn, byddwn yn gwneud y profiad o werthu eich cartref yn un syml ond ystyriol.



"Mae tŷ yn troi’n gartref — ac mae pob cartref yn rhan o’i gymuned.”

Ar werth

 
Ar Werth

Margaret Street
Caernarfon

£160,000
2    1

Ar Werth

Penrhos Road
Bangor

£280,000
3    1

Ar Werth

Cefn Faes St. Davids Road
Caernarfon

£775,000
8    5

Ar Werth

Bryn Y Waen
Y Felinheli

£410,000
2    2

Ar Werth

Snowdon View, Stad Glan Beuno
Bontnewydd

£320,000
3    1

Ar Werth

Cae Gwyn
Caernarfon

£550,000
3    2

Dewisiwch gwmni sy'n rhoi calon ac ystyr i bob gwerthiant


Proses hawdd, syml a di-straen, gyda phobl sy'n deall gwerth cartref a chymuned. Cysylltwch heddiw i drefnu prisiad personol, ystyrlon.