Cartref hanesyddol mawreddog wedi’i adnewyddu, gyda golygfeydd tuag at y Fenai. / A grand historic home, beautifully updated, with views towards the Menai.

English Below

“Cartref llawn hanes, wedi’i ail-ddychmygu ar gyfer bywyd modern”

Cartref o 1890, yn llawn hanes a phresenoldeb, sy’n teimlo’n arbennig o’r eiliad y byddwch yn camu i mewn - ty sydd wedi sefyll prawf amser ac yn parhau i gynnig rhywbeth prin heddiw.

Y tu ol i’r drws ffrynt trawiadol, mae’r cartref yn agor i gyfres o ystafelloedd mawr a chysurus, lle mae nenfydau uchel, gwydr lliw mewn ffenestri, llefydd tan gwreiddiol a hyd yn oed y clychau gweision gwreiddiol yn dal i adrodd hanes y ty. Mae wyth lle tan yma - rhai mewn marmor, eraill mewn llechi Cymreig - pob un yn ychwanegu at gymeriad a naws y lle. Mae’r ffenestri sash modern newydd yn gadael golau i lifo drwy’r ty, gan fframio golygfeydd hyfryd tuag at y Fenai.

Wrth galon y cartref mae’r gegin, yr ystafell fwyta a’r lle byw wedi’u hagor i greu un gofod arbennig, llawn golau - lle i ddod at eich gilydd. Mae’r cypyrddau llawr i nenfwd yn rhoi ymdeimlad o le a goleuni, gyda nodweddion integredig ac ynys ganolog fawr sy’n berffaith ar gyfer coginio a chroesawu. Mae polion ‘Brass’ gwreiddiol y llenni yn fframio’r ffenestri, gan dynnu’r llygad tuag allan at y Fenai sydd bron wastad yn bresennol. Mae’r lle tan nwy yma yn cael ei reoli gan ‘remote’ sy’n creu cynhesrwydd yn syth - cyffyrddiad modern mewn cartref llawn hanes.

Ar wahan i hyn, mae ystafell fyw clyd gyda llosgwr coed - lle i ymlacio’n dawel - tra bod y cyntedd mawreddog gyda’i ddrysau a’i loriau gwreiddiol yn gwneud argraff o’r eiliad cyntaf.

Mae’r cartref yn hael ac yn hyblyg, gyda wyth ystafell wely a phum ystafell ymolchi dros dri llawr. Ar y llawr cyntaf mae pedair ystafell wely fawr, dau gyda’u hystafelloedd ymolchi eu hunain, ac i fyny ar y llawr uchaf mae pedair arall ynghyd ag ystafell ymolchi arall - gyda’r potensial i greu lle hunangynhwysol , yn berffaith ar gyfer teuluoedd aml-genhedlaeth.

Islaw, mae stafelloedd tanddaearol mawr gyda phlymio, trydan a gwres - ar hyn o bryd yn weithdy ac ardal ddefnyddiol, ond gyda digon o botensial i’w droi’n ofod teuluol ychwanegol.

Y tu allan, mae’r gerddi wedi’u tirlunio’n ofalus i greu gwahanol lefydd i’w mwynhau. Gardd gaeedig gyda man eistedd - perffaith ar gyfer coffi bore - mannau tyfu llysiau, ty gwydr, a dec i fwynhau’r haul yn y prynhawn. Yn y blaen, mae’r planhigion haenog wedi’u dewis i gefnogi bywyd gwyllt, gyda choed afalau surion a magnolia yn rhoi lliw a bywyd drwy’r tymhorau.

Mae’r dreif yn lapio i fyny ochr y ty, gan roi mynediad hawdd a lle parcio helaeth - yn ddelfrydol ar gyfer bywyd teuluol a chroesawu pobl draw. O du blaen y cartref, mae’r machlud dros Gaernarfon yn rhywbeth arbennig iawn, cei’r fwynhau glassiad o win oflaen y tŷ ar ddiwedd pnawn Hafaidd.

Mae’r lleoliad yr un mor apelgar - mewn pellter cerdded i’r trac beicio, archfarchnad, ysgolion cynradd ac uwchradd, a chanolfan hamdden. Lle perffaith i deulu fyw a thyfu.

Cartref prin ei fath - i’r rhai sy’n caru teimlad traddodiadol mawreddog, ond sydd hefyd eisiau’r cysur a’r ymarferoldeb modern.

EPC – D

Band Treth Cyngor – F

Gwres Canolog Nwy

Ffenestri Haen Dwbl

“A home rich in history, reimagined for modern living.”

Built in 1890, this is a home full of history and presence - a place that feels special from the moment you step inside, having stood the test of time while continuing to offer something rare today. Beyond the striking front door, the home opens into a series of large, well-proportioned rooms, where high ceilings, stained glass windows, original fireplaces and even the original servant bells continue to tell its story. There are eight fireplaces throughout - some in marble, others in Welsh slate - each adding to the character and atmosphere of the home. Newly installed sash windows allow light to flow effortlessly through the house, framing beautiful views towards the Menai.

At the heart of the home, the kitchen, dining and living space has been opened up to create one exceptional, light-filled area - a place to come together. Floor-to-ceiling cabinetry enhances the sense of space and brightness, with integrated features and a large central island, perfect for cooking and entertaining. Original brass curtain poles frame the windows, drawing the eye out towards the Menai, which is almost always in view. The gas fireplace is controlled by remote, offering instant warmth - a modern touch within a home rich in history.

Alongside this, there is a cosy living room with a log burner - a quieter space to relax - while the grand hallway, with its original doors and flooring, creates an immediate and lasting impression. The home is generous and flexible, with eight bedrooms and five bathrooms arranged over three floors. The first floor offers four large bedrooms, two with their own en-suites, while the top floor provides a further four bedrooms and an additional bathroom - with the potential to create a self-contained space, ideal for multi-generational living.

Below, a substantial basement with plumbing, electricity and heating is currently used as a workshop and utility area, but offers excellent potential to be transformed into additional family space. Outside, the gardens have been thoughtfully landscaped to create a variety of areas to enjoy.

A sheltered walled garden with seating provides the perfect spot for a morning coffee, alongside growing areas, a greenhouse, and an elevated deck to enjoy the afternoon sun. To the front, layered planting has been designed with wildlife in mind, with crab apple and magnolia trees bringing colour and life throughout the seasons. The driveway wraps around the house, offering easy access and ample parking - ideal for family life and welcoming guests. To the front, sunsets over Caernarfon are truly special, offering the perfect setting to enjoy a glass of wine at the end of a summer’s day.

The location is equally appealing, within walking distance of the cycle track, supermarket, primary and secondary schools, and a well-equipped leisure centre - a perfect setting for family life.

A home of rare quality - for those who appreciate a grand, traditional feel, combined with the comfort and practicality of modern living.

EPC – D

Council Tax Band – F

Gas Central Heating

Double Glazing

Fibre broadband to the property

Y Cyntedd / Entrance Hallway 6' 2" x 24' 5" (1.88m x 7.44m)
Dyma lle mae’r argraff gyntaf yn dechrau - drws gwreiddiol gyda gwydr lliw, lloriau gwreiddiol a grisiau mawreddog. Gyda ystafelloedd yn arwain oddi yma, dyma ddechrau’r daith drwy’r cartref.

The wow factor begins here - original doorway with stained glass, original flooring and a grand staircase. With rooms leading off, this is where the journey through the home begins.

Stafell Fyw / Living Room 13' 6" x 16' 6" (4.11m x 5.04m)
Ystafell gysurus gyda ffenestr bae fawr a ffenestri sash newydd yn edrych dros y Fenai. Wedi’i gorffen i safon hyfryd, gyda lle tân marmor a llosgwr 'multifuel' - lle perffaith i orffen y noson.

A cosy room with a large bay window and new sash windows overlooking the Menai. Finished to a lovely standard, with a marble fireplace and multi-fuel burner - the perfect place to end the day.

Ystafell Fwyta / Dining Room 20' 0" x 14' 1" (6.10m x 4.30m)
Dyma lle mae’r mawredd yn parhau’n naturiol - ystafell sy’n teimlo’n agored ac yn fyw, yn rhan o galon y cartref. Nenfydau uchel, lloriau pren, polion llen gwreiddiol a silffoedd uwchben y drysau yn cadw’r manylion hanesyddol yn fyw. Mae’r botwm cloch yn eistedd yn falch wrth ymyl y lle tân nwy, sydd ar reolaeth gan 'remote' - nod modern mewn lle llawn cymeriad. Ystafell i aros ynddi.

The grandeur continues here - a space that now feels open, connected, and very much part of the heart of the home. High ceilings, wooden flooring, original curtain poles and plate shelves above the doors keep the home’s history alive. The bell button sits proudly beside a gas fireplace, operated by remote - a modern touch within a room full of character. A space made for lingering.

Cegin / Kitchen 12' 2" x 17' 1" (3.71m x 5.21m)
Cegin sy’n creu argraff o’r eiliad gyntaf - yn eang, llawn golau, gyda ffenestr bae ochr yn llenwi’r gofod a golau naturiol. Mae’r ynys ganolog yn creu man naturiol i ymgynnull, gyda bar brecwast ar yr ochr arall. Mae’r cypyrddau bron o’r llawr i’r nenfwd yn rhoi ymdeimlad o le a threfn, tra bod y lloriau pren yn ychwanegu cynhesrwydd a naws o foethusrwydd tawel. Gyda nodweddion integredig a popty 'range' trydan yn eistedd yng nganol y cegin, hwn yw'r stafell berffaith i goginio ynddi.

A kitchen with immediate impact - spacious and filled with light, with a side bay window drawing in natural brightness. The central island creates a natural space to gather, with a breakfast bar to the opposite side. Floor-to-near-ceiling cabinetry enhances the sense of space and order, while wooden flooring brings warmth and a quiet sense of luxury. Integrated appliances and an electric range cooker sits proudly in the centre, the perfect kitchen for cooking.

Ystafell Molchi 1 / Bathroom 1 9' 5" x 5' 8" (2.87m x 1.72m)
Fel camu’n ôl mewn amser - ystafell ymolchi llawn cymeriad, gyda dodrefn pren 'antique', nodweddion gwreiddiol hefo teimlad modern. Mae golau naturiol yn llenwi’r gofod, gan greu naws gynnes a chroesawgar.

Like stepping back in time - a characterful bathroom with dark wood furniture, brass fittings and a modern feel. Natural light fills the space, creating a warm and inviting feel.

Parlwr / Parlour 13' 5" x 12' 11" (4.08m x 3.94m)
Ased wirioneddol i’r cartref - ail ystafell fyw, ar hyn o bryd yn ystafell gerddoriaeth. Yn hanesyddol, dyma lle’r oedd ystafell y gweision, gyda’r system gloch wreiddiol yn dal i eistedd ger brig y grisiau i’r islawr. Yn llawn golau'r bore ac wrth ymyl ail gegin, mae’r gofod hwn yn cynnig hyblygrwydd - yn ddelfrydol ar gyfer byw aml-genhedlaeth neu ofod ychwanegol i deulu.

A real asset to the home - a second lounge, currently used as a music room. Historically, this would have been the butler’s quarters, with the original bell system still positioned here. Filled with morning light and set beside a second kitchen, this is a highly flexible space - ideal for multi-generational living or as an additional family room.

Utility 10' 0" x 8' 10" (3.06m x 2.69m)
Ar un adeg, dyma oedd prif gegin y cartref - heddiw’n ystafell ddefnyddiol ymarferol. Gyda sinc a phlymio, gallai’n hawdd ddychwelyd yn gegin, yn ddelfrydol ar gyfer byw aml-genhedlaeth. Mae ffenestri Velux mawr yn llenwi’r gofod a golau naturiol, gan greu naws dawel a llachar.

Once the original kitchen of the home, now a practical utility space. With a sink and plumbing in place, it could easily be reconfigured as a kitchen - ideal for multi-generational living. Large Velux windows flood the room with natural light, creating a calm and bright atmosphere.

Stafell Wely 1 / Bedroom 1 13' 9" x 12' 4" (4.20m x 3.75m)
Ystafell wely fawr yng nghefn y ty, gyda lle tan llechi yn eistedd yn falch yng nghanol y gofod. Mae sinc yn gudd yn daclus yn y gornel. Mae ffenestr sash fawr yn llenwi’r ystafell a golau haul gorllewinol. Digonedd o le am wely dwbl mawr.

A generous bedroom set to the rear of the home, with a slate fireplace sitting proudly at its centre. A wash basin is neatly tucked into the corner. A large sash window fills the room with west-facing light, and the room easily fits a large double bed.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2 17' 5" x 13' 9" (5.31m x 4.20m)
Prif ystafell wely’r cartref, yn sefyll allan oherwydd ei maint a’i golygfeydd hyfryd dros y Fenai. Mae’r ffenestr fawr yn llenwi’r ystafell a golau, gyda digon o le ar gyfer gwely super king. Ystafell eang gyda naws arbennig, ynghyd ag ystafell ymolchi ensuite.

The principal bedroom of the home, notable for its generous proportions and beautiful views over the Menai. A large window fills the space with light, with ample room for a super king bed. A spacious room with a special feel, complete with an ensuite.

En Suite 6' 4" x 6' 0" (1.93m x 1.83m)
Ystafell ymolchi ensuite ymarferol oddi ar y brif ystafell wely, gyda chawod ar wahân, sinc a thoiled. Mae ffenestr llachar yn llenwi’r gofod â golau naturiol - perffaith ar gyfer dechrau’r dydd.

A practical ensuite off the main bedroom, with a standalone shower, sink and WC. A bright window fills the space with natural light - perfect for a fresh start to the day.

Ystafell Wely 3 / Bedroom 3 13' 1" x 10' 11" (3.98m x 3.32m)
Ystafell olau gyda lle tan llechi a gorffeniad marmor, yn ychwanegu cymeriad. Mae ffenestr bae fawr yn llenwi’r gofod a golau, gyda golygfeydd dros y Fenai. Ystafell ddisglair, gyda ensuite newydd wedi’i ychwanegu’n ddiweddar.

A bright bedroom with a slate fireplace featuring a marble finish, adding character. A large bay window fills the room with light, overlooking the Menai. A light and airy space, with a recently added ensuite.

En Suite 2 8' 9" x 3' 4" (2.67m x 1.01m)
Ensuite modern wedi’i ychwanegu’n ddiweddar - gofod ymarferol gyda chawod ar wahan, sinc a thoiled. Gorffeniad ffres a glan.

A newly added ensuite - a practical space with a standalone shower, sink and WC. Finished in a fresh, modern style.

Prif Ystafell Molchi / Family Bathroom 13' 1" x 5' 10" (3.98m x 1.79m)
Ystafell wirioneddol gain sy’n llawn moethusrwydd tawel. Wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, mae’r lloriau effaith marmor yn adlewyrchu’r bath mawreddog a’r gawod aur uwchben. Gofod sydd yn teimlo’n arbennig iawn.

An exquisite space, quietly luxurious in its finish. Recently renovated, with marble-effect flooring reflected in the grand bath and overhead brushed gold showerhead. A room that feels truly special.

Ystafell Wely 4 / Bedroom 4 13' 1" x 13' 1" (3.98m x 4.00m)
Ystafell wely fawr arall, yn llawn golau'r bore. Mae ffenestr sash fawr yn edrych dros yr ardd gefn, tra bod lle i wely mawr. Mae lle tan llechi a gorffeniad marmor yn ychwanegu cymeriad i’r gofod.

Another generous bedroom, filled with morning light. A large sash window overlooks the rear garden, with ample space for a large bed. A slate fireplace with a marble finish adds character to the room.

Ysyafell Wely 5 / Bedroom 5 13' 11" x 12' 2" (4.25m x 3.70m)
Wedi’i leoli ar frig y ty, mae’r ystafell hon yn mwynhau haul gorllewinol drwy’r prynhawn. Ystafell fawr gyda digon o le ar gyfer gwely dwbl mawr.

Set at the top of the house, this room enjoys western sun throughout the afternoon. A spacious bedroom with ample room for a large double bed.

Ystafell Wely 6 / Bedroom 6 16' 6" x 13' 11" (5.02m x 4.25m)
Ar hyn o bryd yn swyddfa, mae’r ystafell hon yn gysurus a thawel. Mae lle tan llechi yn ychwanegu cymeriad, gyda ffenestr gorllewinol a Velux mawr yn agor golygfeydd tuag at y Fenai.

Currently used as an office, this room is cosy and quiet. A slate fireplace adds character, with a west-facing window and large Velux opening views towards the Menai.

Ystafell Wely 7 / Bedroom 7 13' 11" x 13' 7" (4.25m x 4.13m)
Fel 'stafell o stori tywlydd teg - ystafell gysurus a thawel gyda ffenestr fach swynol sy’n cynnig y golygfeydd uchaf o’r ty. Mae mynediad a rennir i ensuite gyda ystafell arall, yn ddelfrydol ar gyfer gwesteion.

Like something from a storybook - a cosy and quiet room, with a charming small window offering the highest views from the house. Shared access to an ensuite with another bedroom makes it ideal for guests.

En Suite 3 7' 6" x 6' 0" (2.29m x 1.83m)
Ensuite llachar sy’n cael ei rannu rhwng dwy ystafell wely. Gyda chawod drydan, sinc a thoiled, ac yn llawn golau naturiol drwy ffenestr Velux.

A bright ensuite shared between two bedrooms. With an electric shower, sink and WC, and filled with natural light from a Velux window.

Ystafell Wely 8 / Bedroom 8 13' 7" x 13' 1" (4.14m x 3.98m)
Ystafell olaf y cartref, yn eistedd yn dawel yng nghefn y ty gyda golygfeydd dros yr ardd. Mae mynediad i ensuite, ac mae digon o le ar gyfer gwely mawr.

The final bedroom in the home, quietly set to the rear overlooking the garden. With access to an ensuite and ample space for a large bed.

Ystafell Danddaear 1 / Basement Room 1 15' 10" x 13' 10" (4.82m x 4.21m)
Islawr mawr gyda grisiau’n arwain o’r llawr gwaelod, yn cynnwys tri gofod defnyddiol. Yn ddelfrydol ar gyfer storio a golchi dillad, ac yn gartref i’r boeler newydd a’r system 'pressure', gan sicrhau llif dwr cryf drwy’r cartref.

A substantial basement accessed via a staircase from the ground floor, forming one of three useful spaces. Ideal for storage and laundry, and housing the new boiler and pressurised system, ensuring strong water flow throughout the home.

Ystafell Danddaear 2 / Basement Room 2 16' 10" x 14' 1" (5.14m x 4.29m)
Ar hyn o bryd yn weithdy, mae’r ystafell eang hon yn cynnig potensial gwych i’w thrawsnewid yn ofod teuluol defnyddiol - boed yn ystafell sinema, ystafell snwcer neu weithle. Gyda gwres a ffenestr yn caniatau golau naturiol, mae’n ofod hyblyg sy’n addas i’w ail-ddychmygu.

Currently used as a workshop, this spacious room offers excellent potential to be transformed into a versatile family space - whether a home cinema, snooker room or workspace. With heating and a window allowing natural light, it’s a flexible area ready to be reimagined.

Location

Wedi’i leoli ar un o strydoedd mwyaf poblogaidd Caernarfon, mae’r ardal hon yn cynnig cymysgedd gwych o gymuned, cyfleustra a mynediad at natur. O fewn pellter cerdded mae’r trac beicio, archfarchnad, ysgolion cynradd ac uwchradd, a chanolfan hamdden fodern. Mae Caernarfon ei hun yn gymuned Gymreig fywiog a chroesawgar mewn sawl ystyr. Mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd bob dydd yma - i’w chlywed ac i’w gweld ym mhob man, o’r siopau annibynnol lleol i’r llyfrgell a thu hwnt. Mae ymdeimlad cryf o gymuned, gyda rhywbeth at ddant pawb - o glybiau rhedeg a chôr, i grwpiau rhiant a phlentyn a hyd yn oed clybiau cyri. Mae digwyddiadau blynyddol fel Gwyl Fwyd Caernarfon a’r wyl lenyddol ‘Gwyl Arall’ yn ychwanegu at naws unigryw’r dref, tra bod y ganolfan hamdden leol yn ganolbwynt prysur i’r gymuned, gyda dosbarthiadau ffitrwydd, tennis, nofio a chyfleoedd gwych i blant gymryd rhan mewn chwaraeon. Gyda sin celfyddydol gref a chymuned o wneuthurwyr lleol, mae Caernarfon yn lle sydd byth yn brin o fywyd nac o bethau i’w gwneud - tref lle mae’n hawdd teimlo’n gartrefol. / Situated on one of Caernarfon’s most sought-after streets, this location offers a wonderful balance of community, convenience and access to nature. Within walking distance are the cycle track, supermarket, primary and secondary schools, and a modern leisure centre. Caernarfon itself is a vibrant and deeply Welsh community in every sense. The Welsh language is a natural part of everyday life here - heard and seen throughout the town, from independent local shops to the library and beyond. There is a strong sense of community, with something for everyone - from running clubs and choirs to parent and toddler groups, and even curry clubs. Annual events such as the Caernarfon Food Festival and the literary festival ‘Gwyl Arall’ add to the town’s unique character, while the local leisure centre is a busy hub for the community, offering fitness classes for all ages, tennis, swimming, and great opportunities for children to get involved in sport.nWith a strong arts scene and a thriving community of local makers, Caernarfon is a town that never feels short of life or things to do - a place where it’s easy to feel at home.

Property Disclaimer

All information provided in this advert is based on details supplied to us by the vendor and is given in good faith. While we make every effort to ensure accuracy, we cannot guarantee the completeness or correctness of the information provided. Prospective purchasers must satisfy themselves as to the accuracy of all details.

Please note that we have not tested any services, systems, appliances, or fittings at the property, and no warranties can be given as to their working order. Any measurements, floor plans, or photographs are for illustrative purposes only and should not be relied upon as exact representations.

We accept no liability for any errors, omissions, or misstatement in this property information pack.

You may also like

Sold STC

South Penrallt
Caernarfon

£180,000
8    5

For Sale

Y Wern
Y Felinheli

£265,000
8    5

For Sale

Bryn Y Waen
Y Felinheli

£410,000
8    5